Adolygiad yn argymell cau dwy ganolfan Ambiwlans Awyr
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad i'r gwasanaeth Ambiwlans Awyr yng Nghymru yn argymell cau canolfannau yn Y Trallwng a Chaernarfon a chartrefu'r hofrenyddion mewn safle newydd yn y gogledd.
Nod yr adolygiad, gafodd ei arwain gan brif gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, oedd gwella'r gwasanaeth fel bod modd ymateb i fwy o alwadau brys.
Mae'r adolygiad yn ffafrio cynlluniau i agor canolfan newydd ar safle ger Rhuddlan yn y gogledd ddwyrain.
Ond mae ymgyrchwyr yn dadlau y bydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ar eu colled yn sgil cau'r canolfannau presennol.
Yn ôl y Comisiynydd, Stephen Harrhy, byddai symud i'r safle newydd yn golygu trin 139 o gleifion ychwanegol bob blwyddyn.
Pedair canolfan Ambiwlans Awyr sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda'r ddwy arall yng Nghaerdydd a Llanelli.
Roedd llawer yn y canolbarth a'r gogledd yn gwrthwynebu'r cynnig i gau canolfannau y Trallwng a Chaernarfon, gan ofni y byddai effaith ar amseroedd ymateb yn yr ardaloedd hynny pe bai'r canolfannau presennol yn cau.
Partneriaeth yw'r gwasanaeth - gyda'r gwasanaeth iechyd yn cyflogi'r meddygon sy'n teithio ar yr hofrenyddion ac yn talu am yr offer maen nhw'n ei ddefnyddio.
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy'n talu am yr hofrenyddion, y peilotiaid a'r canolfannau awyr ac mae angen £11.2m y flwyddyn ar yr elusen i gynnal y gwasanaeth.
Ond mae cefnogwyr y gwasanaeth yn ardaloedd Y Trallwng a Chaernarfon wedi dweud y gallai cau'r safleoedd arwain at ostyngiad mewn rhoddion i'r elusen ambiwlans awyr .
'Angen gwelliannau yn y gogledd'
Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad y byddai symud yr hofrenyddion i safle newydd yn gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithiol ar hyd y wlad.
Noda'r ddogfen bod angen arbennig i gyflwyno gwelliannau i'r ddarpariaeth yn y gogledd fin nos, gan fod tua 530,000 o bobl dros awr i ffwrdd o hofrennydd ar ôl 20:00.
Dyma un o'r rhesymau pam "nad oedd cadw'r status quo yn opsiwn", yn ôl yr adroddiad.
Mae gweithgaredd modelu oedd yn rhan o'r adolygiad yn dangos y byddai modd i hofrenyddion oedd yn hedfan o Ruddlan gyrraedd 25.1% o'r boblogaeth - llai na'r hyn sy'n bosib yn Y Trallwng (40.1%) a Chaernarfon (25.8%).
Dangosodd y modelu hefyd na fyddai'r safle newydd yn golygu bod modd cyrraedd cymaint o bobl ar y ffyrdd mewn 90 munud o'i gymharu â'r safleoedd presennol.
Ymhlith yr ardaloedd na fyddai modd eu cyrraedd o fewn 90 munud mae pen draw Pen Llŷn, rhannau o Ynys Môn ac ardaloedd o ganolbarth Cymru.
Er mwyn lleddfu rhai o bryderon pobl am y newidiadau, mae'r adolygiad yn argymell cyflwyno gwasanaeth gofal newydd ar y ffordd fyddai'n canolbwyntio yn benodol ar gyfer ardaloedd gwledig.
Ond yn ôl Elwyn Vaughan, cynghorydd ym Mhowys, mae'r argymhellion yn "warthus".
"Mae trigolion canolbarth Cymru wedi dangos yn glir bod angen y gwasanaeth yma, ac wedi dangos pwysigrwydd y gwasanaeth oherwydd y pellter o wasanaethau iechyd," meddai.
"Ond mae'n ymddangos bod yr angen yna'n cael ei anwybyddu oherwydd gofynion ryw ardal arall."
Ychwanegodd y dylid ystyried yn ofalus a oes angen cynnal adolygiad barnwrol i'r broses.
Yn ôl elusen yr ambiwlans awyr, mae'r gwasanaeth yn achub bywydau ledled Cymru ble bynnag mae'r criwiau wedi'u lleoli.
Bydd yr argymhellion yn cael eu cyflwyno i bwyllgor o arweinwyr y gwasanaeth ambiwlans yr wythnos nesaf, gyda phenderfyniad terfynol yn cael ei wneud bryd hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023