Mam yn 'fregus' ar ôl i fenyw dwyllo elusen ei mab fu farw

Natalie Ridler
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlodd Natalie (canol) elusen yn enw ei mab, Morgan (dde), fu farw yn dair oed

  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Abertawe’n dweud ei bod yn teimlo’n “fregus” ar ôl i fenyw dwyllo elusen a gafodd ei sefydlu yn enw ei mab fu farw.

Bu farw Morgan Ridler, oedd yn dair oed y llynedd ar ôl cael diagnosis o fath prin o ganser.

Dywedodd ei fam, Natalie Ridler a sefydlodd elusen Morgan’s Army, ei bod wedi derbyn cais gan fenyw oedd yn honni bod gan ei phlentyn hi ganser a'i bod hi angen help i ariannu triniaeth dramor.

Ond wythnosau ar ôl cefnogi Charlotte Blackwell, 40 o Ben-y-bont ar Ogwr, drwy ei helpu i godi arian ar gyfer triniaeth, daeth Mrs Ridler i ddeall ei bod wedi dweud celwydd.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Natalie Ridler bod hyn wedi dangos "pa mor naïf y galla’ i fod, hyd yn oed os yw teuluoedd wedi bod trwy’r pethau erchyll ry’n ni wedi, y bydden nhw’n dal i drio gwneud pethau fel hyn”.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Morgan Ridler ddiagnosis o fath prin o ganser yn 2021

Roedd Natalie Ridler yn siarad wedi i Blackwell bledio'n euog yn Llys Ynadon Caerdydd o dwyllo elusen Morgan's Army er mwyn ceisio cael £4,000 iddi hi ei hun.

Ar 15 Awst, cafodd ei dedfrydu i 10 mis yn y carchar, wedi'i ohirio am 21 mis.

Bydd yn rhaid iddi hefyd gwblhau 180 awr o waith di-dâl ac mae hi wedi cael cyrffyw am bedwar mis rhwng 20:00 a 07:00.

O Orseinon ger Abertawe, mae Morgan’s Army yn cefnogi teuluoedd sy’n wynebu galar a thriniaeth canser.

Pan gysylltodd Blackwell â nhw yn gynharach eleni, dywedodd Mrs Ridler iddi ei helpu gyda chyngor codi arian.

“Roedd y teulu’n gofyn am help. Roedd hi eisiau arian tuag at driniaeth," meddai.

“Fe wnaethon ni estyn allan at elusennau eraill oedd yn arbenigo yn hyn.”

Dywedodd Mrs Ridler eu bod wedi helpu'r teulu gyda thudalen GoFundMe.

Ond sylwodd fod Blackwell yn amharod i gael cymorth gan elusennau eraill.

“Siaradais â rhai elusennau – ac er eu bod yn gyfarwydd â’r teulu hwn oherwydd eu bod wedi cael diagnosis canser rai blynyddoedd yn ôl – dywedon nhw nad oedd y teulu yn ail-chwilio am driniaeth.

“Pan wnes i drio ffonio’r fam, doedd hi ddim yn ateb, ac yn dal meddwl am esgusodion.

“Gofynnais iddi yn blaen… roedd tawelwch.”

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

“Rwy’n benderfynol o fyw yn ôl y gwersi bywyd a ddysgodd Morgan i mi"

Cysylltodd Mrs Ridler â'r heddlu a'r Comisiwn Elusennau.

“Fe wnaethon ni rewi'r dudalen Go Fund Me a chael ad-daliad o roddion pawb yn ôl iddyn nhw.

“Ro’n i wedi treulio dwy neu dair wythnos yn siarad â’r person hwn, yn ceisio ei chynnal yn emosiynol trwy ofal lliniarol, ac yn ceisio ei helpu i godi arian ar gyfer triniaeth.

“Fe wnaeth i fi deimlo fy mod wedi methu’r elusen. Roeddwn i'n meddwl bod ein gwaith gwirio ni’n ddigon trylwyr."

'Teimlo'n dwp ac yn siomedig'

Dywedodd Mrs Ridler iddi “deimlo’n dwp ac yn siomedig” ar ôl y profiad.

“Yn dilyn y ddedfryd, bu’n rhaid i mi wneud llawer o hunanfyfyrio ar ba mor fregus ydw i oherwydd fy mod yn rhannu ein galar a’n bywyd mor agored ar-lein.

“Rydyn ni'n helpu llawer o bobl sy'n mynd trwy alar a chyfnodau anodd oherwydd rydyn ni'n siarad mor agored a gallwn ni eu helpu i deimlo nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.

“Rwy’n benderfynol o fyw yn ôl y gwersi bywyd a ddysgodd Morgan i mi. Bod yn empathetig, bod yn dosturiol a charu ac ymddiried.”

Pynciau cysylltiedig