Dyn oedd yn pwyso 45 stôn yn 'edrych yn ôl mewn embaras llwyr'

Roedd gwast Ioan wedi cyrraedd bron i 72 modfedd pan oedd ar ei fwyaf
- Cyhoeddwyd
Ar un adeg, roedd Ioan Pollard yn pwyso 45 stôn ac roedd ei aren yn methu.
Yn 27 oed ar y pryd, roedd y newyddiadurwr angen trawsblaniad ond oherwydd ei bwysau, nid oedd yn gallu mynd ar y rhestr aros.
"Doedd gen i ddim hunan reolaeth," meddai Ioan, sy'n olygydd newyddion digidol S4C.
"O'dd bwyd a byta yn rheoli be o'n i'n 'neud a sut o'n i'n byw fy mywyd.
"Ar y pryd baswn i byth wedi cyfadda mod i yn ddibynnol ar fwyd ac yn gorfyta, ond wrth edrych yn ôl, yn amlwg mi o'dd o."
Bydd rhaglen ddogfen newydd ar S4C yn dilyn Ioan ar ôl iddo golli 30 stôn a chael trawsblaniad am aren newydd - a hynny gan ei fam.

Roedd Eleri Pollard yn falch o allu rhoi organ i'w mab
Mis wedi ei ben-blwydd yn 27 oed bu bron i Ioan golli ei fywyd.
Roedd wedi cael crafiadau ar ei goes a rheiny wedi troi'n septig.
"Dwi'n meddwl bo' fi 'di wirioneddol pwsho'n hun mor bell ag o'n i'n gallu o ran faint o'dd y corff yn medru ei ddiodda," meddai Ioan, sy'n byw yng Nghaernarfon.
"Ddudon nhw yn Ysbyty Gwynedd ar y pryd, ma'r wyth awr nesa 'ma yn dyngedfennol ac efallai na fyddi di yma yn y bore.
"Mi oedd o'n amlwg yn syth bod fy arennau i wedi cael eu hambygio yn ddifrifol pryd ddudon nhw wrtha i 'di petha ddim yn edrych yn dda, 'da ni angen dechra' siarad am dialysis achos fel wyt ti 'ŵan sgim ti ddim gobaith o gael trawsblaniad, a'r gwir plaen amdani, o'n i lot rhy dew."
'Bwyta ei hun i'r bedd'
Roedd ei deulu a'i ffrindiau yn poeni'n arw amdano, ei fam yn enwedig.
"Oeddan ni'n poeni am ei iechyd o, oeddan ni'n meddwl y bydd hwn wedi bwyta ei hun i'r bedd," meddai Eleri Pollard.
Yn edrych 'nôl trwy ei ddillad o'r cyfnod, roedd ei wast wedi cyrraedd bron i chwe throedfedd (72 modfedd), ac roedd yn gorfod prynu dillad arbennig i'w faint.
"Baswn i'n gallu bod yma tan ddydd y farn yn beio hyn llall ac arall am y sefyllfa o'n i ynddi ond yn syml o'dd o'n dod lawr i ddau beth - bo' fi'n lot rhy farus a bo' fi'n lot rhy ddiog.
"Dwi'n edrych 'nôl mewn embaras llwyr 'mod i wedi dewis i bob pwrpas i fyw fy mywyd fel 'na, a dim ond 'ŵan dwi'n medru edrych 'nôl mewn cywilydd."

Ioan gyda rhai fu'n ei helpu drwy'i lawdriniaeth
Mewn cyfnod o saith mlynedd, gyda help llawdriniaethau bariatrig i leihau ei stumog a thynnu croen, collodd dros hanner ei bwysau.
Ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru fore Llun, esboniodd Ioan nad oedd hi'n benderfyniad hawdd i gael y cwlwm stumog.
"O'n i 'di bod ar sawl deiet, mae pawb yn gwybod amdanyn nhw – yr Atkins, y 5:2, Lighter Life, bob dim alli di ddychmygu, bob dim yn gweithio'n dda ar y dechrau ond yn anffodus, llithro'n ôl i'n hên ffyrdd o'n i," meddai.
"Ar ôl i'r briw 'ma achosi cellulitis a hwnnw'n troi'n septig, mi oedd y penderfyniad wedi'i wneud i fi – roedd yn rhaid cymryd camau mor eithafol â hynny i fynd i'r afael â'r broblem.
"Y llawdriniaeth honno wnaeth achub fy mywyd i."
Dechrau Newydd
Gan ei fod 30 stôn yn ysgafnach, roedd yn cael ei ystyried yn gymwys am drawsblaniad.
Roedd Eleri Pollard yn barod i wneud unrhyw beth i roi bywyd newydd iddo.
"Dwi isio i Ioan gael byw ei fywyd, mae o'n haeddu o."
I Ioan, sydd bellach yn 35 oed, mae'n gobeithio ei fod yn ddechrau newydd.
"Lle mae rhywun yn dechrau diolch a dangos gwerthfawrogiad am rywbeth mor bwysig â rhoi fy mywyd yn ôl i mi?"
"Dwi 'di bod drwy gymaint dwi jyst isio i hwn weithio heb unrhyw broblem," meddai.
"Dwi'n meddwl bod o'n naturiol i boeni, poeni mwy am Mam na fi'n hun achos ma' Mam yn rhoi ei hun mewn sefyllfa fregus o'i gwirfodd i drio gwella mywyd i.
"Mae o i gyd yn pwyso ar hwn."
Rhannu'r siwrne yn 'ddyletswydd'
Fe benderfynodd Ioan rannu ei siwrne'n gyhoeddus yn y rhaglen ddogfen ar S4C fel ffordd o helpu eraill yn yr un sefyllfa.
Ychwanegodd yn ei gyfweliad ar BBC Radio Cymru: "Dwi 'di cael gymaint o gefnogaeth gan feddygon, gan y gwasanaeth iechyd yn gyffredinol.
"Os o'n i'n gallu rhoi nôl unrhyw beth o'n i 'di gael ar hyd y ffordd, i rannu'r siwrne, i helpu pobl sydd ella yn byw yn yr un lle ag o'n i ar y dechrau... Roedd y penderfyniad wedi'i wneud i fi i bob pwrpas, roedd o'n ddyletswydd bron."
Marw Isio Byw, nos Lun, 24 Mawrth, am 20:00 ar S4C
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020