Angen 'adolygiad brys' i safle tirlenwi dadleuol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i “adolygu ar frys” sut y gwnaethon nhw ymateb i gwynion am safle tirlenwi dadleuol.
Mae trigolion wedi cwyno am yr arogl o safle Withyhedge ger Hwlffordd yn Sir Benfro.
Dywed CNC eu bod yn gweithio i ddelio â'r sefyllfa, tra bod y gwrthbleidiau yn dweud y dylai gweinidogion fod wedi gweithredu'n gynt.
Mae'r cwmni sy'n berchen ar y safle wedi ymddiheuro wrth drigolion yr ardal am yr arogl.
Cafodd Withyhedge sylw ar raglen “Dispatches” ar Channel 4 nos Wener, lle bu trigolion yn cwyno am yr arogl o’r safle.
Mae David Neal, cyfarwyddwr y cwmni sy’n berchen arno, wedi’i ddyfarnu’n euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.
Cafodd ddedfryd o garchar wedi'i gohirio yn 2013 am gael gwared â gwastraff yn anghyfreithlon ar safle cadwraeth.
Bedair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei erlyn eto am beidio â chael gwared arno.
Mae Mr Neal hefyd wedi bod yng nghanol ffrae yn ymwneud â rhodd o £200,000 gan ei gwmni i ymgyrch arweinyddiaeth y Prif Weinidog, Vaughan Gething.
Mae Mr Gething bob amser wedi dweud bod y rheolau'n ymwneud â'r rhodd wedi cael eu dilyn.
Fe glywodd rhaglen Channel 4 honiadau mai sylffid hydrogen sy'n creu'r "drewdod" ar y safle.
Mae cyn-weithwyr yn honni ar y rhaglen bod gwastraff anaddas fel plastrfwrdd a chyflenwadau meddygol, gan gynnwys costreli o waed, wedi cael eu gadael ar y safle.
Dywedodd gweithiwr arall bod hylif llygredig sy'n dod o ardal claddu sbwriel yn cael ei roi yn y tir, yn hytrach na chael gwared ohono yn briodol.
Fe glywodd y rhaglen honiadau bod yr hylif yn gallu creu "drewdod" ac effeithio ar yr amgylchedd os yw'n gollwng.
Ddydd Mawrth, dywedodd Iechyd Cymru eu bod nhw'n monitro'r safle a bod hynny wedi dangos lefelau o nwy hydrogen sylffid ym mis Mawrth ac Ebrill, oedd ar adegau, yn uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd.
Dywedodd swyddogion eu bod nhw'n dal i gynghori pobl i gadw drysau a ffenestri ynghau pan mae arogl, ac i gael cyngor meddygol os ydyn nhw'n teimlo'n sâl.
'Angen ymchwiliad llawn'
Mewn datganiad yn dilyn y rhaglen, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod gweithredwyr tirlenwi yn cydymffurfio’n llawn â gofynion amgylcheddol a chyfreithiol llym.
“O ystyried natur ddifrifol y materion a godwyd gan y rhaglen, rydym wedi gofyn i CNC adolygu ar fyrder pa gamau a gymerodd i ymchwilio a mynd i’r afael â’r cwynion a godwyd yn uniongyrchol ag ef ers 2020.”
Ond dywedodd Andrew RT Davies AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Ni ellir anwybyddu’r dystiolaeth a’r honiadau a gyflwynwyd neithiwr ar raglen Channel 4 ynglŷn â chwmni nath roi rhodd i’r Prif Weinidog, a nawr rhaid gweithredu ar frys.
“Rydyn ni’n gwybod bod perchennog y cwmni wedi bod yn creu drewdod ofnadwy yn Withyhedge yn Sir Benfro… ac wedi cyfrannu’r swm mwyaf yn hanes datganoli, at ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi methu â chymryd unrhyw gamau brys hyd yn hyn, mae’n hen bryd iddynt ddatrys y sefyllfa sydd wedi mynd ymlaen yn llawer rhy hir ar draul pobl leol ac ymchwilio’n llawn i unrhyw ddrwgweithredu gan gwmni Neal. "
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, Arweinydd Plaid Cymru: “Mae’r rhaglen neithiwr yn codi cwestiynau difrifol pellach am synnwyr Vaughan Gething wrth dderbyn rhodd fawr gan David Neal, llygrwr amgylcheddol a gafwyd yn euog.
“Mae yna gamau brys y mae’n rhaid eu cymryd nawr ynglŷn â’r dystiolaeth ddiweddaraf a ddatgelwyd gan raglen Dispatches Channel 4.
"Ond mae angen inni wybod hefyd pam mai dim ond nawr y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am adolygiad brys gan CNC, pan mae pryderon am weithrediadau David Neal wedi bod yn gyhoeddus ers tro byd. Gyda Llywodraeth Vaughan Gething mae’r cyfrifoldeb yn gorwedd.
“Ar ddadl Arweinwyr BBC Cymru neithiwr, fe wrthododd eto i ymddiheuro am ei weithred, sy’n golygu bod blas chwerw’r sgandal hon yn parhau.”
Wrth ymateb, dywedodd Gareth O’Shea, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn deall sut effaith ma’r sefyllfa yn ei gael ar bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau o amgylch Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.
"Ers i’r problemau arogleuon ar y safle gael eu nodi am y tro cyntaf ddiwedd mis Hydref 2023, ein blaenoriaeth bob amser fu sicrhau bod y gweithredwr yn cymryd y camau gofynnol i fynd i’r afael â ffynhonnell fwyaf tebygol yr arogleuon hynny cyn gynted â phosibl.
“Mae dod â’r mater hwn i ben yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r holl bartneriaid dan sylw, ac fyddwn ni ddim yn stopio nes bod y gweithredwr yn Withyhedge yn dangos ei fod yn rheoli’r arogleuon o’i safle yn effeithiol.”
Dywedodd y cwmni wrth Channel 4 ei fod wedi ymddiheuro i drigolion lleol am yr arogleuon, gan ddweud ei fod wedi gwario miliynau o bunnoedd i ddatrys y problemau yn Withyhedge.