'Mynd yn galetach': Diffyg staff mewn rhai busnesau lletygarwch gwledig

Kathryn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae recriwtio staff yn "broblem ofandwy" yn ôl Kathryn Jones sy'n berchennog bwyty

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai busnesau lletygarwch mewn mannau gwledig yn dweud ei bod hi'n anodd dygymod â'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio gan rai fel "argyfwng recriwtio".

Yn ôl perchnogion gwestai a bwytai, er bod pethau wedi lleddfu yn ystod y misoedd diwethaf, maen nhw'n dal i gael trafferth dod o hyd i ddigon o staff yn aml, gan arwain at orfod lleihau oriau agor neu hyd yn oed gau rhai gwasanaethau dros dro.

Mae Kathryn Jones, perchennog tafarn a bwyty ym Mrechfa, Sir Gaerfyrddin, ymhlith y rhai sy'n ystyried opsiynau gwahanol erbyn hyn, gan gynnwys agor am lai o oriau a fyddai'n amharu ar y gwasanaeth "licen ni ei roi".

Ac mae perchennog tafarn a bwyty'r Black Boy yng Nghaernarfon, John Evans, yn dweud bod defnyddio app archebu bwyd a diod o'r bwrdd wedi helpu osgoi "gorfod cau rhannau o'r busnes".

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant i helpu "recriwtio a chadw staff".

Ystyried yr holl opsiynau

Dywed Kathryn Jones fod recriwtio staff yn "broblem ofnadw".

"Ry'n ni'n byw mewn pentref gwledig, mae pawb yn henach, s'dim neb yn yr ardal digon ifanc sydd mo'yn gwaith rhan amser, so mae'n galed iawn," meddai.

Ers y pandemig, mae Ms Jones yn dweud na ddychwelodd pawb yn ôl i weithio yn y diwydiant lletygarwch.

"G'ath e lot o press gwael, fod e'n ddiwydiant gwael i fod ynddo.

"Oriau hir, a ie, mae'n oriau hir, ond ro'dd pobl yn gw'bod beth oedden nhw'n mynd mewn iddo.

"Fi'n credu beth oedden ni'n gweld oedd chefs, allan o waith... mynd mas i neud pethe erill... a rhai wedyn yn dweud hang on mae bywyd fan hyn, s'dim rhaid i ni weitho bob nos.

"Achos o ble y'n ni, a cheisio cael pobl yma i weithio, ni ffili cynnig fel split shifts i bobl... so beth naethon ni oedd trial agor drwy'r dydd, bob dydd a hysbysebu."

Kathryn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kathryn Jones, perchennog tafarn a bwyty ym Mrechfa yn gorfod ystyried yr holl opsiynau gan gynnwys lleihau oriau agor ei busnes

Mae'r busnes yn ystyried yr holl opsiynau ar gyfer y flwyddyn newydd.

"Mae mis Ionawr rownd y gornel, beth y'n ni'n neud? Ymdrechu a rhoi un push 'to i trial cael staff, bod llond lle o staff 'da fi llawn amser... neu fi'n derbyn so'r staff i gael a wedyn falle torri'r oriau lawr, gweitho gyda'r staff sydd 'da ni a dim rhoi'r gwasanaeth allan licen ni roi.

"Mae'n dynn iawn ar y funed, ni mo'yn rhoi gwasaneth da i bobl, fel bod nhw'n teimlo eu bod yn cael gwerth eu harian, ond mae'n mynd yn galetach a chaletach, oherwydd bod y costau y tu ôl i beth mae pobl yn weld yn mynd lan."

'Gwrthod archebion'

Mae un perchennog gwesty, sy'n dymuno aros yn ddi-enw, wedi dweud wrth y BBC eu bod yn gorfod cau rhai o ystafelloedd y gwesty oherwydd diffyg staff.

"Cyn Covid roedden ni'n arfer cyflogi 170 i 172 aelodau o staff ar y tro ond 'da ni 'di chael hi'n anodd cael 150 o staff ar unrhyw adeg eleni," meddai.

"'Da ni isio gweld cenhedlaeth newydd o bobl yn dod i'r busnes ond dydyn nhw jest ddim yn dod drwadd mwyach."

Ychwanegodd eu bod yn gorfod cwtogi eu gwasanaethau yn y gwesty.

"Hyd at ddeunaw mis yn ôl – mi wnaethom ni orfod cwtogi ar nifer yr ystafelloedd oedd ar gael.

"Roedden ni hefyd wedi gorfod rhoi'r gorau i gymryd archebion oddi ar y we ar gyfer ambell ystafell wely, ac os oedd hi'n mynd i'r pen roedden ni'n cau llawr cyfan o tua 10 o ystafelloedd ar y tro.

"Yr opsiwn arall oedd gennym ni - oedd gwrthod archebion un noson a mond cymryd pobl oedd eisiau aros am ddwy neu dair achos allwch chi ddim cynnig stafell os oes gennych chi ddim y staff i'w glanhau neu staff i baratoi brecwast a phrydau nos.

"Os ydych chi am gynnig stafelloedd i gwsmeriaid aros - mae'n rhaid darparu gwasanaeth llawn iddyn nhw," ychwanegodd.

John Evans o flaen tafarn y Black Boy, Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Evans, perchennog tafarn a bwyty'r Black Boy yng Nghaernarfon, wedi rhybuddio ers sbel bod trafferthion recriwtio'n gur pen i'r sector lletygarwch

Wrth drafod trafferthion recriwtio'r sector ar raglen Dros Frecwast, dywedodd John Evans, perchennog tafarn a bwyty'r Black Boy yng Nghaernarfon: "Ginnon ni staff da iawn... 'dan ni'n lwcus iawn, iawn.

"Ond fysan ni 'di gorfod cau rhannau o'r busnes i lawr os na fysan ni'n defnyddio technoleg newydd fel yr app table ordering...

"Dwi'n gweld M&S yn 'neud hynna yn Llandudno 'ŵan a dwi'n meddwl bod mwy a mwy o bobol yn gorfod mynd ffor' 'na i drio llenwi'r bwlch yma".

Dywedodd ei fod wedi "dychryn" o ddeall newidiadau potensial i'r sector yn sgil deallsrwydd artiffisial (AI).

"'Dach chi'n gallu mynd â camera a swingio fo rownd 'stafell sy'n llawn boteli a ma' hwnnw'n cyfri'r boteli i chi," meddai.

Mae sawl un sy'n cael eu hanfon i'r dafarn gan y Ganolfan Waith, meddai, "yn d'eud ar ôl ryw ddau funud o ista lawr 'wel, 'dan ni'm isio'r gwaith beth bynnag - 'dan ni jyst yma achos 'dan ni'n gorfod'."

Mae eraill wedyn, meddai, ond yn fodlon gweithio am arian parod, nad sy'n dderbynioli fusnesau sy'n cadw i ofynion cyfreithiol.

'Mynd yn waeth'

Mae Nia Rhys Jones wedi bod yn gweithio ym maes twristiaeth ers blynyddoedd ac yn rhedeg bwthyn hunanarlwyo ar Ynys Môn.

Yn ôl Ms Jones, mae recriwtio staff yn y diwydiant yn "broblem enbyd".

"Mae 'na ddiffyg gweld y diwydiant fel un sy'n cynnig gyrfa sydd yn werthfawr i bobl ifanc.

"Mi ydan ni wedi methu yn hynny o beth - nid yn unig yng Nghymru ond ym Mhrydain.

"Os ewch chi dramor, mi welwch chi fod yna lawer mwy o barch tuag at y gweithlu yn y diwydiant, sydd yn ddiwydiant sydd yr un mor bwysig i ni yng Nghymru, ond dydi o ddim yn adlewyrchu fel hynny bob tro."

Ychwanegodd Ms Jones fod lle i edrych ar y diwydiant twristiaeth a busnesau lletygarwch fel un sy'n annog pobl i aros ym mro eu mebyd.

"'Dw i'n credu'n gryf iawn yn hynny, mae Ynys Môn yn enghraifft o hynny, mae'r diwydiant yn gorfod gweithio i'r trigolion sy'n byw ar yr ynys... ac yn brofiad bythgofiadwy i ymwelwyr."

Nia Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nia Rhys Jones wedi bod yn gweithio ym maes twristiaeth ers blynyddoedd ac yn rhedeg bwthyn hunanarlwyo ar Ynys Môn

"Mae 'na gymaint o gystadleuaeth erbyn hyn, mae'r sector manwerthu... mae'r gystadleuaeth am y cyflog, y telerau a'r oriau gwaith ochr yn ochr â'r diwydiant - mae 'na elfen o'r diwydiant lletygarwch sydd yn dal ychydig bach yn dymhorol, mae [pobl] yn meddwl fod yna sicrwydd swydd yn y diwydiant manwerthu fwy nag sydd yn y diwydiant lletygarwch," medd Nia Rhys Jones.

"Felly mae'n rhaid i nifer o asiantaethau a phobl ddod at ei gilydd 'dw i'n meddwl.

"Dydi o ddim yn mynd i lwyddo efo un sector yn ei arwain... mae gofyn i'r llywodraeth, diwydiant, cynghorau lleol, pawb ddod at ei gilydd i drio cael rhyw fath o ryw strategaeth mewn lle i symud y peth ymlaen."

Mae'r heriau wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ôl Nia Rhys Jones.

"Mae wedi mynd yn waeth dros y bedair bum mlynedd ddiwethaf 'ma.

"Oedd llefydd ddim yn cau fel mae nhw rŵan, mae 'na rai busnesau sydd wedi cau am byth.

"'Da ni'n gweld llai o lefydd ar agor drwy'r wythnos i ymwelwyr a gwasanaeth wedi'i gyfyngu felly mae hyn yn broblem," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cymaint o amrywiaeth o opsiynau gyrfa ddiddorol a gwerth chweil o fewn y sector twristiaeth a lletygarwch sy'n cynnig hyblygrwydd yn ogystal â datblygiad gyrfa.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant i helpu busnesau i recriwtio a chadw staff, cael mynediad at gyllid ar gyfer hyfforddiant ac i sicrhau mwy o swyddi parhaol o safon drwy gydol y flwyddyn.

"Rydym yn buddsoddi £78m yn ychwanegol i ddarparu'r chweched flwyddyn yn olynol o gymorth i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'u biliau ardrethi annomestig."