Môn: Gwir effaith cau 2Sisters 'heb daro eto'
![Collodd dros 600 o bobl eu gwaith pan gaeodd 2Sisters yn Llangefni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/998/cpsprodpb/46a2/live/dc67f620-15c7-11ee-8acf-ebb6bbe06a29.jpg)
Collodd dros 600 o bobl eu gwaith pan gaeodd 2Sisters yn Llangefni
- Cyhoeddwyd
Dydy effaith cau ffatri cyw iâr 2Sisters yn Llangefni heb daro nifer o deuluoedd Ynys Môn eto, yn ôl sefydliad sy’n helpu’r di-waith.
Fe gollodd dros 600 o staff eu gwaith ddiwedd Mawrth wrth i’r cwmni gau safle yn Llangefni.
Yn ôl Môn CF mae nifer o deuluoedd yn parhau i ddibynnu ar becynnau ariannol a roddwyd wrth i’r ffatri gau, ac fe allai'r gwir effaith ddod i’r amlwg dros y misoedd nesaf.
Mae’r sefydliad yn dweud bod dros 120 o weithwyr eisoes wedi troi atynt yn gofyn am gymorth a hyfforddiant.
![Ffatri 2Sisters, Llangefni](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1280/cpsprodpb/e4b2/live/6395f030-15c7-11ee-8acf-ebb6bbe06a29.jpg)
Wrth gau'r ffatri ddechrau’r flwyddyn fe gafodd tasglu eu sefydlu ar yr ynys i gynnig help ac arweiniad.
Ond mae 'na boeni na fydd nifer o deuluoedd yr ynys yn gweld effaith cau'r ffatri tan y gaeaf pan fydd defnydd tanwydd yn cynyddu a phecynnau ariannol yn dod i ben.
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
'Does 'na’m llawer o waith ar yr ynys'
Am 10 mlynedd roedd Desmond Edwards yn gweithio dros nos yn 2Sisters - rhwng 22:00 a 06:00.
Wrth siarad â Newyddion S4C fe ddywedodd ei fod wedi ymgeisio am sawl swydd ers colli ei waith ym mis Mawrth, ond mae’n parhau i aros am gyfle gan gyflogwr.
“Does 'na’m llawer o waith ar yr ynys ‘ma a deud y gwir ‘tha chi.
![Desmond Edwards](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/5e8d/live/d327ecd0-15bf-11ee-8971-4f7163660d96.jpg)
Desmond Edwards: "Mae pawb yn gorfod trafeilio dros y bont am waith"
“Mae’r gwaith tu allan... pawb yn gorfod trafeilio dros y bont am waith.
“Dwi ‘di trio am ddau neu dri o jobsys ond heb glywed dim eto.”
Yn ôl Mr Edwards mae o wedi derbyn hyfforddiant o’r newydd er mwyn ceisio bod yn swyddog diogelwch, ond prin iawn yw’r cyfleoedd i weithio ar yr ynys.
“Mae’r swyddi mawr ‘ma, maen nhw’n cau a ma' rhaid meddwl be' ‘di dyfodol yr hogia ifanc ‘ma."
![Safle Llangefni yn y 70au](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2ffb/live/a94afb10-15c8-11ee-8cae-4785e93eadf1.jpg)
Agorodd y safle yn 1970 gan JP Wood & Sons, ac fe fu'n gyflogwr pwysig am ddegawdau
Am 50 o flynyddoedd mi fuodd ffatri 2Sisters, neu “Chuckies”, fel mae nifer yn lleol yn ei alw, yn gynhaliaeth i deuluoedd.
Yn ôl un cyn-weithiwr, dyma lle'r oedd “sicrwydd am waith ar yr ynys”.
Doedd Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU ddim am gyhoeddi faint o’r mwy na 600 o weithwyr sydd bellach wedi canfod gwaith, ond mae BBC Cymru ar ddeall fod nifer helaeth o’r gweithwyr bellach wedi canfod swyddi newydd.
Pryder iechyd a lles
Mae Môn CF yn sefydliad sy’n gweithredu ar draws yr ynys gydag unrhyw un sydd angen help - yn cynnwys darparu hyfforddiant a chyngor i’r di-waith.
Yn ôl y sefydliad mae 123 o weithwyr eisoes wedi troi atynt am gymorth ac o blith rheiny mae 60 bellach wedi canfod gwaith.
![Alun Roberts](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1536/cpsprodpb/c0d7/live/0cc47e00-158d-11ee-a7e7-7d5d79c7d45e.jpg)
Alun Roberts: "Pan mae’r haf yn dod i ben a’r biliau’n mynd yn uwch, dyna ydy’r pryder"
Ond gyda nifer o deuluoedd unai yn dibynnu ar bres daliadau diswyddo gan y cwmni, neu cynilon preifat, mae 'na bryder nad yw gwir effaith y cau wedi taro eto.
“Mae ‘na rai wedi cael taliadau eithaf sylweddol ac mae’n cadw nhw fynd”, meddai Alun Roberts o Môn CF.
“Ond pan mae’r haf yn dod i ben a’r biliau’n mynd yn uwch dyna ydy’r pryder... oes 'na gnewyllyn o bobl sydd dal allan o waith ac angen y cymorth.”
Tu hwnt i’r ochr ariannol mae ‘na bryder hefyd am iechyd a lles y rhai a gollodd eu gwaith.
Yn ôl Mr Roberts, i rai o weithwyr 2Sisters, y gwaith oedd eu prif fodd o gyfathrebu gyda phobl eraill - a hynny bellach wedi diflannu.
“O'n i’n siarad 'efo un cyn-weithiwr rhyw bythefnos yn ôl ac mi oedd o wedi cael amser caled 'efo iechyd meddwl ac yn dweud bod o heb sylweddoli cymaint o effaith gafodd o arno fo fel unigolyn o fod allan o’r gwmnïaeth oedd wedi bod yn rhan annatod o’i fywyd o am gymaint o flynyddoedd.”
Helpu rhai cyn-gydweithwyr
I’r aelod diweddara' o dîm Môn CF, dyma gyfle i helpu rhai o’i gyn-gydweithwyr.
Roedd Bradley Latty-Williams gynt yn gweithio yn yr adran gyllid yn 2Sisters ond ar ôl colli ei waith, mae o bellach yn gweithio fel swyddog cefnogi yn helpu'r rhai fu’n gweithio gyda nhw.
![Bradley Latty-Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/3ae7/live/23d8d910-158d-11ee-8cae-4785e93eadf1.jpg)
Mae Bradley Latty-Williams yn croesawu'r cyfle i helpu rhai o’i gyn-gydweithwyr
“Lot o’r bobl dwi’n gweithio 'efo, maen nhw’n dod o 2Sisters, tua 75%.
“Ma’n neis cael deutha’ nhw, o'n i’n gweithio yna hefyd, maen nhw’n gwybod bod fi’n gwybod sut maen nhw’n teimlo rŵan a dwi’n deall- mae hynny’n neis."
Y cyngor sir yn 'trio ymateb i'r heriau'
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi: “Mae na gyfleoedd, mae na hyfforddiant ond 'di'r swyddi ddim yma ar hyn o bryd sy'n gwneud hi'n anoddach fyth.
"Oherwydd penderfyniadau, ymhellach na llywodraeth leol, mae'r economi yma yn newid.
![Llinos Medi](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1024/cpsprodpb/ab33/live/a80546c0-15eb-11ee-8cae-4785e93eadf1.jpg)
Mae'r cyngor sir yn ymdrechu i ymateb i'r ergydion economaidd diweddar, medd yr arweinydd Llinos Medi
"Does dim diwydiannu, mae popeth yn cael ei brynu mewn ac wrth wneud hynny mae ardaleodd fel Ynys Môn, rhannau o Gymru a rhannau o Brydain Fawr yn cael ergydion fel hyn."
Ychwanegodd Ms Medi ei bod yn "poeni am y bobl ifanc hefyd.
"Fel cyngor 'dan ni wedi bod o blith y cynghorau sydd wedi datblygu y mwyaf o unedau busnes i gefnogi busnesau bach a nifer o rheini ar yr yr ynys.
"'Dwi'n gwybod 'di o ddim yn llenwi'r bwlch - mae llwyodraethau wedi gadael ni lawr ond 'dan ni'n trio ymateb i'r heriau.”
Daeth cau ffatri 2Sisters ar gefn cyfres o ergydion economaidd eraill i Fôn gyda sawl ffatri fawr wedi cau dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Mae ‘na deimlad o obaith gan rai gyda’r addewid o swyddi yn dilyn cyhoeddiad Porthladd Rhydd yng Nghaergybi, a chynlluniau ynni adnewyddadwy fel Morlais ar y gweill.
Ond yn y tymor byr mae addasu i newid mor sylweddol yn parhau yn heriol.