Cymru'n cynnal arbrawf saethu ffilmiau carbon niwtral

Tilly Ashton
Disgrifiad o’r llun,

Tilly Ashton yn glanhau pecynnau gwastraff ar set ffilm er mwyn eu gosod yn y biniau ailgylchu perthnasol

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru’n arwain yr ymdrech i dorri ôl-troed carbon y sector ffilm a theledu ym Mhrydain gyda chynllun i gyrraedd targedau sero net.

Fe allai mwy o gynhyrchiadau mawr Netflix a Disney gael eu denu i Gymru yn sgil yr ymdrech o ran cynaliadwyedd, yn ôl arbenigwyr y sector.

Mae Sefydliad Ffilmiau Prydain a'r mudiad amgylcheddol Albert wedi dewis Cymru ar gyfer cynllun peilot arbennig.

Bydd gofyn i gynhyrchiadau ddefnyddio ynni adnewyddadwy, ailgylchu gwisgoedd a setiau a pheidio defnyddio diesel.

“Mae’n her enfawr,” meddai Tilly Ashton, cyd-lynydd cynaliadwyedd ar gyfer y sector ffilm a theledu.

“Mae rhai pobl wedi bod yn gweithio yn y diwydiant am gyfnod hir ac mae ganddyn nhw ffyrdd penodol o weithio y maen nhw'n gwybod sy'n gweithio orau iddyn nhw.

"Rydych chi hefyd o dan gymaint o bwysau amser a does gan neb amser i feddwl am ffyrdd eraill o wneud pethau.

Disgrifiad o’r llun,

Tilly Ashton yw un o ymgynghorwyr cynaliadwyedd cyntaf y sector ffilm a theledu

“Yr hyn rydw i wedi canolbwyntio arno i ddechrau yw’r camau hawdd. Er enghraifft, dylunio systemau ailgylchu ar y set a chydweithio gyda chyflenwyr gwych sy’n gallu rheoli ein gwastraff, yn ogystal a dod o hyd i ffyrdd o gyfrannu a storio ac ailddefnyddio adnoddau.

"Ond yr her mwyaf yw trafnidiaeth sy’n cyfri am oleiaf hanner ein ôl-troed carbon,” ychwanegodd.

Pum targed

Cymru yw gwlad gyntaf y DU i gymryd rhan mewn menter nodedig i sicrhau bod pawb yn y sector ffilm a theledu'n cael cefnogaeth i gyrraedd targedau carbon niwtral Llywodraeth Cymru.

Mae'r mudiad Albert, sy’n gosod safonau cynaliadwyedd ar gyfer y sector ac yn cael ei ariannu gan BAFTA, wedi amlinellu pum targed er mwyn torri ôl-troed carbon cynhyrchiadau

Mae rheiny'n cynnwys defnyddio mwy o ynni adnewyddadwy, ailfeddwl faint o drafnidiaeth sy’n cael ei defnyddio a thorri'n ôl ar drafnidiaeth diesel yn enwedig.

Yn ôl y data diweddaraf, roedd cynyrchiadau Cymru'n fwy dibynnol ar ddiesel yn 2022 o gymharu â chyfartaledd y DU.

Ffynhonnell y llun, Tilly Ashton
Disgrifiad o’r llun,

Tryciau ar leoliad cynhyrchiad ym Mannau Brycheiniog

Roedd dibyniaeth cynyrchiadau Cymreig ar deithio ar y ffyrdd bron ddwywaith cymaint â chyfartaledd y DU - ond roedd teithiau awyr yn cyfrif am 14% o allyriadau trafnidiaeth, a oedd yn llawer is na chyfartaledd y DU.

Mae angen creu systemau ailgylchu effeithiol hefyd, a chreu economi gylchol trwy ailddefnyddio deunydd, bwyd a setiau neu eu rhoi i gymunedau lleol.

Hefyd mae yna alw am ragor o hyfforddiant o fewn y sector er mwyn sicrhau bod timau cynhyrchu'n hyderus wrth gynllunio cynyrchiadau cynaliadwy.

'Gwneud pethau mor hawdd â phosib' i gynhyrchwyr

“Rydym wedi siarad â llawer o stiwdios Hollywood," dywedodd yr Athro Justin Lewis, cyfarwyddwr y mudiad cydweithredol Media Cymru.

"Mae’n gwbl amlwg byddai ganddynt ddiddordeb mawr mewn ffilmio yng Nghymru pe baent yn gwybod bod Cymru yn lle hawdd i wneud ffilmiau carbon niwtral...

"Mae ganddyn nhw ddiddordeb yn hynny hefyd - maen nhw wedi gwneud ymrwymiadau eu hunain. Felly os gwnewch chi bethau mor hawdd â phosib iddyn nhw, byddai hynny'n atyniad mawr iddyn nhw.”

Disgrifiad o’r llun,

Gwastraff wedi ei gasglu a'i ddidoli ar set cynhyrchiad cwmni Buffalo Pictures

'Mae wedi bod yn agoriad llygaid'

Un cwmni cynhyrchu sydd eisoes wedi penodi Tilly Ashton fel eu cyd-lynydd cynaliadwyedd nhw yw Severn Screen sy’n gyfrifol am y cyfresi Craith a Steeltown Murders.

“Mae wedi bod yn agoriad llygaid," medd Pennaeth Strategaeth a Gweithredu'r cwmni, Mathew Talfan.

"Mae cael rhywun lle eu job nhw yw canolbwyntio ar hwn, wedi gweddnewid y ffordd ni’n gweld ein hunain a sut rydyn ni’n gweithio.

"Proses yw hwn lle rydyn ni gyd yn trio gwella y ffordd rydyn ni’n gweithio a dyw hyn ddim am ddigwydd dros nos ac mae angen i ni gydweithio.

Disgrifiad o’r llun,

Dydy newid ddim yn mynd i ddigwydd dros nos, medd Mathew Talfan, ond mae'r diwydiant wedi profi'r gallu i newid yn ystod y pandemig

“Fe ddangosodd y pandemig bod gan y diwydiant y gallu i newid y ffordd mae’n gweithio dros nos, felly mae modd gwneud newid.

"Efallai yn y dyfodol bydd yr un maint o newid yn cael ei wneud ar gyfer cynaliadwyedd, ond mae angen sicrhau ein bod ni’n rhoi’r statws mae’r her i fod yn fwy cynaliadwy yn ei haeddu.”

Dywedodd Dirprwy Gweinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden bod "manteision a photensial y diwydiant yn enfawr i Gymru".

Ychwanegodd: "Yn unol â’n hymrwymiad i adeiladu Cymru wyrddach rhaid inni ganolbwyntio ar sicrhau ein bod i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i leihau’r effaith ar ein hamgylchedd a nodi ffyrdd y gall y diwydiant sgrin lwydddo gyda chynaliadwyedd ar y blaen.”

Pynciau cysylltiedig