Dynes, 57, wedi marw ar ôl cael ei chanfod yn y môr

LlandudnoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Llanduno am 03:00 fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes 57 oed a gafodd ei chanfod yn y môr oddi ar yr arfordir yn Llandudno wedi marw yn yr ysbyty.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal ychydig cyn 03:00 ddydd Iau.

Roedd hofrennydd yr heddlu, Gwylwyr y Glannau a'r RNLI yn rhan o'r ymgyrch ac fe gafodd y ddynes ei chanfod yn y dŵr yn fuan wedyn.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor ble bu farw.

“Dyw amgylchiadau'r farwolaeth ddim yn cael eu trin fel rhai amheus ac mae'r crwner wedi cael gwybod am yr achos," meddai'r Ditectif Arolygydd Kris Williams.

Ychwanegodd bod “ein meddyliau gyda theulu'r ddynes", sy'n derbyn cymorth gan swyddogion heddlu.

Pynciau cysylltiedig