Cadarnhad y bydd ysgol leiaf Powys yn cau ar ddiwedd Awst

Mae gan Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin 25 o ddisgyblion
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr sir wedi pleidleisio'n unfrydol i gau ysgol leiaf Powys ar ddiwedd mis Awst.
Fe wnaeth cabinet Cyngor Sir Powys ystyried adroddiad o wrthwynebiadau i'r cynlluniau i gau Ysgol Bro Cynllaith yn Llansilin - sydd â 25 o blant - mewn cyfarfod ddydd Mawrth.
Dywedodd yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am addysg, y cynghorydd Peter Roberts, mai derbyn yr adroddiad yw'r "cam olaf" yn y broses o gau'r ysgol.
Mae disgwyl i ddisgyblion yr ysgol gael eu symud i Ysgol Llanrhaeadr-ym-mochnant.
Ond mae pryderon wedi codi drwy gydol y broses y bydd plant yn gadael Powys ac yn mynd i ysgolion cynradd yng Nghroesoswallt a'r cyffiniau, sy'n llawer agosach at y pentref.

Mae symud ysgol ar ddiwedd tymor yr Haf yn well i ddisgyblion, meddai Dr Richard Jones
Esboniodd y cyfarwyddwr addysg, Dr Richard Jones, fod y cynnig wedi derbyn 20 o wrthwynebiadau.
"Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, yr argymhelliad yw bod y cyngor yn bwrw ymlaen â gweithredu'r cynnig i gau Ysgol Bro Cynllaith o 31 Awst fel yr amlinellwyd yn yr hysbysiad statudol," meddai.
"Mae yna gydnabyddiaeth mai dim ond mis o rybudd y mae'r penderfyniad i fwrw ymlaen â'r cau ar ddiwedd y tymor hwn yn ei roi i gymuned yr ysgol.
"Barn y cyngor yw bod trosglwyddo ar ddiwedd tymor yr Haf yn well i ddisgyblion sy'n symud i ysgol newydd oherwydd eu bod yn symud ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd."

Fe wnaeth yr aelod cabinet dros wasanaethau cyfreithiol a statudol, y cynghorydd Richard Church, godi'r mater o golli disgyblion dros y ffin i Sir Amwythig ac ardal Croesoswallt.
Cwestiynodd a fyddai'n "gywir" gwneud eithriad i gadw ysgolion bach ar agor oherwydd eu bod "wrth ymyl neu'n agos" at ffin naill ai â Lloegr neu awdurdod lleol arall yng Nghymru.
Dywedodd y cynghorydd Church: "Mae cau ysgolion gwledig yn anodd ac yn amhoblogaidd.
"Ond mae'n rhaid i ni dderbyn nad yw ysgol gyda dim ond 25 o ddisgyblion yn mynd i gynnig yr ystod o addysg yr ydym yn disgwyl i'n pobl ifanc ei derbyn yn ein hoes ni.
"Dydw i ddim yn credu ei bod hi'n gynaliadwy parhau i weithredu ysgolion o'r maint yma, allwn ni ddim gwneud eithriadau.
"Dwi'n credu y byddwn yn gwneud y penderfyniad cywir wrth fwrw ymlaen â chau'r ysgol hon."
Diffyg dychymyg y cabinet 'yn siom'
Un oedd yn gwrthwynebu penderfyniad cabinet cyngor Powys oedd y cynghorydd Bryn Davies.
"Mae'n siom fawr i bobl sy' wedi byw gyda'r ysgol a mwynhau cael yr ysgol yn yr ardal," meddai.
"Mae'n siom nad oedd mwy o ddychymyg gan gabinet y sir, oherwydd safle'r ysgol yn Llansilin ydy'r safle delfrydol i roi cyfle i blant dros y ffin yn Sir Amwythig a Chroesoswallt sy'n dymuno i'w plant fod yn ddwyieithog gael y cyfle i gael addysg Gymraeg."
Ond fe aeth ymlaen i ddweud ei bod hi'n "anodd cyfiawnhau gwario £7,000 a mwy bob plentyn i gadw ysgol fach i fynd tra bod ysgolion eraill ddim yn cael gymaint y pen".
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
Nododd yr aelod cabinet dros wasanaethau cymdeithasol plant a'r iaith Gymraeg, y cynghorydd Sandra Davies, ei bod wedi ymgyrchu'n galed yn erbyn cau ysgolion yn ardal Ystradgynlais yn y gorffennol, ond ei bod bellach wedi newid ei safbwynt.
"Mae cael ysgolion mwy yn gwella plant fel unigolion; maen nhw'n ffynnu, ac maen nhw'n cael mwy o gyfleoedd i dyfu," meddai.
Ychwanegodd y Cynghorydd Peter Roberts: "Yn anffodus nid yw'r gwrthwynebiadau'n diystyru'r rhesymau dros y trawsnewid.
"Rydym wedi bodloni telerau cod trefniadaeth ysgolion."
Aeth y cynghorwyr ymlaen i bleidleisio'n unfrydol i fwrw ymlaen â'r cynlluniau i gau'r ysgol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.