Eisteddfod 2025: 'Codi i'r her o gasglu £400,000'
- Cyhoeddwyd
Bydd trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn Wrecsam yn wynebu "her" dros y ddwy flynedd nesaf gyda tharged o gasglu tua £400,000 tuag at ei chynnal.
Roedd dros 100 o bobl yn bresennol mewn cyfarfod yng Ngholeg Cambria nos Fercher wrth i'r gwaith paratoi gychwyn o ddifrif.
Wedi ei chynnal yno ddiwethaf yn 2011 ar dir amaethyddol i'r gorllewin o'r ddinas, mae trefnwyr yn dweud fod union leoliad Prifwyl 2025 eto i'w gadarnhau.
Yn siarad wedi'r cyfarfod dywedodd un a oedd yn bresennol, Peter Davies: "Fydd o'n her, mae £400,000 yn lot fawr o arian mewn ardal fel hon ond dwi'n siŵr wnawn ni godi i'r her.
"Mae lot wedi newid ers 2011 a rwy'n credu fod ni dal, hefo'r clwb pêl-droed a'r pethe eraill sy'n digwydd yn yr ardal, yn codi'r ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn fwy na dim yn yr ardal."
Yn ôl Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, mae'r ffaith fod dros 100 wedi troi allan yn "hyfryd".
"Roedd 'na bobl oedd wedi bod ar y daith o'r blaen ond hefyd pobl nad oedd yn gwybod beth oedd Eisteddfod, a dyna beth sy'n wych, fod pobl yn dod at ei gilydd a meddwl be grëwn ni erbyn 2025.
"Yn hytrach na chodi arian, codi hwyl yw e, gweithgareddau ar y cyd i sicrhau fod pawb yn cael twts o'r Eisteddfod cyn iddo ddod.
"Mi fydd pawb yn Wrecsam yn ran ohono fe gobeithio."
Dywedodd Elan Parry: "Mae 'na gymaint yn mynd ymlaen yn Wrecsam ar y funud, fydd o'n really neis cael rhywbeth ddaw a sylw at ddiwylliant a'r iaith Gymraeg yn yr ardal.
"O'n i'n rhan o'r ddawns flodau yn 2011 a fydd yn neis bod yn rhan ohono mewn ffordd wahanol."
Yn ôl Cyngor Wrecsam byddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn un o saith digwyddiad o bwys i'w cynnal yn lleol, gyda'r bwriad o atgyfnerthu'r cais ar gyfer statws Dinas Diwylliant 2029.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2022