Antur Waunfawr yn lansio gwasanaeth beiciau trydanol

  • Cyhoeddwyd
Beics Antur
Disgrifiad o’r llun,

Y criw yn barod i fynd am dro ar eu beics trydanol o amgylch Caernarfon

Mae menter cymdeithasol blaenllaw, sy'n cyflogi a chefnogi pobl ag anableddau dysgu a chorfforol yng Ngwynedd, wedi agor canolfan newydd yng nghanol Caernarfon.

Un o'r gwasanaethau newydd mae Antur Waunfawr yn ei gynnig ym Mhorth yr Aur, Caernarfon ydy trosi beics cyffredin yn e-feics.

Maen nhw wedi gweld cynnydd mawr yn y diddordeb mewn beiciau trydanol.

Dywedodd eu Swyddog Beics, Tom Workman: "'Da ni 'di clywed gan lot o bobl efo diddordeb trosi beic ar gyfer eu hunain neu riant, sydd efallai ddim yn beicio llawer erbyn hyn.

"Maen nhw'n attached i'r beic ond eisiau trio e-feic. Ti ddim yn gorfod rhoi'r gorau i'r beic, ti'n gallu jyst addasu fo yn un trydan.

"Mae diddordeb mawr allan ar y llwybrau ac maen nhw'n haws i fynd arnyn nhw. Dwi'n gweld lot o bobl allan yn Eryri ar yr e-feics a ddim yn chwysu o gwbl!

"Ti'n gallu cario plant yn haws ar seddi beics - mae'n gallu bod yn anodd felly mae'r modur yn gallu helpu efo hynny.

"'Dwi'n siŵr fydd hi'n haf prysur eleni. 'Da ni'n gweld lot o bobl yn dod i Gaernarfon ar eu gwyliau ac mae'r Tour de France yn dechrau'n fuan - mae hynny'n atgoffa pobl bod beicio yn bodoli, ac maen nhw allan yn eu lycra!"

Disgrifiad o’r llun,

Tom Workman yn addasu beic yn e-feic ar safle newydd Antur Waunfawr yng Nghaernarfon

Mae'r ganolfan Iechyd a Llesiant newydd yn adeilad deulawr sy'n cynnwys gweithdy a siop Beics Antur, yn ogystal â Llofft Llesiant fydd yn stiwdio ar gyfer cynnal pob math o weithgareddau ac ar gael i'r cyhoedd ei llogi.

Bydd hefyd yn cynnwys ystafell synhwyraidd unigryw, fydd o fudd i unigolion gydag anableddau dwys neu nam ar y synhwyrau.

Mae'r datblygiad yn brosiect gwerth £1m, gyda £466,000 wedi'i ariannu gan grantiau amrywiol ac ymgyrch cyllid torfol, a'r gweddill yn fuddsoddiad gan gwmni Antur Waunfawr ei hun.

Ers sefydlu yn 1984 mae cwmni elusennol Antur Waunfawr wedi cynnig gwaith pwrpasol yn y gymuned i bobl ag anableddau dysgu.

Mae'r fenter hefyd yn rhoi pwyslais ar gynaladwyedd a gwarchod yr amgylchedd yn greiddiol i'w gweithgareddau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Haydn Wyn Jones, Uwch Reolwr Antur Waunfawr, bod "beics yn gallu chwarae rôl bositif ym mywydau pobl"

Yn ogystal â'r gwasanaeth beics, maen nhw wedi datblygu dros y blynyddoedd i gynnig gwasanaethau ailgylchu, gwerthu dodrefn a dillad ail law, ymysg pethau eraill.

Mae'r Antur bellach yn cyflogi dros 100 aelod o staff, ac yn cefnogi dros 65 o oedolion gydag anableddau dysgu.

Dywedodd Haydn Wyn Jones, Uwch Reolwr Antur Waunfawr: "Mae'n gyfnod cyffrous i ni. Ers tri degawd rŵan, 'da ni wedi bod yn cael dylanwad ar yr economi leol gobeithio, ac ar bobl drwy greu swyddi.

"'Da ni'n gynaliadwy fel cwmni, 'da ni wedi bod yn tyfu a hwn ydy'r cam nesa'."

Yn ogystal â chynnig gwasanaethau beics i'r cyhoedd, mae'r Antur hefyd yn cefnogi ysgolion lleol ac yn mynd ag oedolion sydd ag anableddau dysgu allan ar y beics yn rheolaidd.

Mae'r e-feics yn profi'n boblogaidd gydag unigolion fel Mel ac Owen, sy'n cael cefnogaeth gan Antur Waunfawr.

"Nes i fwynhau'n ofnadwy a dwi'n licio'r e-feic," meddai Mel. "Dwi'n licio'r beics tair olwyn hefyd."

Roedd Owen hefyd wedi mwynhau: "Mae e-feic yn haws am bod ganddo fo fotwm pŵer sy'n gwneud i'r beic fynd yn gyflymach na beic cyffredin."

Ychwanegodd Haydn Wyn Jones: "Oherwydd iechyd a llesiant, a iechyd meddwl, 'da ni'n gweld bod beics yn gallu chwarae rôl bositif ym mywydau pobl.

"Mae'r unigolion yn mwynhau mynd allan ar eu beics a dyna ydy'r prif reswm 'da ni'n bodoli fel menter gymunedol. Yr unigolion sy'n gwneud yr Antur."

Cefnogwyd y prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Bydd y prosiect sydd wedi derbyn £150,000 o gefnogaeth oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru, yn helpu i ddarparu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy a mynd i'r afael â thlodi a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Mae'r datblygiad yn ei gyfanrwydd yn brosiect gwerth £1m, gyda £466,000 wedi'i ariannu gan grantiau amrywiol ac ymgyrch cyllid torfol, a'r gweddill yn fuddsoddiad gan gwmni Antur Waunfawr ei hun.

Pynciau cysylltiedig