Troi at TikTok er mwyn rhannu'r Gymraeg â'r byd

  • Cyhoeddwyd
Bethany DaviesFfynhonnell y llun, Bethany Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 44,000 o bobl yn dilyn Bethany Davies ar TikTok

Mae siaradwyr Cymraeg yn troi at TikTok i hybu'r iaith a'i dysgu i eraill.

Mae'r platfform poblogaidd yn helpu cysylltu siaradwyr rhugl gydag unigolion sy'n awyddus i ddysgu Cymraeg.

Un o fanteision y cyfrwng, medd un sy'n creu cynnwys arno, yw fod y fideos mor fyr a bachog.

Ddechrau Rhagfyr fe amlygodd y Cyfrifiad bod canran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi gostwng o 19% i 17.8%.

Gyda thua 44,000 i ddilynwyr ar TikTok, mae Bethany Davies o Lanelli, Sir Gâr, sydd â gradd mewn hanes, wedi gallu creu gyrfa trwy rannu iaith a diwylliant Cymru.

Mae hi'n teimlo'n "freintiedig" o fod wedi siarad Cymraeg erioed, wedi i'w rhieni symud i'r ardal, cyn iddi gael ei geni, a phenderfynu anfon eu plant i ysgol Gymraeg.

Aeth ei mam, meddai, i ysgol nos er mwyn dysgu Cymraeg ei hun pan roedd ei chwiorydd hŷn yn fach. "Pump o blant, oll dan 10, tra'n dysgu'r iaith newydd 'ma... mae hi'n ysbrydoliaeth enfawr i mi," meddai.

"Wyddwn i ddim byd arall. Es i gylch Cymraeg, ysgol gynradd Gymraeg, ysgol uwchradd Gymraeg.."

Ond mae'n dweud i'w synnwyr o Gymreictod "bylu" am gyfnod ar ôl mynd i goleg yn Lloegr "sy'n digwydd, rwy'n meddwl i lawer ohonom".

Fe ymunodd â TikTok yn ystod y pandemig pan roedd "yn y brifysgol yn y cyfnod clo gyda fy ngŵr, sy' ddim yn siarad Cymraeg.

"Ro'n i'n colli siarad Cymraeg gyda phobl, wyneb yn wyneb. Nath e neud imi sylweddoli gymaint ro'n i'n ei gymryd yn ganiataol."

Eisiau i'r iaith fod yn 'hwyl'

Awydd i ailafael ar ei Chymraeg oedd yr ysgogiad hefyd Nicky Gamble o Donyrefail, Rhondda Cynon Taf, sydd â thros 40,000 o ddilynwyr ar TikTok.

Roedd hithau hefyd wedi bod trwy'r system addsyg Gymraeg, er "dyw fi rhieni ddim yn siarad Cymraeg - roedd yn rhywbeth ro'n ei ei gysylltu'n bennaf â'r ysgol a ffrindie".

"Rwy' wastad wedi bod mor falch 'mod i'n gallu siarad Cymraeg ac ein bod fel gwlad â'n hiaith ein hunain. Mae wastad yn drist i glywed bod niferoedd yn gostwng."

Ymunodd Nicky, sydd â swydd recriwtio llawn amser, â TikTok gyda'i dwy lys-ferch yn ystod y pandemig ac mae rhannu ei sgiliau Cymraeg wedi ei hannog i barhau.

Ffynhonnell y llun, Nicky Gamble
Disgrifiad o’r llun,

Hobi yw creu cynnwys ar gyfer TikTok i Nicky Gamble

"Ro'n i eisie 'neud e'n hwyl, i'r Gymraeg bod yn cool," meddai.

"Nes i ddechrau creu TikToks gyda 'chydig o Gymraeg a'i wneud e back yn cheeky a rwy'n meddwl taw dyna wnaeth ddenu lot o sylw.

"Ar ôl gadael yr ysgol, wnes i ddim siarad llawer o Gymraeg felly roedd TikTok yn ddefnyddiol iawn. Mae wedi dod ag e'n ôl yn fyw i mi."

'Mae TikTok i bawb'

O holl blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol, mae'r ddwy ddylanwadwr yn credu bod TikTok yn gwneud hi'n haws i bobl ddysgu rhywbeth newydd.

"Rwy'n meddwl bod bobol yn barnu TikTok ac yn meddwl mae dim ond ar gyfer yr ifanc mae o ond dyw e ddim," meddai Nicky. "Mae e wir i bawb."

Mae algorithm TikTok, meddai, yn "wych am nodi beth sy'n eich diddori a pharhau i'w ddangos i chi".

Ond roedd denu gymaint o ddilynwyr, meddai, yn sioc.

Ffynhonnell y llun, Nicky Gamble
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o un o fideos TikTok Nicky Gamble

"Nes i ddim disgwyI gael dilynwyr ar TikTok... rwy' jest yn cyhoeddi cynnwys rwy'n mwynhau. Ond mae'n grêt a rwy'n gwerthfawrogi pob un o'r dilynwyr.

"Gweld pobl yn ei fwynhau sy'n fy ngwthio i gario 'mlaen... Rwy' eisiau i bobl deimlo'n rhan o fy nhudalen, i weld fy nghynnwys ac ymgysylltu ag e."

"Mae'n syndod faint o bobl nad sy'n siarad Cymraeg sydd â diddordeb yn yr hyn rwy'n ei ddweud. Mae hynny'n beth da. Wnaethon nhw ddim sgrolio ymlaen."

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhan o fywyd Bethany ers roedd yn ifanc, ond mae TikTok wedi ei galluogi i ddechrau o'r newydd o ran creu cynnwys.

"Gyda TikTok, ddudish i ddim wrth neb amdano. Rwy'n meddwl wnes i greu enw i fy hun fel y ferch Gymraeg 'ma, ac rwy'n falch o hynny," meddai.

"Mae sawl llwybr posib ar TikTok... rwy' wrth fy modd yn cysylltu efo pobl. Fy holl nod yw hybu'r iaith a chael pobl i ymhel â hi."

"Un o'r pethau gyda TikTok sy'n wahanol i bob app arall yw bod y fideos yn fyr ac yn fachog. Ry'ch chi'n gallu cysylltu efo pobl, rwy'n teimlo, ar well lefel."

Ffynhonnell y llun, Bethany Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethany Davies yn ceisio "cywiro" unrhyw gamdybiaethau am y Gymraeg

Mae're fath ddiddordeb yn ei chynnwys Cymraeg wedi synnu Bethany, sy'n ddiolchgar bod modd creu gwaith o'i chyfrif TikTok tra bod salwch wedi ei hatal rhag gwneud gradd pellach.

Pobl iau oedd yn ymateb i'w chynnwys i ddechrau, meddai, ond mae pobl hŷn yn gwneud hefyd erbyn hyn.

"Fe wnaethon nhw dyfu lan yn siarad Cymraeg, ond efallai nad yw'r teulu'n gwneud mwyach," dywedodd.

"Felly mae'n braf iddyn nhw gael rhywun i siarad â nhw ac mae'n cynrychioli eu cymuned, eu plentyndod a phopeth sy'n eu gwneud nhw'n pwy y'n nhw."

Disgrifiad,

Beth oedd canlyniadau'r Cyfrifiad yn ei ddatgelu am sefyllfa'r Gymraeg?

Fe ddangosodd casgliadau'r cyfrifiad diweddaraf bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng mewn degawd - o 562,000 yn 2011 i 538,000 yn 2021.

Dywed Bethany bod yna lawer o "gamdybiaethau" ynghylch statws yr iaith.

"Tyfais i lan mewn bybl ble doedd dim cwestiynu a yw'r iaith yn fyw neu'n farw. Ac yna es i'r brifysgol a phobl yn gofyn 'Beth chi'n feddwl, chi'n siarad Cymraeg' [a] 'Ro'n i'n meddwI bod yr iaith y farw'.

"Mae'n dangos bod yna fyw tu hwnt i'm dref fach i. Mae bob ar TikTok wedi dangos mwy o gamdybiaethau pobl i mi felly mae'n genhadaeth gen i i'w cywiro.

'Taflu goleuni'

"Dydw i ddim yn meddwl bod y rhan fwyaf o bobl yn treial bod yn anghwrtais neu ddi-glem. Dydyn nhw wir jest ddim yn gwybod a s'dim bai arnyn nhw am hynny achos dydy ieithoedd Celtaidd y Deyrnas Unedig ddim yn destun sylw iddyn nhw.

"Does fawr o addysg ynghylch unrhyw beth sy'n wahanol i un safon Prydeinig, rwy'n teimlo, mewn ysgolion a thu hwnt.

"Felly rwy'n ceisio taflu goleuni ar ein hiaith a'n diwylliant mewn ffordd y gall pawb ymuno g e a mwynhau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae gyda ni fel siaradwyr Cymraeg i wneud yr iaith mor hawdd i'w dysgu â phosib. Un o'r pethau wnaeth erioed fy nharo... oedd tybiaethau pobl eraill a pha mor anodd yw hi iddyn nhw ei dysgu.

"Mae gymaint o straen beth bynnag heddi. Y peth ola' chi mo'yn wrth weithio'n llawn amser a gofalu am eich plant yw dysgu iaith ar ben hynny heb gefnogaeth. Dydw i ddim yn beirniadu neb am deimlo felly, oherwydd rwy'n freintiedig iawn.

"Felly rwy'n ceisio cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb. Galla'i ddim gwneud popeth, ond fe allai greu cymuned anfarnol sydd eisiau helpu pobol.

"Dylech chi fod eisiau dysgu Cymraeg ac iddo fod yn hwyl.

"Mae'n iaith hynafol, sydd wedi goroesi sawl ymgyrch yn ei herbyn, felly rwy'n credu bydd yn goroesi'r cam yma am yn ôl hefyd. Mae gen i ffydd yn fy iaith, ffydd yn fy mhobol, a ffydd ynddom i'w chadw i fynd."

'Rhowch gynnig arni'

"Rydym wedi trio mor galed i gadw'r iaith yn fyw ac wedi gwneud job dda o'i chadw'n berthnasol," meddai Nicky mewn ymateb i ystadegau'r Cyfrifiad.

"Mae'n drist gweld niferoedd yn gostwng ond mae'n fy ngwthio i greu mwy o gynnwys Cymraeg.

"Mae TikTok am ddim a chi'n gallu clywed rhywun yn siarad Cymraeg, felly mae'n haws i'w gyrraedd...

"Hoffwn i weld y niferoedd yn codi eto ac i bobl gymryd diddordeb yn yr iaith. Mae'n rhan o bwy ydyn nhw, ein stori. Pe gollwn ni'r iaith fe gollwn ni ein hunaniaeth."

Ei neges i ddarpar ddysgwyr yw: "Jest rhowch gynnig arni, yn araf bach. Does dim cystadleuaeth â neb arall. Defnyddiwch yr holl gymorth sydd ar gael."

Cyngor Bethany, yn arbennig mewn mannau lle mae llai o Gymraeg i'w chlywed yn lleol, yw "i ddechrau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, gwylio teledu neu ffilmiau Cymraeg, defnyddio'r cyfryngau Cymreig.

"Mae e i fod yn hwyl, felly peidiwch â rhoi gormod o bwysau ar eich hunan."