Caniatáu Cei Connah i chwarae ar ôl derbyn gwaharddiad

chwaraewyr cei conna Ffynhonnell y llun, FAW
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC) bellach wedi codi'r gwaharddiad ar glwb pêl-droed Cei Connah ar ôl iddyn nhw fethu cydymffurfio â rheolau'r gymdeithas.

Ddydd Gwener fe wnaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru wahardd y clwb pêl-droed ar frys.

Yn unol â rheolau'r gymdeithas, cafodd y tîm ei wahardd o holl weithgarwch yn ymwneud â phêl-droed am iddo fethu â thalu iawndal hyfforddi i glwb pêl-droed Llandudno.

Roedd pwyllgor disgyblu CBC eisoes wedi gofyn i Gei Connah wneud y taliad erbyn 16:00 ddydd Gwener.

Ddydd Sadwrn, fe wnaeth CBC gadarnhau bod y taliad wedi ei wneud ac nid yw'r clwb wedi ei wahardd bellach.

'Hynod siomedig'

Mewn datganiad hir mae'r clwb yn egluro'r hyn ddigwyddodd.

Maen nhw'n dweud fod y cyfan wedi cychwyn yn 2023 pan wnaeth CBC dynnu trwydded Academi oddi ar glwb pêl-droed Llandudno, a oedd yn golygu nad oedd modd iddo gynnig chwaraewyr academi i'r rheiny rhwng 12-16 oed.

Fe ymunodd sawl un a oedd yn Academi Llandudno â chlwb Cei Connah gyda thri chwaraewr hŷn yn cadarnhau cytundeb gyda'r clwb ar gyfer tymor 2024/25.

Cafodd y clwb wybod yn 2024 fod angen talu iawndal o hyd at £5,000 fesul chwaraewr i glwb pêl-droed Llandudno, ond fe wnaeth Cei Connah anwybyddu'r neges yma am fod y tîm yn meddwl fod y chwaraewyr am ddim gam fod yr academi wedi cau.

Yn dilyn cwyn gan glwb Llandudno, cafodd gwrandawiad disgyblu ei gynnal fis Chwefror.

"Dydd Gwener Ebrill 4, fe wnaeth ein hysgrifennydd dderbyn galwad gan Margaret Barnet, swyddog disgyblu CBC gan ddweud fod gan y clwb dair awr i gyflwyno'r £9000 neu fe fydd y clwb yn cael ei wahardd o bêl-droed Cymru," meddai'r datganiad.

Dywedodd Gary Dewhurst o Glwb Cei Connah: "Dwi'n hynod o siomedig yng ngweithredoedd CBC - ond heb fy synnu.

"Mae'r taliad wedi ei dalu ac rydw i wedi cael gwybod bod y gwaharddiad wedi ei godi - ond mae'r saga yma wedi gyrru rhwyg rhyngdda i a CBC."