Ambiwlans Awyr: Safleoedd Caernarfon a'r Trallwng i gau
- Cyhoeddwyd

Bydd canolfannau ambiwlans awyr yn Y Trallwng a Chaernarfon yn cau a chanolfan newydd yn agor yng nghanol gogledd Cymru.
Mae'n dilyn adolygiad o'r gwasanaeth sydd wedi para bron i flwyddyn.
Cafodd penderfyniad ei wneud gan fwyafrif benaethiaid byrddau iechyd Cymru mewn cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Comisiynu (CBC) ddydd Mawrth - mwyafrif nad oedd yn cynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Does dim penderfyniad eto lle fydd y ganolfan newydd - Rhuddlan yn Sir Ddinbych sydd wedi ei grybwyll fel lleoliad posib.
Ond fe fydd y ganolfan yng nghanol gogledd Cymru, gyferbyn â'r A55, ac elusen Ambiwlans Awyr Cymru fydd yn gyfrifol am y trefniadau.
Ni fydd unrhyw newid nes bod gwasanaeth cerbydau ffordd newydd eisoes ar waith, ond mae disgwyl i'r gwasanaeth ar ei newydd wedd fod yn weithredol yn 2026.

Mae ymgyrchwyr yn honni y byddai pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ar eu colled pe bai'r gwasanaeth yn symud
Mae'r CBC yn galw am gomisiynu a datblygu gwasanaeth trosglwyddo achosion brys yn defnyddio cerbydau ffordd ar gyfer ardaloedd gwledig yn y gogledd a'r canolbarth yn dilyn pryderon ers dechrau'r adolygiad.
Mae ymgyrchwyr sydd eisiau cadw'r canolfannau presennol ar agor yn dweud y bydd cleifion mewn rhai mannau gwledig ar eu colled o ganlyniad symud yr hofrenyddion i safle newydd yn y gogledd.
Ond daeth adolygiad GCTMB, y gwasanaeth sy'n trosglwyddo cleifion gofal brys ac argyfyngau, i'r casgliad y byddai adleoli'r hofrenyddion yn caniatáu i'r gwasanaeth ymateb i fwy o alwadau brys bob blwyddyn ac i wneud mwy o ddefnydd o'r meddygon arbenigol.
Dyw'r penderfyniad ddim yn effeithio ar ddwy ganolfan arall y gwasanaeth yn Llanelli a Chaerdydd - yr unig un sy'n gweithredu yn y nos ar hyn o bryd.
Cafodd yr adolygiad ei arwain gan Brif Gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Stephen Harrhy, a'r nod oedd gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth a gwella effeithlonrwydd.
Yn ôl ei adroddiad, bydd newid lleoliad yr hofrenyddion a cherbydau ffordd yn galluogi'r gwasanaeth i ymateb i 139 o alwadau brys ychwanegol bob blwyddyn.
Mae'n fwriad i'r ganolfan newydd gynnal dwy shifft y diwrnod, gan gynnwys un rhwng 14:00 a 02:00 - cam a fyddai'n gwella'r ddarpariaeth ar draws Cymru yn enwedig gyda'r nos, y cyfnod sydd i gyfri am 70% o'r galw nad sy'n cael ei ddiwallu.

Stephen Harrhy yw Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans sy'n arwain yr adolygiad
Pryder gwrthwynebwyr yw y bydd y galwadau ychwanegol yn cael eu hateb yng ngogledd-ddwyrain Cymru - ond bydd pobl yn y canolbarth a rhannau o Ben Llŷn ac Ynys Môn yn colli allan ac yn gweld cynnydd yn yr amseroedd ymateb iddyn nhw.
Fel rhan o ymgyrch hir yn y canolbarth yn erbyn unrhyw newid, cafodd baneri ac arwyddion eu gosod ar giatiau ac ymylon ffyrdd yn galw am gadw canolfan Y Trallwng ar agor.
Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yn rhan o bartneriaeth - GIG Cymru sy'n cyflogi'r meddygon sy'n teithio ar yr hofrenyddion ac yn talu am yr offer meddygol maen nhw'n ei ddefnyddio.
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy'n talu am yr hofrenyddion, y peilotiaid a'r canolfannau awyr - mae angen £11.2m y flwyddyn ar yr elusen.
Ond ers cyhoeddi'r argymhelliad i gau'r canolfannau, mae llawer o bobl wedi postio negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud y byddan nhw'n rhoi'r gorau i gefnogi'r elusen os bydd yr hofrenyddion yn cael eu symud.
Daeth yr adolygiad i'r casgliad y byddai adleoli'r hofrenyddion i ganolfan newydd yn "datblygu a gwella mynediad, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth ar draws Cymru".
Hefyd, yn ôl yr adroddiad a gyhoeddwyd ar ddiwedd yr adolygiad mae angen gwelliannau i'r gwasanaeth yn arbennig yn ystod y nos yn y gogledd.
Yn yr ardal honno, mae tua 530,000 o bobl yn byw sydd heb fynediad at wasanaeth gan hofrennydd o fewn awr ar ôl 20:00.
Dyma un o'r rhesymau pam nad oedd cadw'r sefyllfa bresennol yn opsiwn, yn ôl yr adroddiad.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru'n dweud y bydd y newidiadau'n golygu bod modd cyrraedd mwy o ddigwyddiadau
Hefyd, roedd yr adolygiad wedi canfod nad yw'r hofrenyddion na'r cerbydau ffordd sydd yn y Trallwng a Chaernarfon yn cael eu defnyddio mor aml a'r adnoddau yn Llanelli a Chaerdydd.
Ond mae ymgyrchwyr sydd am gadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon ar agor yn dweud eu bod yn ofni y gallai ardaloedd anghysbell canolbarth a gogledd-orllewin Cymru fod ar eu colled pan fydd y newidiadau yn digwydd.
Dangosodd gwaith modelu yr adolygiad bod hofrenyddion sy'n hedfan o Ruddlan yn gallu cyrraedd 25.1% o'r boblogaeth - sy'n is na'r canrannau ar gyfer Y Trallwng (40.1%) a Chaernarfon (25.8%).
Canfu'r gwaith modelu hefyd na fyddai Rhuddlan yn gallu darparu yr un lefel o wasanaeth ar y ffyrdd o fewn 90 munud, a'r hyn sy'n cael ei gynnig gan y canolfannau presennol.
Ymhlith yr ardaloedd fydd ddim modd eu cyrraedd mae Pen Llŷn, rhannau o Ynys Môn a rhan helaeth o ganolbarth Cymru.
'Gwarth'
Yn y gorffennol dywedodd un ymgyrchydd, Elwyn Vaughan - sy'n gynghorydd ym Mhowys - fod yr argymhellion yn "warth llwyr."

Fe gafodd Rhys Lewis ddamwain ddifrifol 10 mlynedd yn ôl ac aeth ei deulu ati i godi arian i'r gwasanaeth ambiwlans awyr wedi iddo elwa o'u cymorth
Un sy'n poeni ynghylch colli'r ganolfan yn Y Trallwng yw Rhys Lewis, o Benegoes ger Machynlleth, a gafodd anaf difrifol dros 10 mlynedd yn ôl wedi i goeden yr oedd yn ei thocio gwympo arno.
Er mewn ardal mor anghysbell - "ar waelod dyffryn ble doedd dim signal ffôn" - fe gyrhaeddodd ambiwlans awyr "o fewn 12 munud o'r alwad" a glanio mewn man agosach nag fyddai wedi bod yn bosib i ambiwlans ffordd.
Fe gymrodd "awr a hanner i'r ambiwlans ffordd gyrra'dd - digwydd bod roedd yr agosaf yn Llanidloes," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast.
Mae yna deimladau cryf yn erbyn y newidiadau, meddai, mewn ardal mor eang a gwledig, ac mae'n rhagweld mai parhau fydd ymgyrchu i gynnal gwasanaethau brys yn y canolbarth.
"Mae'n hollol boncyrs be maen nhw'n trio 'neud... lle 'dan ni'n edrych ar hanner awr, 40 minutes o Rhuddlan, os 'di'r hofrennydd ar ga'l."
Fe gododd Mr Lewis arian i'r gwasanaeth i ddiolch am eu help wedi ei ddamwain, ond fe awgrymodd bod sawl un y mae'n eu adnabod wedi dechrau cefnu ar yr elusen gan ganslo'u debyd uniongyrchol misol neu chwilio am elusennau eraill i'w cefnogi wrth gynnal digwyddiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2024