Angen 'chwarae teg' wrth ddatgarboneiddio Port Talbot

Gwaith dur Port Talbot
  • Cyhoeddwyd

Mae angen "chwarae teg" i gwmni dur er mwyn ceisio datgarboneiddio gweithfeydd mwyaf y DU ym Mhort Talbot.

Dyna alwad cadeirydd Tata Steel UK wrth i’r cwmni chwilio am arian gan Lywodraeth y DU i ddatgarboneiddio eu safle yn ne Cymru.

Dywedodd Henrik Adam fod cystadleuwyr Ewropeaidd yn derbyn "biliynau o bunnoedd" gan lywodraethau i drosglwyddo i weithrediadau sy’n llai niweidiol i’r amgylchedd.

Mae'n debyg bod gweinidogion wedi cynnig £300m i Tata Steel UK ar gyfer eu cynlluniau datgarboneiddio.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU "fod yr Ysgrifennydd Busnes yn gwybod pa mor hanfodol yw’r diwydiant dur i Gymru".

Port Talbot yw cartref gwaith dur mwyaf Prydain, lle mae dwy ffwrnais chwyth yn gweithio rownd y cloc.

Mae’r gwaith hefyd yn un o lygrwyr mwyaf y wlad, ac mae Tata wedi ymrwymo i drawsnewid y safle a lleihau allyriadau yn ddramatig.

Mewn cyfweliad arbennig ym Mhort Talbot, dywedodd Henrik Adam wrth BBC Cymru ei fod yn "wirioneddol ymroddedig" i ddatgarboneiddio’r safle.

"Yr unig beth ‘dyn ni’n ofyn amdano yw chwarae teg o gymharu â’n cyfoedion yn Ewrop," meddai.

"‘Dyn ni mewn cystadleuaeth â gwneuthurwyr dur Ewropeaidd, felly ‘dyn ni ddim yn gofyn am fargen arbennig,” meddai.

"Rydym yn gofyn am chwarae teg gyda seiliau cystadleuol o ran cefnogaeth, buddsoddiad ond hefyd, bod yn gystadleuol o ran costau ynni."

Mae'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot yn dod at ddiwedd eu hoes, a byddai angen uwchraddio gwerth miliynau o bunnoedd yn ystod y blynyddoedd nesaf i barhau.

Un opsiwn yw gosod ffwrneisi bwa trydan yn eu lle sy'n cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy, ond byddai hynny'n cymryd blynyddoedd o gynllunio ac adeiladu gan gostio biliynau o bunnoedd.

'Anodd i ni fod yn gystadleuol'

Mae cost adeiladu, a biliau ynni'r dyfodol, yn bethau yr hoffai Tata Steel UK i’r llywodraeth gynnig cymhorthdal amdanynt.

Ni wnaeth Mr Adam gadarnhau a fyddai £300m yn ddigon, fel mae rhai adroddiadau yn awgrymu sydd wedi ei gynnig gan Lywodraeth y DU.

"Mae cenhedloedd eraill yn arllwys biliynau o bunnoedd i’n cystadleuwyr ac i roi cefnogaeth ar gostau ynni. Mae hynny'n rhywbeth sy’n peri pryder i ni," meddai.

"Oherwydd os yw hynny'n digwydd o'n cwmpas, mae'n anodd i ni fod yn gystadleuol."

Mae’r gwaith dur ym Mhort Talbot yn cael ei ystyried yn ased strategol, ac yn ffynhonnell leol a dibynadwy o gynhyrchu dur i’r DU.

Mae mewnforion dur rhatach, yn enwedig o China, wedi bod yn anodd i gwmnïau fel Tata Steel.

Ond mae’r ymdrech i ddatgarboneiddio yn un gyffredin ar draws y diwydiant dur, yn ôl un felin drafod annibynnol.

"Mae safle Port Talbot yn ne Cymru yn un o’r safleoedd unigol mwyaf o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y DU, felly mae yna wir effaith sylweddol o’r diwydiant dur," meddai Roz Bulleid o’r Green Alliance.

Mae’r Green Alliance yn amcangyfrif y byddai diffodd dwy o bedair ffwrnais chwyth y DU yn cael yr un effaith ar allyriadau ag y byddai tynnu 2.4 miliwn o geir petrol oddi ar y ffyrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i wneuthurwyr dur gyflymu'r broses o ddatgarboneiddio, meddai Roz Bulleid

Ychwanegodd fod technolegau newydd wedi dod i'r amlwg a allai leihau allyriadau, a bod y diwydiant dur yn cymryd y mater o ddifrif.

"Mae’r galw gan gwsmeriaid am ddur glanach yn annog buddsoddiad," meddai, ond galwodd ar wneuthurwyr dur i ymrwymo mwy o arian ac i gyflymu prosesau datgarboneiddio.

'Nid eisiau, ond angen'

Mae Megan Kendall yn ymchwilio modelau prosesu gweithgynhyrchu dur ym Mhrifysgol Abertawe mewn prosiect ar y cyd gyda Tata.

Mae’n credu ei bod yn anochel y bydd y diwydiant yn gorfod datblygu wrth i bawb geisio cyraedd targedau sero net.

"Mewn gwirionedd, ‘di o ddim yn gwestiwn o eisiau, mae’n gwestiwn o angen. Mae’r byd yn dibynnu ar ddur," meddai.

"Os chi’n meddwl am yr awyren fwyaf i lawr at nwyddau gwyn yn y tŷ, maen nhw i gyd yn dibynnu ar ddur rhywsut,” meddai.

"Ac yn benodol yn edrych ar ddyfodol gwyrdd efo ynni adnewyddadwy, mae hwnna’n dibynnu ar ddur ‘fyd.

"Mae’r dechnoleg yn bodoli, mae yna lot o opsiynau sydd gyno ni, sy’n beth da.

"Nid dim ond un peth da sy’n mynd i ddatrys hyn ond lot o gamau gwahanol sy’n mynd i arwain at broses effeithlon."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Henrik Adam yn rhagweld newid swyddi wrth ddatgarboneiddio, yn hytrach na'u colli

Gofynnwyd i Mr Adam a fyddai trawsnewid Port Talbot yn y tymor hir yn arwain at lai o swyddi yn y diwydiant dur.

Dywedodd: "Os ydych chi’n cymharu’r gwneud dur yn syml, efallai bod hwnnw’n sylw teg. Ond rwy’n meddwl bod angen inni arsylwi ac ystyried y system gyfan.

"Rwy’n meddwl ei bod yn rhy gynnar i ddweud y bydd yn torri swyddi, bydd y swyddi’n newid, bydd swyddi newydd, swyddi eraill.

"Mae’n hawdd dweud, ‘Mae’r broses newydd mor syml, byddwn ni’n torri swyddi.’

"Rwy’n meddwl os ydych chi’n ystyried ôl troed cyfan y safle, gan gynnwys popeth, yna rwy’n siŵr y byddwn ni hefyd yn creu llawer o swyddi newydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae’r Ysgrifennydd Busnes yn gwybod pa mor hanfodol yw’r diwydiant dur i Gymru, a gwnaeth ei hymrwymiad i sicrhau dyfodol datgarbonedig, cystadleuol i’r sector yn glir pan ymwelodd â Phort Talbot yn gynharach eleni.

"Ni allwn wneud sylw ar drafodaethau masnachol sensitif."

Ychwanegodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething fod sylwadau Mr Adam yn pwysleisio "pa mor argyfyngus yw'r mater yma".

Ychwanegodd ei fod am weld "lefel tebyg o drafodaeth" gyda Llywodraeth y DU ag y cafwyd ynghylch porthladdoedd rhydd yng Nghymru.

Pynciau cysylltiedig