Morgan Ridler: 'Siom bod twyllwr yn codi arian yn ei enw'

  • Cyhoeddwyd
Rhiannon, Natalie a Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natalie (canol) wedi sefydlu elusen yn enw ei mab, Morgan (dde), fu farw yn dair oed

Mae mam o Abertawe a gollodd ei mab fis diwethaf wedi "siomi" ar ôl clywed bod twyllwr wedi "mynd o ddrws i ddrws" yn casglu arian yn enw ei mab.

Bu farw Morgan Ridler o Orseinon yn dair oed ar ôl cael diagnosis o fath prin o ganser yn 2021.

Yn gynharach eleni, fe sefydlodd ei deulu elusen yn ei enw - Morgan's Army - i helpu teuluoedd eraill sydd ar siwrnai debyg.

Ar ôl deall bod rhywun wedi bod yn ceisio "manteisio" ar yr elusen, fe gysylltodd mam Morgan, Natalie Ridler, â'r heddlu.

"Cwpl o ddiwrnodau'n ôl, fe ges i neges Facebook ynglŷn â dyn oedd yn mynd o ddrws i ddrws mewn tref, sydd ddim yn bell o'n un ni, yn dangos siwmper oedd wedi ei gynhyrchu'n wael gyda logo gwael ar y top," eglurodd Natalie.

"Roedd e'n gofyn i bobl dalu £40 i archebu un ac y byddai'n ei ddosbarthu, ond bod angen arian parod arno.

"Dwi'n meddwl fod rhai pobl, yn drist, wedi gweld cyfle i fanteisio ar y bwrlwm o fewn y cyfryngau ar hyn o bryd am Morgan... a gwneud rhyw arian cyflym am ba bynnag rheswm."

'Fy mabi bach'

Dywedodd Natalie ei bod wedi ei siomi: "Beth sy'n anodd yw os y'n nhw'n targedu pobl fregus a'r bobl fregus hynny'n rhoi arian iddyn nhw, yna maen nhw'n troseddu.

"I dwyllo unrhyw elusen, mae'n ofnadwy, ond i dwyllo elusen ganser plant, mae hynny bron ar lefel arall.

"Mae'n arbennig o amrwd gan mai dim ond bedair wythnos yn ôl y bu Morgan farw - fy mabi bach."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Morgan Ridler ddiagnosis o fath prin o ganser yn 2021

"Ro'n i'n siomedig achos ry'n ni 'di creu gymaint o deimlad da o amgylch yr elusen... gan ddod â chymunedau at ei gilydd drwy stori Morgan," ychwanegodd.

"A dwi eisiau i'w waddol fod yn un o gariad a gonestrwydd a helpu pobl, nid pobl yn helpu eu hunain."

Dywedodd Natalie ei bod wedi rhannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhybuddio am y twyll honedig.

"Ro'n i'n drist iawn i orfod ysgrifennu neges, achos nawr dwi'n poeni y gallai pobl amau'r bobl sydd yn codi arian i ni," dywedodd.

"Mae mwyafrif y rheiny sy'n codi arian i ni yn anrhydeddus, yn wir, yn defnyddio'r protocol addas ac wedi siarad â ni."

Fe wnaeth Natalie annog unrhyw un sy'n dymuno rhoi arian i gysylltu yn uniongyrchol â'r elusen drwy sianeli swyddogol.

Mae Heddlu De Cymru wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig