Safle newydd yn rhoi 'mynediad' i'r Gymraeg yn y Rhondda
- Cyhoeddwyd
Mae plant ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf wedi symud i'w hysgol newydd ar ôl blynyddoedd mewn adeilad llaith oedd yn cwympo i ddarnau.
Dydd Mercher fe wnaeth disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog symud i'r safle newydd ar Stad Ddiwydiannol Maerdy.
Roedd y plant yn arfer cael eu haddysg mewn adeilad o Oes Fictoria oedd erbyn hyn yn anaddas.
Yn ôl pennaeth yr ysgol mae agor y safle newydd yn rhoi "mynediad" i addysg Gymraeg yn y Rhondda.
Ar dop y bryn ym mhentre' Glynrhedynog yn y Rhondda Fach, mae iard chwarae'r hen ysgol gynradd yn dawel.
Tan ddiwedd y llynedd roedd 'na fwrlwm ar goridorau'r hen adeilad Fictorianaidd, ond bellach mae'r safle' wag.
"Wrth i bob blwyddyn fynd ymlaen oedd 'na gymaint mwy o broblemau gyda ni," medd pennaeth yr ysgol, Petra Davies.
"Yn gyntaf, o ran lleoliad yr ysgol doedd o ddim yn ddelfrydol bo' ni yng nghanol strydoedd - cymaint o broblemau parcio gyda staff a rheini.
"Ond yn ail, tu fewn i'r ysgol - ro'dd na lwyth o ardaloedd o'dd yn llaith, craciau mawr, yr iard yn llawn tyllau.
"Ro'dd yn frwydr yn flynyddol i gynnal ardal oedd mor hen."
Roedd cyflwr yr adeilad yn rhywbeth mae'r disgyblion yn cofio'n dda.
"Roeddwn i'n hoffi mynd i'r hen ysgol ond roedd e'n rili hen," medd Eryn.
"Oedd 'na broblemau. Y droriau, y llawr a rhai drysau.
"Ond yn yr ysgol newydd mae ganddo ni gadeiriau sy'n actually sefyll lan."
"Roedd y nenfwd bron â dod lawr bob dydd," meddai Olivia.
"Roedd y waliau efo cracks mawr trwy'r canol a'r papur wal yn dod bant. Ma'n neis bod yn yr ysgol newydd."
Ond wedi buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru, mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn bellach wedi symud i'w safle newydd.
"Mae'n golygu popeth bod yn yr adeilad newydd," medd Petra Davies.
"Mae'n teimlo fel bod pawb mewn breuddwyd ar hyn o bryd.
"Ni wedi cyrraedd fan hyn ar ôl bod mewn adeilad oedd mor fregus, ac mae dod fan hyn i gael y cyfleusterau anhygoel yma – gyda'r buddsoddiad gan y Llywodraeth a Chyngor Rhondda Cynon Taf – yn anhygoel.
"Dwi'n credu bod pawb ar hyn o bryd yn cerdded o amgylch, y plant a ni, a dy'n ni ddim yn gallu credu ein bod wedi sefydlu mewn ysgol anhygoel fel hyn."
Ychwanegodd Ms Davies: "Y peth pwysica' yw bod yna dwf mewn addysg Gymraeg a bo' 'na dwf gyda'r iaith Gymraeg, efallai y tu hwnt i beth mae pobl yn deall.
"Ar hyn o bryd, un o'r pethau sydd wedi fy nharo yn syth, yw bod rhieni yn syth wedi dechrau ffonio - y gymuned dechrau holi am yr ysgol newydd - ac maen nhw'n deall dyw addysg Gymraeg ddim tu hwnt i beth maen nhw'n gallu deall.
"Mae llwyth o staff fan hyn sydd wedi dod o deuluoedd di-Gymraeg. Dwi'n un ohonyn nhw.
"A rwy'n credu bod pobl nawr yn sylweddoli, os y'n nhw yn rhoi addysg Gymraeg i'w plant nhw, maen nhw'n rhoi anrheg arbennig iawn i blant."
'Lle i dyfu'
Mae'r safle newydd yn cynnig gofod clyd a chyfforddus i ddarparu addysg.
Ond mae hefyd yn cynnig adnodd i'r gymuned, gyda 'stafelloedd cymunedol i gynnal gweithdai i bobl yr ardal.
Mae'r buddsoddiad yn yr ardal yma o'r Rhondda hefyd yn golygu bod modd ehangu darpariaeth addysg Gymraeg.
"Ni nawr mewn sefyllfa ble ma' lle i dyfu i 270 o ddisgyblion," medd Petra Davies.
"Ni wedi symud mewn gyda 161 o ddisgyblion.
"Ond yn barod, fel o'n i'n dweud am dwf yr iaith a thwf addysg Gymraeg yn y Rhondda Fechan, ma' 'na dri o ddisgyblion oedd i fod i ddechrau efo ni ddydd Llun yn blant cyn-meithrin, a ma' hynny nawr wedi cynyddu i 10 o blant, sydd yn wych yn syth.
"Mae pawb nawr yn gallu gweld y buddsoddiad gwych mae'r cyngor a'r llywodraeth wedi ei wneud.
"Mae'n agoriad llygad i bawb, ble mae addysg Gymraeg yn rhywbeth mae pawb yn gallu cael mynediad ato."
Gyda'r holl dechnoleg ac ardaloedd chwarae dan do, mae safle newydd Ysgol Llyn y Forwyn yn sicr yn ysgol i'r 21ain ganrif.
Ond i Mikey a Jacob - mae 'na un peth amlwg am y safle newydd sy'n llawer gwell na'r hen safle Fictorianiadd ar dop y bryn yng Nglynrhedynog.
"Roedd yr iard ar ongl a'r bêl yn rowlio lawr i'r gwaelod... lot o potholes hefyd a phawb yn cwympo wrth redeg.
"Ni'n hapus efo'r safle newydd... mae'r iard yn syth a ni'n cael goliau mawr.
"A ma' paneli solar ar yr ysgol sy'n gwneud e'n fwy eco-gyfeillgar."