'Gobaith i'r dyfodol' gan mai'r Gymraeg yw 'iaith pobl ifanc' sir fwyaf Cymru

Arwydd ym MhowysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ffigyrau'r cyfrifiad diweddaraf, fe ddisgynnodd canran y siaradwyr Cymraeg ym Mhowys i 16.2% yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Powys wedi cymeradwyo strategaeth bum mlynedd i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn y sir.

Gweledigaeth y strategaeth newydd yw cefnogi mwy o bobl i siarad Cymraeg yn hyderus a defnyddio'r iaith yn eu cymunedau ledled Powys.

Ond mae ffigyrau cyfrifiadau diweddar yn dangos bod canran y siaradwyr Cymraeg yn y sir wedi bod yn gostwng ers dechrau'r ganrif – o 21.1% yn 2001, i 18.6% yn 2011 a gostyngiad pellach wedyn yn 2021 i 16.2%.

Er gwaetha'r cwymp yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, mae'r strategaeth yn dweud bod "gobaith ar gyfer y dyfodol" gan fod ffigyrau'r cyfrifiad yn dangos fod "y Gymraeg yn iaith pobl ifanc ym Mhowys."

Blaenoriaeth y strategaeth yw atal gostyngiad pellach yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn 2025 a 2030.

Er mwyn gwneud hynny mae'n gosod tri amcan, sef:

  • Cynyddu nifer y plant a'r bobl ifanc ym Mhowys sy'n siarad Cymraeg yn hyderus;

  • Cynyddu defnydd y Gymraeg yng ngwaith mewnol y cyngor;

  • Annog busnesau, y sector gwirfoddol a sefydliadau cymunedol ym Mhowys i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chwsmeriaid.

Mae 27% o bobl Powys rhwng 16 a 39 oed yn medru siarad Cymraeg yn ôl cyfrifiad 2021, sef y ganran uchaf ers degawdau.

Ar gyfer plant tair i 15 oed, mae'r un ganran (27%) yn medru siarad Cymraeg – ond mae hyn yn ostyngiad o gymharu â'r ffigyrau yn 2011 (32%) a 2001 (33%).

'Dwi'n meddwl bod y tancer yn troi'

Yn ystod cyfarfod o gabinet y cyngor, dywedodd y cynghorydd Richard Church ei bod hi'n rhwystredig ei bod hi'n cymryd cymaint o amser "i droi'r tancer" er mwyn atal y cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

Ond ychwanegodd ei fod yn gweld pethau sy'n cynnig rhywfaint o obaith.

"Dwi'n meddwl bod y tancer yn troi a bod cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n dysgu Cymraeg," meddai.

"Mae'r iaith wedi colli cenhedlaeth neu ddwy ond mae'n dod yn ôl nawr."

Yn yr un cyfarfod fe glywodd y cabinet argymhellion gweithgor ar addysg trochi iaith yn y sir – dull o ddysgu Cymraeg i blant mewn modd dwys naill ai mewn ysgolion meithrin neu mewn canolfannau arbenigol ar gyfer plant hŷn.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Powys yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu ariannu'r ddarpariaeth trochi yn y sir.

Mae'r gweithgor yn argymell y dylai'r cyngor "sicrhau cyllid ar gyfer trochi pontio ar sail barhaol nad yw'n ddibynnol ar grantiau dros dro gan Lywodraeth Cymru. Dylid gwneud hyn o adnoddau canolog."

Wrth ymateb dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, sy'n gyfrifol am addysg ym Mhowys, fod hyn yn fater sydd angen sylw pellach er mwyn deall sut mae modd gwneud hyn yn ariannol a hefyd yn ddaearyddol mewn sir fawr, wledig fel Powys.

Pynciau cysylltiedig