Mwy yn gwirfoddoli oherwydd toriadau i wasanaethau cyhoeddus?

Awgrymodd Dr Cynog Prys fod gwirfoddolwyr yn camu mewn i gynnig gwasanaethau sydd wedi'u torri
- Cyhoeddwyd
Fe allai cynnydd yn nifer y bobl sy'n penderfynu gwirfoddoli fod o ganlyniad i doriadau i'r wladwriaeth les, yn ôl academydd o Brifysgol Bangor.
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru mae bron i un o bob tri yn gwirfoddoli yn eu cymunedau erbyn hyn.
Yn ô Dr Cynog Prys, uwch ddarlithydd mewn cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, gallai'r cynnydd fod oherwydd i nifer o wasanaethau cyhoeddus ddod i ben, a bod pobl ar lawr gwlad yn "llenwi'r bwlch".
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi buddsoddi £4.6m mewn cynlluniau i annog gwirfoddoli.

Mae criw o wirfoddolwyr yn helpu i gynnal y Park Run ar ystâd y Penrhyn ym Mangor
Ar draws Cymru mae miloedd yn rhoi o'u hamser er mwyn gwella cymunedau yn ogystal â magu profiadau.
Un digwyddiad wythnosol sy'n gwbl ddibynnol ar wirfoddolwyr ydi Park Run - taith 5km, sy'n cael ei gynnal ar draws nifer o lefydd drwy'r Deyrnas Unedig.
Mae un yn cael ei gynnal ar ystâd y Penrhyn ym Mangor, a Gwyn Williams ydi un o'r selogion sy'n gwirfoddoli bob bore Sadwrn.
"Fydda i bob tro yn teimlo'n hapusach ar ôl bod yma," meddai.

Dywedodd Gwyn Williams fod cael gair gyda phawb cyn y cychwyn y Park Run yn "'neud fi'n hapus bob tro"
Dywedodd fod "cael gair efo pawb cyn y cychwyn, a dweud wrth y bobl newydd pa ffordd i fynd, neu lle mae'r toiledau... mae'n gwneud dipyn o wahaniaeth i mi".
"Mae'n 'neud fi'n hapus bob tro."
Ategu hynny wnaeth cyfarwyddwr y ras, Steffan Evans.
"Pan ti'n gwirfoddoli ti'n rhoi amser dy hun i fyny i bobl eraill a dwi yn meddwl bod pobl yn gwerthfawrogi hynna," meddai.

Dywedodd Steffan Evans ei fod yn credu fod pobl yn gwerthfawrogi pan mae rhywun yn "rhoi amser dy hun i fyny i bobl eraill"
Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos bod 32% o bobl yng Nghymru yn gwirfoddoli a bod hynny yn cael effaith "ar filoedd o fywydau mewn cymunedau".
Ond yn ôl Dr Cynog Prys, gallai'r cynnydd hwnnw ddeillio o heriau economaidd.
"Mae'n bosib dadlau bod rhai gwasanaethau wedi cael eu cynnig, yn hanesyddol gan y wladwriaeth a gan y llywodraeth i drigolion Cymru, ond bod rhai o'r rheiny wedi mynd bellach."
Ychwanegodd Dr Prys fod gofyn i bobl Cymru, felly, i "gamu mewn i gynnig y gwasanaethau yna a llenwi'r bwlch ar liwt eu hunain".
"Felly mae 'na elfen feirniadol bod hwn y dangos tystiolaeth o hynny o fewn y gymdeithas," meddai.

Mae gwirfoddoli yn "beth da i wneud", medd Ann Hopcyn
Yng Nghaernarfon mae siop o law i law ar Stryd Llyn yn cynnig bwyd am ddim dros y penwythnos, sydd wedi dod o archfarchnadoedd.
Mae'r siop hefyd yn derbyn rhoddion ac yn gwerthu teganau, llyfrau a dillad am bris rhesymol i deuluoedd sydd eu hangen.
Mae'r siop hefyd yn ddibynnol ar nifer o wirfoddolwyr fel Ann Hopcyn, sy'n gynghorydd tref yng Nghaernarfon.
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023
"Pam 'mod i'n gwirfoddoli? Wel... ni'n gweld bod hyn yn beth da i wneud," meddai.
"Ni'n arbed pethau rhag mynd i landfill, ac yn arbed arian i deuluoedd ifanc sydd eisiau magu plant.
"Mae nifer o fam-gu a tad-cuoedd yn siopa yma hefyd.
"Dwi'n credu mai gweld bod o'n gwneud lles i'r gymuned a chefnogi'r cymunedau.. dyna pam dwi'n gwirfoddoli yn sicr."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi £4.6m ers 2022 ar brosiectau gwirfoddoli a bod hynny wedi arwain at fwy na 419,000 awr o wirfoddoli a hyfforddiant i 6,710 o bobl drwy'r wlad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.