Newid sylweddol i bolisi difa gwartheg TB ar y fferm

GwarthegFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Nod y newidiadau, yn ôl Llywodraeth Cymru, ydy lleihau nifer y gwartheg sy'n gorfod cael eu lladd ar ffermydd Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd newidiadau'n cael eu cyflwyno yn syth i'r polisi yn ymwneud â difa gwartheg sydd wedi profi'n bositif am y diciâu (TB).

Bydd y newid yn golygu na fydd yn rhaid lladd gwartheg beichiog ar y fferm.

Cafodd cyfarfod o'r grŵp cynghori technegol ar TB ei gynnal ar 17 Ebrill, ac mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyflwyno'r argymhellion yn llawn.

Nod y newidiadau, yn ôl Llywodraeth Cymru, ydy lleihau nifer y gwartheg sy'n gorfod cael eu lladd ar ffermydd Cymru.

Mae'n golygu na fydd ffermwyr yn gorfod difa buwch neu dreisiad yn ei 60 diwrnod olaf o feichiogrwydd ac anifeiliaid sydd wedi geni llo yn y saith diwrnod diwethaf, cyn belled â'u bod yn cymryd mesurau bioddiogelwch i amddiffyn gwartheg eraill y fuches.

Bydd yna hyblygrwydd hefyd os ydy buwch yn cael meddyginiaeth.

Mae'r newidiadau yn debyg i'r rheolau yn Lloegr.

Mae ffigyrau yn dangos 8% o gynnydd yn nifer y gwartheg a gafodd eu lladd ar ffermydd Cymru yn ystod 2023 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Cafodd 9,515 eu lladd yn 2022, o gymharu â 10,299 yn 2023.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae hyn yn newyddion rydyn ni’n ei groesawu," meddai Dai Miles, is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru

Mae'r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan Dai Miles, is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

"Wrth gwrs ni'n croesawu hyn yn fawr iawn. Rwy'n obeithiol iawn am y dyfodol yn sgil beth dwi wedi clywed," meddai.

"Mae hyn yn newyddion rydyn ni’n ei groesawu ac rydym yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando ar bryderon y diwydiant, ac yn bwysicaf fyth, cymryd camau gweithredu a derbyn yr argymhellion hyn yn llawn.

"Nod yr argymhellion ydy lleihau'r nifer o wartheg sydd yn gorfod cael eu difa ar y ffarm, yn dilyn achosion o TB, ac i gynnig mwy o gefnogaeth pan mae rhaid lladd ar y ffarm.

"Rydym yn croesawu’r ffaith bod y broses hon wedi digwydd mor gyflym ac yn gobeithio y gellir rhoi’r camau hyn ar waith cyn gynted â phosibl i leihau’r achosion o ladd ar ffermydd.

"Mae effeithiau’r broses hon yn cael canlyniad andwyol hirdymor ar iechyd a lles ein teuluoedd amaethyddol."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r effaith emosiynol yn enfawr ar y ffarmwr, y teulu a'r gweithwyr," meddai Roger Lewis, ffermwr llaeth o Sir Benfro

Mae Roger Lewis yn ffermwr llaeth o Sir Benfro, ac ef yw cadeirydd grŵp ffocws TB NFU Cymru.

"Mae'r effaith emosiynol yn enfawr ar y ffarmwr, y teulu a'r gweithwyr - pawb sydd yn gysylltiedig â'r ffarm," meddai.

"Mae gweld y rhaid sydd yn feichiog yn cael eu difa yn achosi'r diflastod mwyaf i ffermwyr.

"Ni'n ddiolchgar bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwrando ar ein pryderon a chymryd cyngor gan y grŵp, er mwyn ceisio lleihau'r nifer sydd yn cael eu lladd ar y ffarm.

"Mae'n rhoi opsiynau i ffermwyr. Mae'n newid sylweddol i'r polisi."

'Profiad erchyll'

Mae Aled Rees, yn byw dan gysgod TB ym Mhenparc ger Aberteifi ers 18 mis, ac wedi cael y profiad o orfod difa gwartheg beichiog ar y fferm.

"Ma' fe'n rhywbeth so chi'n anghofio," meddai.

"Bob tro chi'n testio, yn enwedig pan ma' 'da chi wartheg dy'n feichiog, chi'n gobeithio i Dduw bo' nhw ddim am fynd lawr â TB, achos chi'n gwybod beth sy' o'ch blaen chi.

"Ma' fe'n brofiad erchyll."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Rees yn croesawu'r newid, ond yn dweud bod angen mynd ymhellach

Ychwanegodd ei fod yn teimlo bod angen i'r llywodraeth hefyd sicrhau bod mwy nag un person yn dod i'r fferm i ddifa, ar yr achlysuron hynny ble mae'n rhaid gwneud hynny ar y fferm.

"Be' sy'n annerbyniol, pan y'n ni'n gorfod gwneud hyn, yw bo' ni fel ffermwyr yn gorfod actio fel slaughermen mewn ffordd, a helpu y dyn sy'n dod i 'neud e," meddai

"Dwi'n croesawu'r datganiad heddi - mae'n dangos bod y llywodraeth yn gwrando a bo' nhw'n fodlon rhoi opsiynau i ffermwyr.

"Ond dyw'r opsiwn yna ddim yn mynd i helpu pawb yn y diwydiant."

'Chwarae ar ein meddwl ni'

Mae Stephen James yn ffermio 370 o wartheg godro yng Nghlunderwen yn Sir Benfro, ac mae ef wedi cael y profiad hefyd o orfod lladd gwartheg ar y fferm oherwydd TB.

"'Dyn ni ddim wedi setio lan i ladd anifeiliaid iach [ar y fferm]," meddai ar Dros Frecwast fore Gwener.

"Pan maen nhw'n mynd i'r lladd-dy, mae wedi setio lan - 'na beth sy'n digwydd yn y lladd-dy.

"Dyw un fuwch ddim yn gweld y llall yn cael ei saethu. Ond ar y ffarm mae'n gallu bod yn anodd 'neud 'ny.

"Dyw e ddim mor saff hefyd. Os chi'n gorfod gwneud mwy nag un fuwch, mae'r llall yn gweld y cyntaf yn cael ei saethu, a dyw hwnna ddim yn gweithio'n rhy dda.

"Y ffarmwr ei hunan sy'n gorfod bod 'na, a mae hynny'n chwarae arnom ni - ar ein meddwl ni.

"Mae iechyd meddwl yn bwysig yn y sefyllfa hyn, a os gallwn ni wella hynny, ry'n ni'n croesawu'r cyhoeddiad."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Irranca-Davies fod "beth sydd yn newid heddiw yn arwyddocaol"

Fe wnaed y cyhoeddiad yn ystod ymweliad gan yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies gyda fferm Rhadyr ym Mrynbuga, ble cafwyd achosion o TB yn ddiweddar.

"Mae beth sydd yn newid heddiw yn arwyddocaol," meddai.

"Ry'n ni wedi cael llawer o adborth gan ffermwyr, yn cynnwys y teulu Williams fan hyn ym Mrynbuga, taw un o'r pethau mwyaf trawmatig wrth ddelio gyda TB ydy gorfod difa gwartheg ar y ffarm, yn enwedig pan mae gwartheg yn drwm o lo.

"Ni'n derbyn yr argymhellion gan y grŵp yn llawn, felly fe fydd gyda ni ffordd well ymlaen sydd wedi ymateb i farn pobl yn y diwydiant, a delio gyda'r broblem mewn ffordd fwy tosturiol."

Bydd Llywodraeth Cymru, NFU Cymru, FUW a chynrychiolwyr eraill o'r sector gwartheg yn sefydlu gweithgor dan arweiniad y diwydiant i weld sut y gellid osgoi lladd ar y fferm a lleihau ei effeithiau.