Antur Waunfawr: Angen cefnogaeth wedi bil Yswiriant Gwladol uchel

Ellen Thirsk
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ellen Thirsk, Prif Weithredwr Antur Waunfawr, nad yw'r sefyllfa ariannol bresennol yn gynaliadwy

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weithredwr Antur Waunfawr, Ellen Thirsk, wedi galw am gefnogaeth frys gan Lywodraeth y DU ar ôl cael gwybod y bydd y ganolfan yn derbyn bil yswiriant gwladol o dros £71,000.

Mae'r ganolfan, sy'n helpu pobl ag anableddau dysgu, yn dweud eu bod yn wynebu pwysau ariannol mawr.

Mae Aelod Arfon yn y Senedd, Sian Gwenllian hefyd yn pryderu ac yn dweud bod nifer o ganolfannau eraill sy'n helpu pobl fregus yn wynebu heriau ariannol tebyg.

Dywed Llywodraeth y DU eu bod yn "cefnogi ein helusennau trwy gyfundrefn dreth arloesol, a llynedd yn unig roddwyd £6biliwn mewn cymorth i'r sector".

Criw yr her seiclo Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Her seiclo 40 milltir i ddathlu pen-blwydd deugain oed Antur Waunfawr

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Ellen Thirsk fod y broblem hon am gael "effaith sylweddol" ar y ganolfan a'r sector.

"Mae amdan mwy na ni - mae mudiadau ar draws Cymru, mudiadau cymunedol trydydd sector sy'n rhoi gwasanaethau hanfodol ac yn gwneud lot o waith ataliol [yn dioddef]," meddai

Dywedodd nad oes modd iddyn nhw godi mwy o dâl ar rieni am y gofal gan eu bod yn y sector gyhoeddus.

"Sut fedrwch chi feddwl fod hyn yn gynaliadwy? Dydi o ddim, 'da ni mewn her economaidd sylweddol yn barod," ychwanegodd.

'Dydi o ddim yn gwneud synnwyr'

Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn "derbyn bod yr esgid yn gwasgu a bod gwasanaethau iechyd yn hanfodol" ond "ar ddiwedd y dydd pam fod gofal cymdeithasol a gofal yn y gymuned... yn cael eu cosbi?" gofynnodd.

"Dydi o ddim yn gwneud synnwyr i mi."

Dywedodd y bydd yn rhaid iddi edrych ar sut y bydd y bil enfawr yma yn effeithio ar sut mae'r ganolfan yn rhedeg ac o bosib bod yn rhaid ystyried cwtogi staff.

"Dwi ddim isho codi pryder efo staff Antur Waunfawr… o ran staff gofal does gennym ni'm dewis ond darparu gofal.

"Da chi'n gorfod edrych ar bob swydd arall sy'n codi."

Dywedodd ei bod yn poeni am ddiffyg cyfleoedd gwaith i bobl ifanc yr ardal oherwydd yr hinsawdd economaidd: "Lle mae'r bobl ifanc ma'n mynd i fynd? Mae'n gylch economaidd".

Mae sefydliadau tebyg eisoes wedi rhybuddio y bydd yn rhaid cwtogi neu gael gwared ar wasanaethau yn sgil bwriad Llywodraeth y DU i godi treth Yswiriant Gwladol i gyflogwyr.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn cefnogi ein helusennau trwy gyfundrefn dreth arloesol, a llynedd yn unig rhoddwyd £6biliwn mewn cymorth i'r sector.

"Mae hyn yn cynnwys eithriadau o dalu trethi busnes yn Lloegr - pwer sydd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru a fydd yn derbyn setliad o 21 biliwn o bunnoedd, y swm mwyaf erioed."