Beth fydd arlywyddiaeth Trump yn ei olygu i fusnesau Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ansicrwydd, dyfalu a pheth gobaith yn ôl busnesau yng Nghymru o’r hyn allai Arlywydd nesaf America Donald Trump olygu i gwmnïau nôl yma.
Yr Unol Daleithiau yw safle allforio mwyaf Cymru gyda 14% o holl allforion yn mynd yno, er bod y farchnad wedi gostwng 20% yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl rhai busnesau mae 'na bryder y gallai sylwadau'r darpar Arlywydd - ei fod am osod tollau o 10% ar holl fewnforion - arwain at lai o fusnes i gwmnïau yng Nghymru.
Ond mae eraill yn gobeithio y gallai dyn busnes wrth y llyw fod yn fwy proffidiol ac arwain at sefydlogrwydd marchnadoedd.
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru mae allforio i’r Unol Daleithiau cyfwerth â £2.6bn i economi Cymru.
Mae'r allforion yn bennaf yn cynnwys peiriannau, mineralau, cemegion a dur.
Ond mae’r sector bwyd a diod hefyd un sy’n tyfu, a sawl busnes nôl yng Nghymru yn gobeithio y bydd y cyfnod wedi’r ymgyrchu etholiadol yn cynnig mwy o sefydlogrwydd.
Ar ei safle yn Llwyndyrys ger Pwllheli mae cwmni Welsh Lady Preserves yn cynhyrchu bob math o jamiau, siytni a chynnyrch mewn jariau, ac wedi bod yn masnachu â chwsmeriaid yn yr Unol Daleithiau ers tua 20 mlynedd.
"'Swn i’n deud yn y bedair blynedd ddiwethaf, ers newid llywodraeth yn America, bod 'na lai o hyder gan ein cwsmeriaid i wario gymaint ag oedden nhw," meddai Carol Jones o’r cwmni.
"Ella rŵan fydd pethau yn gwella a bydd 'na fwy o archebion yn dod - bydd 'na fwy o hyder ella i ddelio efo ni os oes 'na fwy o sylw ar gadw diwydiant cynhyrchu yn America."
Yn ôl Ms Jones mae 'na obaith y gallai cael dyn busnes wrth y llyw arwain at fwy o hyder mewn marchnadoedd ac arwain at gwmnïau yno’n mentro.
Lawr y lôn yn y Ffôr mae cwmni creu caws a menyn Hufenfa De Arfon, sydd wedi dechrau allforio i'r Unol Daleithiau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a hynny ar gynnydd.
“'Naeth o ddechrau yn fach iawn ond eleni 'naethon ni fynd allan ac oedd yr ordor cyntaf y fwy na’r flwyddyn ddiwethaf i gyd,” meddai Kirstie Jones o’r cwmni.
“'Da ni’n gweld rhywbeth bendant yn datblygu yno i ni, ac eisiau cario 'mlaen.”
Ond yn ôl y cwmni mae 'na bryder y gallai sylwadau Donald Trump - ei fod yn bwriadu gosod tollau o 10% ar holl fewnforio i’r Unol Daleithiau - fod yn her.
“'Da ni 'di clywed bod Trump isio dod â tariffs, a falle fydd hynny yn effeithio arnom ni," meddai Kirstie.
“Ond 'da ni’n credu dylai’r llywodraeth weithio efo’r Trump administration i weld os bod 'na rhywbeth 'da ni’n gallu gwneud.”
Neges debyg oedd gan Hybu Cig Cymru, sy’n pwysleisio bod marchnadoedd yn datblygu hefyd i werth cig o Gymru yn yr Unol Daleithiau, gan ddisgrifio’r farchnad fel un “eithriadol o lwyddiannus” o bosib.
Ond yn ôl yr ymgynghorydd bwyd amaeth Geraint Hughes, dyw hi ddim yn fêl i gyd, a heriau o hyd wedi Brexit.
“Mae America, yn enwedig wedi Brexit, wedi oeri o ran eu hagwedd masnachol efo Prydain,” meddai.
“Yn enwedig yn ystod cyfnod Joe Biden - prin iawn fuodd y camau 'mlaen o ran cael allforion i fewnforio.”
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
Dweud mae Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n cefnogi busnesau sydd am werthu cynnyrch dramor.
“Mae hyn yn cynnwys cefnogi busnesau i greu capsiti i allforio a’u helpu i ymweld â’r marchnadoedd," meddai llefarydd.
Mae gan Gymru felly digon i gynnig, a mawredd y farchnad yn dangos effaith sylweddol yr hyn sy’n digwydd ben arall y byd.