Ymgyrchwyr i herio penderfyniad canoli Ambiwlans Awyr
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod am herio penderfyniad diweddar i gau dau o ganolfannau ambiwlans awyr Cymru yn y llysoedd.
Wedi'r penderfyniad i gau canolfannau Y Trallwng a Chaernarfon a chanoli'r gwasanaeth, dywed timau ymgyrchu'r ddau leoliad mai'r "ffordd briodol ymlaen" yw dechrau ar y broses o gael adolygiad barnwrol.
Yn dilyn adolygiad, cytunodd penaethiaid iechyd i ganoli'r gwasanaeth, wedi i adroddiad nodi y byddai newid lleoliad yr hofrenyddion a cherbydau ffordd yn galluogi'r gwasanaeth i ymateb i 139 o alwadau brys ychwanegol bob blwyddyn.
Ond ers hynny mae'r rhai sydd o blaid cadw'r canolfannau yn Y Trallwng a Chaernarfon wedi cyfarfod i drafod y camau nesaf.
Dywedodd Ambiwlans Awyr Cymru nad yr elusen wnaeth gynnal yr adolygiad o'r gwasanaeth, "felly byddai'n amhriodol i wneud sylw ar unrhyw her bosibl i'r broses".
Roedd yr adolygiad wedi canfod nad yw'r hofrenyddion na'r cerbydau ffordd sydd yn y Trallwng a Chaernarfon yn cael eu defnyddio mor aml â'r adnoddau yn Llanelli a Chaerdydd.
Does dim penderfyniad eto lle fydd y ganolfan newydd - Rhuddlan yn Sir Ddinbych sydd wedi ei grybwyll fel lleoliad posib.
Ond mae ymgyrchwyr sydd am gadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon ar agor yn dweud eu bod yn ofni y gallai ardaloedd anghysbell canolbarth a gogledd-orllewin Cymru fod ar eu colled pan fydd y newidiadau yn digwydd.
'Cymaint o gwestiynau dal yn bodoli'
Wrth siarad am yr ymgyrch ar Dros Frecwast fore Iau dywedodd Elwyn Vaughan - un o gynghorwyr Powys: “Y teimlad ydi fod angen cwestiynu elfennau o’r broses sydd wedi bod, fod 'na anfodlonrwydd gyda peth o’r data a gwybodaeth sydd wedi cael ei rannu a wedi ei ddefnyddio fel sail i’r penderfyniad terfynol.
"Ac felly fel rhan o’r broses ddemocrataidd dyma’r cam amlwg ma' rhaid gwneud, a mae ganddo ni dri mis i weithredu ar y cam yma.
“Fe fydd na ardaloedd eang o gefn gwlad y canolbarth a’r gogledd-orllewin a phen pella' Môn yn colli allan, felly mae hynny yn anfodlonrwydd…
"Dim ots be' yw’r broses, maen nhw wedi dod i’r un casgliad bob tro fel bod y canlyniad yn arwain y broses yn hytrach na ystyried o ddifri' y data.
“Yn gyffredinol o edrych ar y darlun llawn mae 'na gymaint o gwestiynau sy’ dal yn bodoli, mae’r broses angen ei herio, a dyna pam felly y consensws ydi i fynd am adolygiad barnwrol a chael cyngor cyfreithiol priodol.”
Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn rhan o bartneriaeth - GIG Cymru sy'n cyflogi'r meddygon sy'n teithio ar yr hofrenyddion ac yn talu am yr offer meddygol maen nhw'n ei ddefnyddio.
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy'n talu am yr hofrenyddion, y peilotiaid a'r canolfannau awyr - mae angen £11.2m y flwyddyn ar yr elusen.
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
Dywed yr ymgyrchwyr eu bod yn cydnabod bod ceisio adolygiad barnwrol yn "broses hir a chymhleth ac o bosib yn gostus".
Ond byddai'n "caniatáu i farnwr werthuso’r broses o wneud penderfyniadau o’r cychwyn, a chredwn y byddai’n dod â thryloywder a gwrthrychedd angenrheidiol, gan ystyried i ba raddau y mae’r broses wedi gwneud dim ond sicrhau canlyniad a benderfynwyd eisoes", medd ymgyrchwyr.
'Dim dewis arall'
"Mi fydd yna gamau yn y broses hon fydd yn gofyn i ni godi symiau ychwanegol sylweddol o arian er mwyn talu’r costau, a gobeithiwn y bydd cefnogwyr yr ymgyrchoedd i gadw a gwella gwasanaethau Gofal Critigol lle mae eu hangen yn fawr yn ein helpu gyda hynny, fel y maent wedi'i wneud hyd yn hyn," medd ymgyrchwyr, ond gan bwysleisio nad oes angen arian eto.
"Mae’r ffaith y byddwn yn gofyn am unrhyw arian o gwbl yn rhywbeth sydd wir yn ein tristáu.
"Fodd bynnag, heb adolygiad ffurfiol o’r broses hon, gwyddom y bydd pobl a chymunedau yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Cymru yn colli mynediad amserol at y gwasanaeth hanfodol hwn pan fydd ei angen fwyaf arnynt, ac o ganlyniad does gennym lawer o ddewis ond gwneud hyn," ychwanega'r datganiad.
Gobaith yr ymgyrchwyr yw y bydd y penderfyniad yn cael ei ystyried eto ac na fydd yn rhaid i'r mater fynd i'r llys.
'Trist iawn ei bod wedi dod i hyn'
Dywedodd Ambiwlans Awyr Cymru nad yr elusen wnaeth gynnal yr adolygiad o'r gwasanaeth, "felly byddai'n amhriodol i wneud sylw ar unrhyw her bosibl i'r broses".
Ond ychwanegodd eu bod "yn drist iawn bod dymuniad gwirioneddol i wella ein gwasanaeth ac achub mwy o fywydau wedi dod i hyn".
"I’w roi yn ei gyd-destun, yn ystod y 18 mis diwethaf bu 310 o achlysuron yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru lle na allem gyrraedd cleifion rhwng 20:00 a 02:00.
"Byddai'r newidiadau gwasanaeth arfaethedig wedi caniatáu i ni wneud hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi nodi'r ffaith fod Cyd-bwyllgor Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi dod i benderfyniad wedi proses adolygu sydd wedi para 18 mis.
"Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru a Chyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Adalw Meddygol Brys Cymru yn cefnogi'r penderfyniad hwnnw."