House of the Dragon yn gobeithio dod 'nôl i Gymru i ffilmio

Kevin de la NoyFfynhonnell y llun, HBO / Ollie Upton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kevin de la Noy wedi gweithio ar nifer o ffilmiau a chyfresi mawr gan gynnwys Mission: Impossible, Aladdin ac Antman and the Wasp: Quantumania

  • Cyhoeddwyd

Mae cynhyrchwyr House of the Dragon yn gobeithio dod 'nôl i Gymru i ffilmio’r drydedd gyfres.

Ac yn ôl uwch-gynhyrchydd y ddrama ffantasi roedden nhw wedi eu plesio'n fawr pan oedden nhw'n ffilmio yno ddiwethaf.

Ar hyn o bryd mae ail gyfres House of the Dragon, sy’n gysylltiedig gyda’r gyfres boblogaidd Game of Thrones, yn cael ei darlledu ar Sky.

Fe gafodd rhan ohoni ei ffilmio yng Nghymru gyda lleoliadau fel Llanddwyn, chwarel Dinorwig a chwarel Trefor yn troi'n wlad ddychmygol Westeros ar y sgrin.

Ac wrth i gwmni Americanaidd HBO gyhoeddi bod trydedd gyfres newydd gael ei chomisiynu fe ddywedodd yr uwch-gynhyrchydd wrth Cymru Fyw eu bod nhw eisiau dod 'nôl i Gymru i’w ffilmio.

Ffynhonnell y llun, Home Box Office Inc
Disgrifiad o’r llun,

Mae golygfeydd 'epig' yn rhan bwysig o ail gyfres House of the Dragon yn ôl yr uwch-gynhyrchydd Kevin de la Noy

Mae Kevin de la Noy wedi gweithio ar ffilmiau Hollywood mawr fel Blood Diamond, Eternals a Saving Private Ryan a phan oedd y tîm cynhyrchu yn chwilio am leoliadau ffilmio roedd gogledd Cymru ar ei restr.

Yn siarad o Los Angeles, eglurodd: “Dwi wedi gwneud lot o waith lleoliad yng Nghymru fel cynhyrchydd ar Clash of the Titans a rheolwr lleoliad ar First Knight, felly dwi’n adnabod Cymru yn dda.

"Felly pan wnes i ddod i mewn i wneud yr ail gyfres (o House of the Dragon) ac edrych ar y naratif ac edrychiad Westeros, daeth Cymru i’r meddwl yn syth ac mae sawl lleoliad wnaethon ni saethu yn yr ail gyfres yn lleoliadau ro’n i’n gyfarwydd iawn â nhw ac wedi saethu o’r blaen.”

Y drefn gyda dewis lleoliad ydi bod tîm bychan yn cyfarfod ar ôl darllen y sgript i drafod gwahanol lefydd posib sy’n gweddu’r ddrama.

Mae angen wedyn ymweld â’r rhai mwyaf addawol a chael trafodaethau manwl efo’r awdurdodau, asiantaethau a’r tirfeddianwyr cyn dod i benderfyniad.

Ffynhonnell y llun, HBO / Theo Whiteman
Disgrifiad o’r llun,

Kevin de la Noy (ar y dde) ar leoliad

Un o’r risgiau gyda ffilmio yng Nghymru ydi’r tywydd. Mae cael cysondeb yn ystod cynhyrchiad yn bwysig… a dyna pam fod y diwydiant ffilmiau wedi ei leoli yn Hollywood, Califfornia.

Ond dywedodd Kevin de La Noy eu bod nhw wedi bod yn hynod o ffodus yn ystod y pum wythnos o ffilmio yng Nghymru haf diwethaf ac yn hapus iawn gyda’r broses a’r hyn sy’n cael ei weld ar y sgrin.

Meddai: “Roedden ni’n lwcus iawn gyda’r tywydd ond mae rhai agweddau o Gymru sy’n edrych yn well, yn weledol, yn y glaw efo cymylau bygythiol. Dydi rhywun ddim eisiau awyr las lachar bob tro, a gafon ni gymysgedd pan oedden ni yno.”

Angen parchu tirfeddianwyr a chymunedau

Ac fe gadarnhaodd ei fod o’n gobeithio gallu dod yn ôl i ffilmio ar gyfer y drydedd gyfres.

“Dwi eisiau dod yn ôl i ogledd Cymru, ydw…”

Ychwanegodd: “Dydw i methu dweud lle eto. Ar hyn o bryd mae’n rhaid i ni fod yn barchus iawn i’r tirfeddianwyr, boed nhw’n gorfforaethol, llywodraeth neu’n breifat oherwydd ar ddiwedd y dydd nhw ydi’r gwestywyr.

“Rydyn ni’n dod a lot mawr o arian i’r economi ond gyda’r cymunedau, rydyn ni’n mynd i mewn, ac mi rydyn ni’n griw mawr, ac mae’n rhaid i ni fod yn sensitif i effaith hynny - effaith amgylcheddol, ond hefyd yr effaith ar y gymdeithas felly fyddwn ni ddim yn dweud o flaen llaw 'dyma be' ydyn ni’n ei wneud, a dyma le ydyn ni’n mynd'.”

Un rheswm am hyn yw osgoi denu gormod o ymwelwyr i ardal tra mae cynhyrchiad mawr hefyd yno.

Ffynhonnell y llun, Home Box Office Inc
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gyfres wedi ffilmio mewn wyth lleoliad ar draws gogledd Cymru gan gynnwys Dyffryn Ogwen, ac hefyd pont Rhufeinig Penmachno, Penmon a thraeth Biwmares

Mae Cymru wedi ei ddefnyddio’n aml fel lleoliad i ffilmio ac mae Llywodraeth Cymru ac asiantaethau fel Cymru Greadigol a Sgrîn Cymru yn ceisio cefnogi hynny.

Fe wnaeth cynhyrchiad House of the Dragon gyflogi 250 o aelodau criw ffilmio lleol a chreu 30 o gyfleoedd hyfforddiant ac uwchsgilio.

Ffynhonnell y llun, Home Box Office Inc
Disgrifiad o’r llun,

Emma D'Arcy sy'n chwarae cymeriad Rhaenyra Targaryen

Dywedodd Kevin de la Noy bod rhan fwya’ o’r strwythurau eisoes mewn lle yng Nghymru i helpu cynhyrchiadau fel House of the Dragon, ond y byddai o yn bersonol yn hoffi newid yn y system drethi.

Ar hyn o bryd mae’r cymorth trethiannol yn dod i rym ym Mhrydain unwaith mae cwmni yn penderfynu eu bod am fynd yno i ffilmio - ond nid os ydyn nhw’n ymweld ag ardal ar gyfer ymchwil ond yn penderfynu peidio ffilmio yno yn y diwedd.

“Fel cynhyrchydd os ydw i eisiau mynd a ffilm i wlad benodol a dwi’n mynd i’r wlad honno, dylai fy nghostau datblygu fod yn gymwys am ad-daliad (treth). Fi sy’n cymryd y risg i gyd ar hyn o bryd….

“Rydan ni’n gwario cannoedd o filoedd yn gyrru i fyny’r M1, aros mewn gwestai a siarad efo tirfeddiannwr."

Ychwanegodd: “Ond newid bach ydi hynny ac rydyn ni’n gweithio ar hwnna.”

Cymorth ar gael

Llywodraeth y DU sydd yn gyfrifol am y rheolau trethiant yma ac maen nhw’n cael eu harolygu ar hyn o bryd. Dywedodd llefarydd ar ran Y Trysorlys ac adran Cyllid a Thollau na allwn nhw wneud unrhyw sylwad oherwydd yr Etholiad Cyffredinol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn falch o'r berthynas waith gref rydym wedi'i datblygu gyda HBO ac rydym wastad yn awyddus i ddysgu am brofiad cwmnïau cynhyrchu o ffilmio yng Nghymru, gyda'r gobaith o'u hannog i ddychwelyd yma.

"Rhan o wasanaeth Cymru Greadigol yw cynnig cymorth a chyngor ymarferol yn rhad ac am ddim i gwmnïau cynhyrchu sy'n chwilio am leoliadau.

"Mae ein tîm Sgrîn Cymru ymroddedig wrth law bob amser i helpu gyda phethau fel darparu lluniau o leoliadau, cyfeirio cwmnïau at awdurdodau lleol a chyrff rheoleiddio perthnasol, cynorthwyo gyda logisteg a dod o hyd i griw lleol profiadol."

Pynciau Cysylltiedig