Achos llofruddiaeth: Dyn yn honni mai gweithred rhyw aeth o'i le

Victoria ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Victoria Thomas wedi ei disgrifio fel "merch, mam, chwaer, modryb, nith a ffrind annwyl iawn"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth ei bartner wedi honni mai "rhyw wedi mynd yn ddrwg" oedd achos ei marwolaeth.

Mae Alcwyn Thomas, 44, yn gwadu llofruddio Victoria Thomas mewn tŷ ar Ffordd Caerffili yng Nghaerdydd.

Ond mae wedi cyfaddef dynladdiad Ms Thomas, oedd yn 45 oed pan fu farw ar 20 Awst y llynedd.

Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad mai crogi oedd achos ei marwolaeth.

Mae'r achos yn parhau.

Clywodd y llys fod Mr Thomas a Ms Thomas wedi bod allan mewn clwb bingo yng Nghaerdydd ar 19 Awst.

Cafodd y diffynnydd ei ddisgrifio fel "dadleugar a blin", ar ôl yfed alcohol a chymryd cocên ar y noson.

Ar ôl dychwelyd adref, aeth Ms Thomas i gysgu yn yr ystafell wely sbâr, yn hytrach na'r ystafell wely yr oedd y ddau yn ei rhannu.

Cafodd Ms Thomas ei chanfod yn farw gan yr heddlu'r diwrnod canlynol ar ôl i nith Alcwyn Thomas fynd i'r tŷ i weld a oedd hi'n iawn.

Roedd y ddau mewn perthynas ers pedair blynedd adeg ei marwolaeth.

Cafodd Mr Thomas ei ganfod ar lawr canol y tŷ, ar ôl cymryd yr hyn a ddywedodd oedd yn orddos.

Dywedodd yr erlynydd Michael Jones KC wrth y llys fod Mr Thomas wedi cyfaddef crogi Victoria Thomas mewn llythyr i'w deulu, ac mewn datganiad pellach.

Dywedodd bod Mr Thomas yn honni mai gweithred rywiol a aeth o'i le oedd wedi digwydd.

"Mae'r diffynnydd... yn honni bod ei marwolaeth, i ddefnyddio ei eiriau, oherwydd 'rhyw wedi mynd yn ddrwg'..."

Mae Alcwyn Thomas yn cyfaddef dynladdiad ond yn gwadu llofruddiaeth ac mae'r achos yn parhau.