Galw am gludiant ysgol o Loegr at addysg Gymraeg

Cylch Ti a Fi Croesoswallt
Disgrifiad o’r llun,

Mae Croesoswallt yn gartref i’r unig Cylch Ti a Fi tu hwnt i Gymru

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw am i blant sy’n byw ar y ffin yn Lloegr gael yr un hawl â disgyblion Cymru wrth dderbyn cludiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ar hyn o bryd, dyw plant sy’n mynychu ysgolion Cymraeg ond yn byw ychydig dros y ffin yn Lloegr ddim yn gymwys am gludiant o’r fath.

Yn ôl rhieni mae angen gwella’r gefnogaeth er mwyn hybu addysg Gymraeg, ac na ddylen nhw ddioddef oherwydd eu bod yn byw "milltir i’r cyfeiriad anghywir".

Yn ôl cynghorau Powys a'r Amwythig mae’n fater a allai weld budd o gytundeb cydweithio newydd rhwng awdurdodau lleol ar y ffin.

Mae hen dref farchnad Croesoswallt yn gartref i’r unig Cylch Ti a Fi y tu hwnt i Gymru.

Yno, mae nifer o rieni yn penderfynu teithio o ardaloedd cyfagos i roi cyfle i’w plant ifanc glywed y Gymraeg a chael cyfle i chwarae.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi’n siarad Cymraeg a dwi isio plant fi siarad Cymraeg," medd Elin Machin

Wedi ei sefydlu bum mlynedd yn ôl, mae Elin Machin, sy’n byw yn Ellesmere, yn dod â’i mab Jimmy yma ac yn arwain sesiynau.

"Ma'n bwysig oherwydd dwi'n siarad Cymraeg a dwi isio plant fi siarad Cymraeg, ac mae rhywbeth fel hyn yn berffaith i gael mwy o blant yma," meddai.

Neges debyg sydd gan Phillipa Edwards, sy’n byw dros y ffin ac yn dod â’i merch Florence i'r cylch.

"Dwi'n gweithio yn Ellesmere a does 'na'm Cymraeg yna o gwbl, ond ar ôl symud i Groesoswallt a chael Florence o'n i jest isio iddi ddeall Cymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Phillipa Edwards eisiau i Florence ddysgu Cymraeg ar ôl symud mor agos at y ffin

Tra bod y Cylch Ti a Fi yn werthfawr a phoblogaidd, mae 'na rwystrau medd rhieni wrth ddewis ysgol gynradd ac uwchradd.

Wrth fyw dros y ffin, does dim cludiant i ddisgyblion sy'n teithio ar draws Glawdd Offa i dderbyn addysg Gymraeg, yn wahanol i blant sy'n byw yng Nghymru.

Yn ôl Ceri Roberts, mam i ddwy sy’n byw yn sir Amwythig, ni ddylai’r gymuned Gymraeg ar y ffin gael eu cosbi oherwydd eu bod yn byw ychydig filltiroedd i’r cyfeiriad arall.

"Fasa cael cludiant yn helpu lot achos fasa fo'n safio o ran y pres 'da ni'n ei wario," meddai.

"A jest rhoi'r un hawl i ni - dwi'n byw milltir a hanner dros y ffin.

"Dwi'n anfon plant fi i ysgol Gymraeg a dwi’n meddwl dylwn i gael y cludiant i fynd yna."

Disgrifiad o’r llun,

Ni ddylai siaradwyr Cymraeg gael eu cosbi am fyw ychydig filltiroedd dros y ffin, medd Ceri Roberts

Er yn Lloegr, mae Croesoswallt yn parhau i fod yn hwb i Gymreictod a’r iaith Gymraeg.

Gyda galw am fwy o gefnogaeth i gefnogi'r sector Gymraeg yno, mae nifer o oedolion sy'n dysgu'r iaith yn dweud ei bod yn siom na chafon nhw ddewis i fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Yn ôl Hefin Jones, sy'n fam a bellach yn nain, mae angen mwy o gyfleoedd i gadw’r Gymraeg yn fyw yma.

"Gafodd fy mhlant i ddim y cyfle i gael addysg Gymraeg," meddai.

"Oedd, mi oeddan ni’n siarad Cymraeg gartref, ond fel oeddan nhw'n tyfu fyny a'u ffrindiau yn siarad Saesneg, doeddan nhw ddim isio clywed am y Gymraeg, a siarad Saesneg maen nhw rŵan.

"Mater o gael hyder ydy o."

Mwy o gydweithio ar y gweill

Gyda phartneriaeth newydd ar y gweill rhwng pedwar o gynghorau sir sy’n ymestyn ar draws y ffin - Amwythig, Powys, Henffordd a Mynwy - mae 'na le am fwy o gydweithio.

Yn bennaf, bydd y bartneriaeth yn galluogi’r ardaloedd i ddatblygu cynlluniau ac uno ceisiadau grantiau.

Ond yn ôl arweinyddion cynghorau Powys a'r Amwythig, fe allai trefnu cludiant i blant yn Lloegr sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg hefyd gael ei flaenoriaethu.