'Gwirfoddoli mor bwysig ac yn rhoi teimlad cynnes'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mally RobertsFfynhonnell y llun, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mally Roberts wrth ei fodd yn gwirfoddoli ac am "roi rhywbeth yn ôl i'w gymuned"

Mae Mally Roberts o Gapel Garmon ger Llanrwst wrth ei fodd yn gwirfoddoli i elusen sy'n cynnig cefnogaeth i bobl sydd wedi colli eu golwg wedi iddyn nhw fod yn y fyddin.

Ond mae e'n un o'r gwirfoddolwyr prin yng Nghymru wrth i'r pandemig a'r argyfwng costau byw arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n gwirfoddoli.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli dywed Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) bod "Cymru yn wynebu argyfwng gwirfoddolwyr" wrth i 90% o gynrychiolwyr o fudiadau gwirfoddol gael trafferth recriwtio.

"Dyw rhai pobl heb ddychwelyd ers y pandemig, ac mae eraill wedi colli eu hyder," meddai Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC.

"Mae'r argyfwng economaidd hefyd yn golygu bod pobl yn gorfod blaenoriaethu gweithgareddau eraill.

"Mae'n golygu bod elusennau a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd iawn, ond mae pobl yn colli allan ar fuddion gwirfoddoli hefyd.

"Mae tystiolaeth yn dangos bod gwirfoddoli yn lleihau unigrwydd, yn gwella iechyd meddwl ac yn helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd."

'Helpu'n bwysig i fi'

Wedi i Mally Roberts ymddeol o'i swydd gyda'r heddlu a chyn hynny gyda'r Llu Awyr Brenhinol, roedd yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.

"Dwi'n cael mwynhad mawr o helpu yma. Maen nhw'n bobl wych, yn cwyno dim! Does 'na neb ohonan ni yn gwybod be sy' rownd y gornel.

"Dim ond 57 ydw i, ond pwy a ŵyr, ella mewn blynyddoedd y bydda i angen help rywun, ond ar hyn o bryd mi fedra' i helpu rhywun arall, ac mae hynna mor bwysig i fi.

"Dwi'n gwneud dau beth yma - dwi'n helpu aelodau i setlo yma a mynd o gwmpas y lle, ac yn eu helpu nhw i fynd allan am dripiau a ballu.

"A'r peth arall dwi'n ei wneud ydy tynnu lluniau gan fy mod yn gwneud gradd mewn ffotograffiaeth."

'Argymell pobl ifanc i wirfoddoli'

Un arall sydd wrth ei bodd yn gwirfoddoli yw Samiya Houston, 21, o Dorfaen - mae hi'n gwirfoddoli i elusen Sight Cymru.

"Ges i fy ngeni gyda nam golwg felly'r rheswm 'nes i gysylltu gyda Sight Cymru i ddechrau oedd fel defnyddiwr gwasanaeth, gan fy mod eisiau cymorth ganddynt i fynd o gwmpas yn annibynnol, gan ddal y bws a'r trên ar ben fy hun.

"Ar ôl i mi gael cymorth ganddynt, dyma benderfynu gwirfoddoli efo nhw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Samiya Houston, a enillodd Wobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yn Nhorfaen yn 2023

Fel rhan o'i gwaith gwirfoddoli, mae Samiya yn ymweld â mudiadau a busnesau lleol i roi hyfforddiant ar ymwybyddiaeth colli golwg ac mae hi hefyd yn cyflwyno atebion i rai o'r rhwystrau allai pobl eu hwynebu.

Mae hefyd yn ymweld ag ysgolion cynradd i sgwrsio gyda phlant am ffyrdd o geisio atal colli golwg.

"Mae gwirfoddoli yn gwneud i mi deimlo mor, mor dda," meddai Samiya, a enillodd Wobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn yn Nhorfaen yn 2023.

"Mae'n rhoi teimlad cynnes i mi tu mewn o wybod mod i'n gallu mynd allan a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, a chodi ymwybyddiaeth am golli golwg.

"Mi fyddwn i bendant yn argymell gwirfoddoli i bobl ifanc eraill. Mae'n ffordd dda o fagu hyder, a datblygu nifer o sgiliau eraill hefyd fel gwasanaeth cwsmer a chyfathrebu. Hefyd, mae'n beth gwych i roi ar eich CV!'

"Mae'n siwrne na allwn i fod wedi ei dychmygu," meddai Frank McQuillan o Gaerllion yng Nghasnewydd, wrth siarad am ei brofiad yn gwirfoddoli.

"Ar ddechrau'r flwyddyn doeddwn i ddim yn gwneud llawer. Roeddwn i wedi dod adref o'r Brifysgol oherwydd Covid, felly roeddwn i wir angen ychydig o routine."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Frank McQuillan o Gaerllion wedi cael swydd wedi iddo fod yn gwirfoddoli

Dyma pryd wnaeth Frank, sy'n 26 oed, gyfarfod rhywun o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent wnaeth ei wahodd draw i The Place, gofod celf cymunedol aml-ddefnydd a arferai fod yn Swyddfa Bost yng Nghasnewydd.

"Ro'n i'n helpu yno dwy, neu dair gwaith yr wythnos, yn gwneud ychydig bach o bob dim a dweud y gwir.

"O helpu gyda'r gwaith blaen y tŷ, yn gwneud diodydd poeth, esbonio i bobl beth oedd yr adeilad a'r hyn sy'n digwydd yno, a rhoi help llaw gyda beth bynnag oedd ei angen."

Ym mis Tachwedd eleni, trodd rôl wirfoddol Frank yn swydd, ac mae nawr yn gweithio'n rhan amser yn The Place.

"Mae wedi bod yn anhygoel. Mae wedi rhoi routine a strwythur i mi.

"Mae hefyd wedi golygu fy mod yn sgwrsio gydag aelodau o'r cyhoedd na fyddwn yn eu cyfarfod fel arall ac mae hynny wedi bod yn hwb i fy hyder a'm hannibyniaeth hefyd.

"Mae wedi bod yn flwyddyn a hanner. Allwn i ddim bod wedi dychmygu'r hyn sydd wedi digwydd."

Methu cadw gwirfoddolwyr

Roedd arolwg CGGC yn nodi bod 80% wedi dweud eu bod yn cael trafferth cadw gwirfoddolwyr.

Y prif reswm am hynny, meddir, yw pobl â dim digon o amser ond nodwyd hefyd nad oedd nifer yn gwybod digon am ba gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael.

Yn ôl Prif Weithredwr CGGC Ruth Marks, dylai unrhyw un sydd â diddordeb gwirfoddoli edrych ar wefan Gwirfoddoli Cymru, dolen allanol.

"Mae 19 o gynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru, ac rydym wedi cydweithio i wneud platfform Gwirfoddoli Cymru mor hawdd i'w ddefnyddio â phosib," meddai.

"Os oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli gallwch gofrestru ar y wefan am ddim, a dechrau chwilio am gyfle fydd yn gweddu i'ch diddordebau.

"Mae elusennau a mudiadau hefyd yn gallu cofrestru ar y wefan am ddim, gan restru eu cyfleoedd gwirfoddoli, felly mae'n hawdd iawn darganfod cyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal leol."