Apêl teulu i ddychwelyd asyn a gafodd ei ddwyn o Landeilo

Merch yn cusanu asynFfynhonnell y llun, Amy Doran
Disgrifiad o’r llun,

Mae Amy Doran a'i phlant wedi'u siomi'n llwyr ar ôl darganfod bod eu asyn wedi diflannu

  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog asyn oedrannus wedi gwneud apêl emosiynol iddo gael ei ddychwelyd adref cyn y Nadolig.

Mae honiadau fod Winston, sydd yn 20 oed, wedi cael ei ddwyn o gae ger Llandeilo.

Yn y cyfamser, mae gwobr o £1,000 yn cael ei gynnig am ddychweliad.

Cafodd Winston a'i gyfaill Rudy, a oedd yn arfer bod yn asynnod traeth yn Blackpool, eu prynu gan deulu Amy Doran pan symudon nhw i Gymru.

Dywedodd Ms Doran, 39, fod Winston wedi diflannu o gae yn Nhaliaris ar benwythnos 9 Rhagfyr, pan oedd hi a'i theulu i ffwrdd.

'Gallai farw o dorcalon'

Ffynhonnell y llun, Amy Doran
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Winston, yma gyda'i gyfaill Rudy, ei ddwyn o gae ger Llandeilo ar benwythnos 9 Rhagfyr

Sylweddolodd Ms Doran ar y lladrad ddydd Llun, 11 Rhagfyr pan aeth i edrych am yr anifeiliaid.

Mae hi'n poeni bod rhywun wedi cymryd yr hen asyn am sioe Nadolig neu ddigwyddiad tebyg.

Dywedodd bod Rudy yn "ysu" am ei gyfaill ac mae hi'n pryderu y bydd yn marw oherwydd absenoldeb ei ffrind gorau.

"Beth mae'r person sydd wedi ei ddwyn yn annhebygol o sylweddoli yw gall asynnod farw o wahaniad, gallant farw o dorcalon," meddai Ms Doran.

"'Dyn nhw ddim yn sylweddoli'r effaith allai ei gael."

Apêl Nadolig Bella

Ffynhonnell y llun, Amy Doran
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bella,4 oed, yn gobeithio gall Siôn Corn ddod â Winston adref

Mae merch bedair oed Ms Doran, Bella, wedi rhannu llun gyda'r neges: " Annwyl Siôn Corn, plîs tyrd a fy asyn adref Nadolig yma."

Dywedodd Ms Doran fod ei merched Bella a Gracie, tair oed, wedi cael eu "siomi yn llwyr" am ladrad anifail anwes y teulu.

Dywedodd wrth BBC Cymru ei bod hi ond eisiau i'r anifail gael ei ddychwelyd.

"Dim ots gen i os mae rhywun yn ei adael e mewn cae," meddai.

"Oll dwi'n poeni amdano yw ei gael yn ôl."

Pynciau cysylltiedig