'Gwelliannau' wrth fynd i'r afael â'r diciâu mewn gwartheg

- Cyhoeddwyd
Mae difa gwartheg beichiog oedd â'r diciâu (TB), a hynny ar ffermydd, wedi cael ei osgoi mewn chwarter o achosion dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae'n dilyn newid polisi a ddaeth yn sgil rhybuddion gan y diwydiant ffermio am y pryder dybryd sydd wedi'i achosi o orfod gwylio gwartheg yn cael eu saethu ar eu ffermydd.
Dywedodd prif filfeddyg Cymru, Dr Richard Irvine, bod y wlad yn "gwneud gwelliannau" gyda'r rhaglen dileu'r diciâu, ac yn gweld "lleihad tymor hir mewn achosion newydd o TB".
Adolygu'r polisi lladd ar y fferm oedd blaenoriaeth gyntaf y Grŵp Cynghori Technegol (TAG).

Dywedodd Huw Irranca-Davies fod "newidiadau gwirioneddol" wedi'u gwneud
Mae adborth ar y newid polisi wedi bod yn gadarnhaol gyda nifer o ffermwyr yn dewis oedi cyn lladd gwartheg cymwys.
Ers cyflwyno'r polisi newydd flwyddyn yn ôl, mae lladd ar y fferm wedi cael ei osgoi trwy gael gwared ar tua chwarter yr anifeiliaid – 242, o 111 o fuchesi unigol – a fyddai wedi cael eu lladd ar y fferm yn flaenorol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod "newidiadau gwirioneddol" wedi'u gwneud i fynd i'r afael â'r clefyd a chefnogi ffermwyr trwy gyfnodau anodd.
"Rydw i wedi gweld drosof fy hun y poen meddwl y mae TB yn ei achosi i deuluoedd a busnesau ffermio ac rwy'n awyddus i gymryd camau i fynd i'r afael ag ef," meddai.
Bydd newidiadau pellach i'r polisi TB yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2024
- Cyhoeddwyd18 Medi 2024
- Cyhoeddwyd13 Awst 2024