2 Sisters: Ffatri sy'n cyflogi dros 700 o bobl i gau ddiwedd y mis

  • Cyhoeddwyd
ffatri 2 Sisters yn LlangefniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn cyflogi 730 o weithwyr

Mae cwmni 2 Sisters wedi cadarnhau y bydd eu ffatri brosesu cig yn Llangefni yn cau ar 31 Mawrth.

Yn Ionawr daeth cyhoeddiad fod hyd at 700 o swyddi yn y fantol gyda'r cwmni'n dweud fod "rhaid gwneud newidiadau" oherwydd heriau'r sector cynhyrchu bwyd.

Ond er trafodaethau rhwng llywodraethau undebau a'r cwmni, ddydd Mercher daeth cadarnhad fod bwriad i gau'r ffatri ddiwedd y mis.

O 1 Ebrill ymlaen, y gred ydy mai dim ond tua 20-25 o'r 730 o weithwyr presennol fydd yn parhau'n gyflogedig ar y safle.

Mewn datganiad ar y cyd rhwng y cwmni ac undeb Unite, dywedon nhw "nad oes, hyd yma, unrhyw opsiynau gwahanol i gau'r busnes wedi eu hadnabod, yn cynnwys cefnogaeth ariannol gan y Llywodraeth".

Ychwanegon nhw: "Er bod y cyfnod ymgynghori 45 diwrnod yn dod i ben ddydd Sul 12 Mawrth, mae'r ddwy ochr wedi cytuno bod yr holl opsiynau wedi eu hystyried ac os nad oes newid i'r sefyllfa bresennol, y tebygrwydd yw y bydd y safle yn cyhoeddi, ddydd Llun 13 Mawrth y bydd y statws yn newid o gynnig i roi'r gorau i'r gwaith i fwriad i gau'r ffatri.

"Mae wedi'i gytuno ei fod er lles yr holl gydweithwyr bod y cyfnod cau yn un mor fyr ag sy'n weithredol bosibl a'r bwriad yw mai'r diwrnod cynhyrchu olaf fydd 31 Mawrth."

'Newyddion dinistriol'

Mewn ymateb dywedodd Aelod Seneddol yr Ynys, Virginia Crosbie, ei fod yn "newyddion dinistriol" ac yn sioc i'r gweithwyr.

"Byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i helpu staff ar yr ynys i ddod o hyd i swyddi a hyfforddiant," meddai.

"Mae hyn eisoes yn digwydd ond nawr bydd angen ei gyflymu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Virginia Crosbia AS fod trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmni wedi methu a dod i gytundeb.

Ychwanegodd fod trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmni wedi methu â chyrraedd cytundeb.

"Rwy'n ymwybodol o sgyrsiau rhwng y cwmni a Llywodraeth y DU ynghylch rhyw fath o gymorth ariannol i gadw 2 Sisters ar agor.

"Soniwyd am y swm o £40m ond ni allai'r cwmni roi unrhyw sicrwydd y byddai'r cyfleuster yn parhau ar agor yn y tymor canolig i'r hirdymor pe bai cymorth o'r fath yn cael ei roi.

"Rwy'n siŵr y byddai llawer o bobl yn cytuno na allai hyn byth fod yn ddefnydd da o arian trethdalwyr heb warant hirdymor ar gyfer y safle."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, sy'n cynrychioli'r ynys ym Mae Caerdydd: "Mae hyn yn newyddion dinistriol i'r gweithlu a'u teuluoedd.

"Y flaenoriaeth nawr fydd parhau i'w cefnogi cymaint â phosib."

'Canolbwyntio ar ddyfodol hirdymor y safle"

Dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi: "Mae hyn yn newyddion trychinebus i'r gweithlu a'u teuluoedd.

"Ein blaenoriaeth nawr fydd eu cefnogi cymaint ag sydd bosib a sicrhau bod holl bartneriaid tasglu 2 Sisters yn parhau i gydweithio ar eu rhan.

Disgrifiad o’r llun,

Llinos Medi: "Mae hyn yn newyddion trychinebus i'r gweithlu a'u teuluoedd"

"Bydd rhaid hefyd canolbwyntio ar ddyfodol hirdymor y safle a'r effaith y bydd colli dros 700 o swyddi yn ei gael ar ddyfodol yr ynys a'r rhanbarth."

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan Williams: "Ein blaenoriaethau nawr fydd darganfod swyddi newydd i weithwyr 2 Sisters a'u llesiant; sicrhau dyfodol hyfyw i'r safle a diogelu economi ein hynys.

"Bydd ymrwymiad parhaol i gydweithio gan Lywodraeth Cymru a'r DU a phartneriaid eraill yn parhau'n hanfodol."

Pynciau cysylltiedig