'Ymateb gwych' gwefan i helpu rhieni di-Gymraeg

Bethan HarveyFfynhonnell y llun, Glenda Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Harvey wedi creu gwefan i gynnig cymorth i rieni di-Gymraeg gyda gwaith cartref eu plant

  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Abertawe sydd wedi creu gwefan i helpu rhieni di-Gymraeg gyda gwaith cartref eu plant yn dweud bod rhieni angen "mwy o gefnogaeth".

Yn ôl Bethan Harvey, does dim digon o gymorth i rieni di-Gymraeg sy’n penderfynu rhoi addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i’w plant.

Fe gafodd hi'r syniad yn ystod y pandemig, a bellach mae ysgolion ar draws Cymru'n defnyddio'r wefan.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisiau gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu rhieni a gofalwyr di-Gymraeg i gefnogi eu plant gydag addysg cyfrwng Cymraeg.

'Nes i sylweddoli bod diffyg adnoddau'

Fe ddechreuodd Bethan helpu ei ffrindiau di-Gymraeg wrth gyfieithu geiriau a recordio ei hun ar ei ffon symudol.

"O nhw’n ffonio fi lan a dweud, ‘oh my goodness mae llyfr gyda fi a fi methu darllen gair ohono fe, sut ti’n gweud hyn a hyn?'

"Felly byddai’n recordio fe ar y ffon, ac anfon hwnna draw, a wedyn o ni’n cael neges arall yn dweud, ‘that’s great, but what does that mean?’

"Felly wnes i wneud cyfieithiad bach, ac o ni’n siarad â rhieni a nes i sylweddoli bod diffyg adnoddau fel hyn."

Yn ôl Bethan, mae angen mwy o gefnogaeth i rieni di-Gymraeg: “Ti ddim yn gallu cefnogi nhw yn yr un ffordd, a fi’n credu bod rhieni eisiau cefnogi eu plant trwy addysg.

“Dydy e ddim yn ddigon da i ddisgwyl i’r plant gyfieithu.

“Mae’r ymateb wedi bod yn wych a dwi’n derbyn negeseuon bron bob dydd gan rieni sy’n dweud ei fod yn help enfawr.”

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae dros 65,000 o blant yng Nghymru mewn ysgolion cynradd Cymraeg neu ddwyieithog.

Mae ystadegau’r Arolwg Defnydd Iaith diwethaf yn dangos bod 28% o’r holl siaradwyr Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg, a 75% y rhai sy'n dod o gartrefi heb yr un rhiant rhugl wedi dechrau dysgu siarad yr iaith yn yr ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Gan fod Adam Turner a'i wraig yn dysgu'r iaith, roedd y ddau eisiau cymorth wrth yrru eu mab, Gruff i ysgol Gymraeg

Yn ôl rhai rhieni yn Ysgol Llwynderw yn y Mwmbwls, mae adnoddau Bethan yn golygu bod yr holl deulu yn gallu helpu gyda gwaith cartref.

Fe wnaeth Adam Turner benderfynu anfon ei fab Gruff i ysgol gynradd Gymraeg. Mae Adam a'i wraig yn dysgu’r iaith.

“Pan benderfynon ni i anfon Gruff i ysgol Gymraeg roeddwn i eisiau gymaint o gymorth â phosib.

“Mae’r adnoddau yn arbennig ar allu dechrau dysgu’r iaith yn gynnar. Roedd hyd yn oed pethau mor syml â’r wyddor a chael hwnna’n gywir gyda fe cyn iddo ddechrau yn yr ysgol yn grêt.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r wefan yn helpu Sammie Bond i ddeall y gwaith y mae ei mab, Cadno yn ei wneud yn yr ysgol

Mae Sammie Bond a'i mab Cadno hefyd yn mwynhau defnyddio’r wefan.

“Mae hwn yn helpu fi i gael syniad o beth mae Cadno yn ei wneud yn y dosbarth, ond hefyd dydy fy ngŵr i ddim yn siarad Cymraeg felly mae’n grêt bod e’n gallu gwrando ar y fideos hefyd, a felly ni gyd fel teulu yn gallu helpu.”

Yr adnoddau yn 'hanfodol o bwysig'

Disgrifiad o’r llun,

Mae pennaeth Ysgol Gymraeg Llwynderw, Rachel Collins yn dweud bod yr adnoddau'n bwysig er mwyn galluogi rhieni di-Gymraeg i helpu eu plant

Yn ôl pennaeth Ysgol Gymraeg Llwynderw, Rachel Collins, mae’r adnoddau'n werthfawr wrth groesawu plant newydd i’r ysgol.

"Mae’n hanfodol o bwysig.

"Un o’r cwestiynau cyntaf fi’n cael wrth rieni di-Gymraeg pan fi’n cyflwyno darpar rieni newydd, yw ‘sut allai gefnogi fy mhlentyn adref?’

"A mae hwn yn berffaith i wneud hynny.

"Mae popeth yn un lle."

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu rhieni a gofalwyr di-Gymraeg wrth iddyn nhw gefnogi eu plant trwy addysg cyfrwng Cymraeg.

"Gall hyn hefyd fod yn gyfle gwych iddynt ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â'u plant."