ASau sy'n gadael San Steffan yn trafod eu hatgofion
- Cyhoeddwyd
Mae cyfnodau'r Aelodau Seneddol Cymreig sydd ddim yn sefyll yn yr etholiad cyffredinol nesaf wedi dirwyn i ben.
Cafodd Senedd San Steffan ei diddymu ddydd Iau, sy'n golygu fod pob sedd yn Nhŷ’r Cyffredin yn wag ar hyn o bryd.
Mae dros 100 o ASau wedi cyhoeddi nad ydyn nhw'n bwriadu sefyll eto, gan gynnwys naw o Gymru.
Mae rhai o'r aelodau hynny wedi bod yn sgwrsio gyda BBC Cymru am eu cyfnodau fel Aelodau Seneddol.
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd24 Mai
Cafodd Hywel Williams ei ethol gyntaf yn 2001 yn sedd Caernarfon, ac yna Arfon o 2010 ymlaen.
Tan yn ddiweddar Mr Williams oedd llefarydd Plaid Cymru ar faterion tramor.
Ond fe ddisgrifiodd ddiweddglo ei yrfa seneddol fel "un ychydig yn siomedig".
"Cafodd yr etholiad ei alw mor sydyn," meddai.
"Ro'n i'n disgwyl rhywbeth yn yr hydref, ac roedd yna rai materion polisi y hoffwn i fod wedi eu gorffen cyn hynny."
Er iddo ddweud fod nifer o draddodiadau San Steffan yn syndod iddo ar y dechrau, mae ganddo atgofion melys o'i 23 mlynedd yn y swydd, yn enwedig ei gyfnodau yn cadeirio gwahanol bwyllgorau.
"Fe wnes i eistedd yng nghadair y llefarydd ar ddau achlysur, ac mae cadeirio Tŷ’r Cyffredin wir yn her, galla i ddweud wrthych chi," meddai.
"Pan ro'n i'n cadeirio Tŷ’r Cyffredin yn y brif siambr, fe wnaeth ffrind i mi geisio codi mater, ac ro'n i'n hapus iawn i'w wrthod."
Cafodd Wayne David ei ethol am y tro cyntaf yn yr un flwyddyn â Hywel Williams, a bydd y ddau yn gadael eu seddi'r un pryd hefyd.
Mae Wayne David wedi cynrychioli Caerffili yn San Steffan ers 2001.
Mae wedi gwasanaethu fel gweinidog yn Swyddfa Cymru ac roedd yn aelod o fainc flaen y Blaid Lafur am flynyddoedd.
Ond fe gyhoeddodd yn 2022 na fydd yn ymgeisio yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
"Yn naturiol dwi'n teimlo'n reit drist am y peth. Dwi wedi bod yn rhan o'r Senedd ers sbel, ond mae'n rhaid i chi symud 'mlaen," meddai.
Wrth drafod ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, dywedodd: "Y peth pwysig yw arafu rhywfaint, gan fod gweithio fel Aelod Seneddol yn rhywbeth digon llethol ar adegau.
"Dwi'n siŵr fod gan y wraig restr hir o lefydd i fynd a gwahanol dripiau ac ati, a rhywfaint o waith tŷ dwi'n siŵr!"
'Cymysgedd o emosiynau'
Mae Jamie Wallis wedi bod yn Aelod Seneddol dros Ben-y-bont ar Ogwr ers 2019.
Y Ceidwadwr oedd yr AS cyntaf i ddweud yn gyhoeddus bod ganddo ddysfforia rhywedd.
Roedd eisoes wedi cyhoeddi nad oedd yn bwriadu sefyll yng Nghymru yn sgil y newidiadau i'r ffiniau etholiadol.
Ond roedd amseru cyhoeddiad Rishi Sunak ynglŷn â chynnal etholiad cyffredinol yn syndod iddo, ac roedd wedi disgwyl parhau yn ei rôl am gyfnod hirach.
"Roedden ni'n disgwyl etholiad yn yr hydref efallai... roedd hynny bendant beth yr oedd y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol yn ei ddisgwyl," meddai.
Fe eglurodd ei fod wedi teimlo rhywfaint o ryddhad pan ddaeth y cyhoeddiad.
"Dwi'n falch taw nid ryw gyhoeddiad am bolisi neu rywbeth tebyg oedd o.
"Wedyn 'nes i ddechrau sylweddoli be' mae hyn i gyd yn ei feddwl, ac roedd 'na gymysgedd o emosiynau... ond dwi'n meddwl ei fod e [Sunak] wedi gwneud y penderfyniad cywir.
"Dyw e byth yn benderfyniad anghywir i wrando ar bobl y wlad, ry'n ni'n byw mewn gwlad ddemocrataidd."
Ychwanegodd: "Mae hon yn swydd yr ydych chi'n disgyn mewn cariad â hi, ry' chi wastad eisiau un wythnos fach arall."
Teimlo'n 'falch iawn'
Mae'r tri chyn-aelod yn dweud mai helpu etholwyr oedd un o'r pethau gorau am y swydd.
Dywedodd Mr Williams ei fod yn falch iawn o fod wedi cael y cyfle i weithio i bobl Arfon a Chaernarfon.
Wrth drafod y cyngor y byddai'n ei roi i AS newydd, dywedodd: "Arhosa yn driw i dy etholaeth = nhw yw'r bobl ti'n eu gwasanaethu."
Mae un mater penodol yn sefyll allan i Mr David: "Un peth dwi'n teimlo'n ofnadwy o gryf amdano yw cŵn peryglus.
"Ry'n ni wedi cael ambell i ddigwyddiad ofnadwy yn fy etholaeth i, ac rydw i wedi ymgyrchu gydag un o'm hetholwyr am gyfnod hir nawr ac rydyn ni wedi ysgogi ymateb gan y llywodraeth.
"Gobeithio bydd mwy o ddatblygiad yn y dyfodol er mwyn cadw pobl yn ddiogel rhag cŵn peryglus."
Gwaith cyffredin o ddydd i ddydd oedd hoff beth Mr Wallis: "Da' chi'n gwybod bod y materion yma ddim yn mynd i ennill miliwn o bleidleisiau i chi, na chwaith yn mynd i hawlio penawdau.
"Does neb yn mynd i fod yn siarad am hyn mewn 20 mlynedd, ond yn y foment yna, 'da chi wedi gwneud gwahaniaeth mawr i un teulu."