Eisiau edrych fel dynes o Oes Fictoria?!

  • Cyhoeddwyd
merch ffasiynolFfynhonnell y llun, Phil a Lisa George
Disgrifiad o’r llun,

Merch ffasiynol o'r cyfnod - tua 1900

O wallt gwyrdd i bowdrau gwenwynig, yma mae'r hanesydd Elin Tomos yn ein tywys ar wibdaith trwy arferion harddwch ein cyn-neinau:

Mewn oes cyn grym yr influencers a disgwyliadau uchel-ael y cyfryngau cymdeithasol roedd merched Cymru yn clywed am y ffasiynau a'r tips harddwch diweddaraf trwy gyfrwng colofnau hunan-gymorth mewn cylchgronau a phapurau newydd.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan y mwyafrif o bapurau newydd Cymreig golofn benodol wedi'i hanelu at ferched oedd yn trafod rysetiau, gofal plant, cadw'r cartref a harddwch.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tips garddio, dillad, harddwch a moesoldeb gan Y Gymraes o 1906

Sefyll i ymolchi

Cyn mentro arbrofi ag unrhyw eli neu golur, roedd arferion harddwch a glanweithdra'r mwyafrif o ferched Cymru yn dechrau gyda'r arfer boreol o ymolchi ar eu sefyll. Ar gyfer hyn, roedd angen powlen, gwlanen, ychydig o sebon, jwg o ddŵr cynnes a dysgl ychwanegol i ddal y dŵr budr.

Roedd gofyn tywallt y dŵr i'r bowlen gyda mymryn o sebon, yna gwlychu'r wlanen a golchi'r corff fesul rhan. Wedi golchi un rhan, roedd angen rinsio'r wlanen ac ail-adrodd y broses ar ran arall o'r corff gan newid y dŵr budr a'i wagio i'r ddysgl sbâr.

I'r rheiny a oedd yn byw mewn tai gorboblog roedd y dull yma yn caniatáu i'r unigolyn ymolchi wrth wisgo eu gŵn nos gan gadw mymryn o breifatrwydd y fam neu'r ferch.

Ffynhonnell y llun, Heritage Images
Disgrifiad o’r llun,

Darlun gan Mary Cassatt o ddynes ifanc yn ymolchi - tua 1890-91

I ferched a gwragedd dosbarth gweithiol gyda dyletswyddau llafurus yr aelwyd a nythaid o blant yn eu disgwyl bob bore byddai'r dasg o gynhesu'r dŵr yn ormod ac ymolchi gyda dŵr oer oedd yr arfer gan amlaf.

Brwsio, nid golchi'r gwallt

Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y cyngor cyffredin oedd osgoi golchi eich gwallt, yn hytrach, awgrymir y dylid ei frwsio yn drylwyr o leiaf dwywaith y diwrnod, a hynny, er mwyn cael gwared ag unrhyw faw ac i ledaenu olewau naturiol y pen trwy'r gwallt.

Wrth i'r ganrif rygnu yn ei blaen daeth hi'n fwyfwy cyffredin i olchi'r gwallt o leiaf unwaith os nad dwywaith y mis. Mor ddiweddar ag 1920, rhybuddiai cylchgrawn Y Gymraes na 'ddylid golchi'r pen yn rhy aml, mae unwaith yn y tair wythnos neu fis yn hen ddigon.'

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor yn y Y Gymraes o 1920 am sut i ddelio a 'dandruff'

Yn y cyfnod dan sylw, byddai'n ddoeth osgoi golchi eich gwallt gyda sebon gan ei fod yn llawer rhy ffyrnig ac yn dueddol o'i sychu a'i dorri. Roedd sebon Fictoraidd hefyd yn alcalïaidd iawn ac yn gallu rhoi ryw wedd werdd digon od i'ch gwallt!

Yn hytrach na sebon roedd y defnydd o ddŵr a chynhwysion amrywiol megis lafant, rhosmari neu flodau'r ysgaw yn boblogaidd.

Creu elïau cartref

O safbwynt safonau harddwch Fictoraidd roedd cael dwylo ac ewinedd glân, golau, heb unrhyw frychni neu gochni yn allweddol, ond roedd gwario arian prin ar gynnyrch harddwch y tu hwnt i allu'r mwyafrif o wragedd a merched cyffredin yng Nghymru'r cyfnod.

Fel ateb, rhoddwyd cynghorion yn y papurau newydd ar sut i greu cynnyrch cartref gan ddefnyddio cynhwysion gan y fferyllydd neu'r apothecari lleol.

Yn ôl Papur Pawb yn 1899, roedd modd creu eli ardderchog ar gyfer harddu a gwynnu'r dwylo trwy gymysgu hanner owns o spermaceti (olew morfil), hanner owns o gwyr gwyn, owns a hanner o lanolin (olew a ddaw o ddefaid), tua 19 llwy de o ddŵr, ychydig o borax, tair owns a hanner o olew almon a mymryn o naws rhosod.

Ffynhonnell y llun, Science & Society Picture Library
Disgrifiad o’r llun,

Cartŵn o ferch yn prynu spermaceti o fferyllfa, tua 1845

Colur neu beidio?

Yn y cyfnod Fictoraidd roedd gwisgo colur yn bwnc llosg. Gwrthwynebai rhai ar y sail ffeithiol bod colur y cyfnod yn beryglus, yn arbennig felly powdwr y wyneb. Mewn sawl cylchgrawn a phapur newydd ceir cynghorion ar sut i brofi os oedd colur yn ddiogel neu beidio.

Yn 1882, er nad oedd gohebydd cylchgrawn Y Llenor Cymreig yn 'cymeradwyo eu defnyddio' awgrymwyd y 'dylid pob boneddiges wneud prawf o'r powdwr a ddefnyddir ganddi… trwy roddi llonaid llwy de o'r powdr mewn gwydr, a rhoddi arno sudd lemon.' Os oedd y powdwr yn adweithio gyda'r lemon roedd yn beryglus ei roi ar y wyneb.

Ym marn eraill roedd gwisgo colur yn anonest ac felly yn anfoesol. Gyda'r mwyafrif o gylchgronau Cymreig i ferched wedi'u dylanwadu'n drwm gan awduron a phynciau crefyddol, gosodwyd pwyslais ar gyhoeddi erthyglau oedd yn trafod sut i wella ansawdd naturiol y croen yn hytrach na'i orchuddio â chynnyrch cosmetig.

Gofalu am y croen

Mi roedd safonau harddwch y cyfnod, fel heddiw, yn gosod pwyslais aruthrol ar brydferthwch croen clir a thywynnol. I sicrhau croen hardd awgrymwyd yn Y Gymraes, rhifyn Gorffennaf 1907, y dylid golchi'r wyneb â blawd ceirch.

Er mwyn cael gwared â phlorod (pimples) a phennau duon (blackheads) roedd gohebydd Y Gymraes yn grediniol ym 1906 y dylid golchi'r wyneb â sudd ciwcymbr, gwynwy ŵy neu hufen wedi'i gymysgu â sudd lemwn.

Ffynhonnell y llun, Elin Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor o bapur Y Gymraes o 1907 am sut i ofalu am eich croen

Cyflwyno delfryd a wnâi gohebwyr y colofnau hunangymorth a does wybod faint o ferched Cymru a fu'n dilyn eu cyfarwyddiadau manwl dros ganrif a mwy yn ôl.

Os am bori trwy erthyglau'r gorffennol ewch draw i wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dolen allanol

Hefyd o ddiddordeb: