Apêl ar ôl i ddyn daflu carreg at forlo yn Llandudno

Disgrifiad,

Yn y fideo, mae morlo llwyd yn amlwg yn cael ei boenydio gan y dyn

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i fideo ddod i'r amlwg o ddyn yn taflu carreg at forlo ar draeth yn Llandudno.

Yn y fideo, sydd wedi ei rannu ar wefan YouTube, mae morlo llwyd yn amlwg yn cael ei boenydio gan y dyn.

Y gred yw bod y fideo wedi cael ei rannu ar y wefan ddydd Mawrth.

Mae tîm troseddau cefn gwlad heddlu'r gogledd eisiau holi'r dyn yn y fideo, ac maen nhw'n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i gysylltu â nhw.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu eisiau help i adnabod y dyn sydd ym mlaen y llun yma

Dyw’r fath ymddygiad ddim yn anghyffredin, medd y ddynes wnaeth ffilmio’r digwyddiad.

“Mae’n beth cyffredin gweld pobl yn taflu cerrig at y morloi,” yn ôl Jenni Louise Cox.

Mae Ms Cox yn creu ffilmiau am fywyd gwyllt, ac esboniodd iddi greu’r sianel YouTube @GreatOrmeGreySeals er mwyn helpu’r morloi.

Er iddi weiddi arno, dywed Ms Cox nad oedd modd stopio’r dyn.

Esboniodd hi fod pobl ond yn cael eu hatal rhag mynd lawr at y traeth yn ystod cyfnodau penodol, a’u bod “i lawr yno’n syth yn gyrru’r morloi i ffwrdd” fel arall.

“Gan amlaf dwi'n rhy brysur yn ceisio stopio’r peth i'w ffilmio,” medd Ms Cox.

“Does dim arwyddion i fyny ar hyn o bryd yn dweud wrth bobl i roi llonydd i'r morloi, felly do'n i methu gwneud dim er mwyn atal y dyn rhag mynd lawr yno.

“Bu’n rhaid i fi just gwylio’r peth.”

Yn ôl Ms Cox, fe wnaeth y dyn yn y fideo a dyn arall oedd gydag e’ wadu eu bod wedi poenydio’r morlo ar ôl i hi ddweud ei bod wedi ffilmio’r digwyddiad.

“Dwi'n casáu gweld pethau fel ‘na’n digwydd, mae’n cael effaith go iawn arna i,” meddai.

“Dwi mor ddig, a’r cyfan dwi isio gwneud yw mynd i lawr yno a’u cymryd nhw i ffwrdd o’r morloi.”