Ci talentog yn denu sylw i’r iaith Gymraeg ar TikTok

  • Cyhoeddwyd
Gwenni yn edrych yn hapus iawn yn y glaswellt efo'i thafod mas
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â denu sylw iddi hi ei hun, mae Gwenni yn denu llawer o sylw i'r Gymraeg

Mae ci o Sir Gâr sy'n cael ei hyfforddi yn Gymraeg wedi denu miloedd o ddilynwyr ar TikTok.

Yn ogystal â denu sylw iddi hi ei hun, mae Gwenni wedi denu llawer o sylw i'r iaith Gymraeg.

Mae nifer yn chwilfrydig am ba iaith sy'n cael ei siarad, a channoedd yn dweud eu bod wrth eu bodd yn clywed y Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe ddechreuodd perchnogion Gwenni - ci sbaniel - hyfforddi a siarad â'r ci bach yn Gymraeg pan oedd hi'n naw wythnos oed.

Disgrifiad o’r llun,

Gwenni a'i perchnogion Carys a Sean yn mwynhau cerdded yn y parc

Yn Chwefror 2021, pan oedd Gwenni yn 11 wythnos oed, fe benderfynodd y perchnogion Sean Davies o Bontyberem a Carys Thomas o Lyn-nedd roi fideos ohoni yn gwneud triciau ar TikTok.

Dros nos fe ddenodd nifer fawr o ddilynwyr, ac erbyn hyn mae gan y cyfrif dros 190,000 o ddilynwyr ac mae dros bum miliwn o bobl wedi ei hoffi.

Fe wnaeth Sean a Carys fabwysiadu Gwenni yn y cyfnod clo pan oedd hi'n ast ifanc.

"Y nod ar ôl i ni symud mewn gyda'n gilydd oedd cael ci bach ufudd," meddai Carys.

Ffynhonnell y llun, @gwennitheworkingcocker
Disgrifiad o’r llun,

Cyfrif TikTok llwyddiannus Gwenni, y ci talentog

Fe ddysgodd Sean ar YouTube sut i hyfforddi Gwenni, ac yna wedi iddi ddysgu ambell dric fe'u postiodd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Pedwar dilynwr oedd yna i ddechrau, ond dros nos fe aeth yn feiral gyda 200,000 yn edrych ar y fideo.

Doedd y cwpl ddim wedi sylweddoli beth oedd yn digwydd tan i'w ffrindiau ddweud wrthyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Gwenni yn mwynhau ei hamser rhydd yn y caeau

"Nid dod yn enwog oedd y pwrpas o gwbl. Y cyfan ro'n i am wneud oedd rhoi'r fideos i fyny fel ffordd i gofnodi taith Gwenni i ddod yn ufudd.

"Fi'n credu bod lot o bobl yn hoffi'r fideos oherwydd bod Gwenni mor fach a chiwt!" meddai Carys.

Chwilfrydedd am y Gymraeg

"Mae nifer yn gofyn pa iaith mae Sean yn siarad â Gwenni ac ry'n ni wedi gweld agweddau positif at yr iaith a nifer yn impressed iawn gyda sgiliau Gwenni.

"Dyw rhai ddim yn credu bod yr iaith yn un go iawn. Ni wedi cael pobl yn gofyn ai Almaeneg y'n ni'n ei siarad!

"Dyw lot o bobl ddim yn deall pam bod ni eisiau siarad Cymraeg â'r ci ond o'dd e'n naturiol i ni ddysgu Gwenni drwy gyfrwng y Gymraeg oherwydd dyna'r iaith ry'n ni'n siarad gyda'n gilydd.

"Rydw i'n credu bod lot o bobl ifanc yn mwynhau clywed a deall yr iaith Cymraeg yn ein fideos. Mae lot o ddisgyblion hen ysgol fi - Ysgol Gyfun Rhydywaun - yn rhoi sylw ar y fideos, sy'n lush."

Ffynhonnell y llun, @gwennitheworkingcocker
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r sylwadau ar gyfrif Gwenni

Y nod ar gyfer y dyfodol yw dysgu triciau newydd i Gwenni, gan gynnwys gweithgareddau a fydd yn helpu Sean - sydd â chyflwr diabetes.

"Mae Gwenni ar hyn o bryd yn dysgu sut i agor y cwpwrdd i gael jelly beans ar gyfer episodau isel Sean," meddai Carys.

"Mae hi'n gwneud yn dda ond 'da ni angen ychwanegu string at y cwpwrdd i helpu hi agor y drws! O ran Sean mae e'n gobeithio dysgu pobl eraill sut i hyfforddi cŵn."

Mae'r cwpl eisoes wedi dechrau gweithio gyda busnesau i wneud hysbysebion, ond maen nhw "hefyd yn awyddus i ddenu sylw i'r Gymraeg wrth i ni hyfforddi drwy gyfrwng yr iaith, a rhoi digon o cwtches i Gwenni fach!"