Seren YouTube: 'Amhosib gwneud arian yn y Gymraeg'

Tom Gardiner
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Tom Gardiner dros 500,000 o danysgrifwyr ar ei sianel YouTube

  • Cyhoeddwyd

Mae seren YouTube o Aberdâr yn dweud ei bod hi "bron yn amhosib" gwneud gyrfa trwy weithio yn y Gymraeg yn y byd cyfryngau cymdeithasol.

Mae gan Tom Gardiner, neu ReniDrag fel mae'n cael ei adnabod ar YouTube, dros 500,000 o danysgrifwyr.

Dywedodd nad oes digon o gynulleidfa i'w gwneud yn werth chweil iddo greu fideos Cymraeg.

Ond mae'n gobeithio y bydd pethau'n newid, ac y gall wneud cynnwys Cymraeg yn y dyfodol.

Penderfynodd Tom ddechrau ffilmio a golygu fideos o'i hun yn chwarae gemau yn 2017 - ar ôl iddo gael ei ysbrydoli gan ei hoff YouTubers.

Meddai: "'Wen i'n caru ffilmio a golygu fideos ac felly doedd dim ots gen i os oedd neb yn gwylio.

"Dim ond diddordeb fi oedd e bryd hynny, ac ro'n i'n ei fwynhau'n fawr."

Dysgodd Tom sut i olygu trwy wylio fideos ar YouTube, a lot o ymchwilio ar Google.

"Daeth lot o bethau yn naturiol i mi gyda'r golygu," meddai.

Yn araf bach dechreuodd ei gyfrif ddenu mwy o ddiddordeb, ac fe welodd Tom gynnydd sydyn yn nifer y gwylwyr.

Ffynhonnell y llun, Tom Gardiner
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant Tom wedi golygu ei fod yn gallu gweithio'n llawn amser yn creu fideos

Erbyn hyn, mae gan Tom 500,000 o danysgrifwyr, ac mae ei fideos wedi cael eu gwylio dros 60 miliwn o weithiau.

Ar ôl cwblhau ei arholiadau Safon Uwch y llynedd, gadawodd yr ysgol ac mae bellach yn gweithio'n llawn amser o'i swyddfa newydd yn ei gartref.

Mae hefyd wedi gallu ariannu amrywiaeth o brofiadau anhygoel o'r arian y mae wedi’i wneud - fel ariannu gwyliau teulu i Florida yn yr haf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom yn awyddus i ddechrau creu fideos yn yr iaith Gymraeg

Ond yn ôl Tom, mae'r rhan fwyaf o'i gynulleidfa ar YouTube yn dod o'r Unol Daleithiau, ac felly nid yw'n bosib iddo allu creu fideos Cymraeg sydd yr un mor broffidiol ar hyn o bryd.

Dim ond tua 30% o'i gynulleidfa sy'n dod o Brydain, meddai.

"I greu gyrfa mas o Youtube ti angen lot fawr o wylwyr - fel 100,000 [o danysgrifwyr] - i ti gallu creu arian allan ohono fe," meddai Tom.

"Pan wnes i'r ymchwil mewn i hyn - mae hwnna'n bron yn amhosib oherwydd mae'r gynulleidfa [Gymraeg] mor fach."

Ond mae Tom yn bositif am ddyfodol yr iaith.

"Yn y dyfodol, dwi yn meddwl fod cynulleidfa, gobeithio cynulleidfa enfawr, oherwydd mae'r iaith yn datblygu.

"Dwi bendant eisiau gwneud fideos Cymraeg yn y dyfodol."

Mae Gav Murphy, o Faesycwmer, Caerffili yn cynhyrchu fideos a phodlediadau ar gyfer ei gwmni ffilm RKG.

Dywedodd fod Youtube yn yrfa heriol, gan fod llawer o bobl "dim yn deall faint o waith sy'n mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni".

Mae'n cytuno gyda Tom ei bod hi'n anodd iawn i greu arian yn y Gymraeg yn y maes.

"O'm mhrofiad i mae pobl eisiau gweld a chlywed mwy o'r Gymraeg, ac iddyn nhw, does dim lot o'r itch 'na yn cael ei scratchio," meddai Gav.

"Ond mae'n eithaf anodd fel crëwr cynnwys i ddechrau gwneud rhywbeth yn Gymraeg achos mae'r pŵl o gynulleidfa yn lot llai na'r Saesneg.

"Dwi'n gweld bod e'n anodd. Dwi 'di bod yn gwneud fy sianel ers 2019 a dwi 'di gwneud un fideo Cymraeg - felly dwi angen cic lan y pen ôl hefyd!"