Maldwyn wedi casglu dros £300,000 at Eisteddfod yr Urdd

- Cyhoeddwyd
Mae cymunedau Sir Drefaldwyn wedi codi dros £300,000 tuag at y gost o gynnal Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni.
£345,000 oedd y targed ac mae'n ymddangos bydd y cyfanswm terfynol yn agos ato, gyda rhai digwyddiadau codi arian eto i'w cynnal.
Yn ôl Bedwyr Fychan, cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, cafwyd gwaith "arwrol" i godi arian mewn cymunedau gwledig yn ystod cyfnod heriol o gostau byw uchel.
"Mae'r ymdrech codi arian o gwmpas y sir wedi bod yn arbennig, a dwi'n falch o allu dweud ein bod ni wedi pasio'r £300,000 erbyn hyn.
"Mae digwyddiadau yn dal i gael eu cynnal ac mae dal i fod arian i ddod mewn, byddwn ni'n gallu cyhoeddi'r swm terfynol ar ddiwedd yr Eisteddfod.
'Cyfnod byr, heriol'
"Mae hi wedi bod yn gyfnod heriol - sir wledig ydy hi hefyd a dyw'r boblogaeth ddim yn fawr.
"Ac er ein bod ni'n gwybod ers tro bod yr Eisteddfod yn dwad, yn gymharol ddiweddar 'da ni wedi gallu rhoi strwythurau yn eu lle i gychwyn codi arian, felly mae wedi bod yn gyfnod byr, cyfnod heriol ond mae sut mae'r ardal wedi dod at ei gilydd wedi bod yn arbennig."

Bedwyr Fychan yw cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol ym Maldwyn
Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei lansio ddydd Sul gyda pherfformiadau o'r sioeau cynradd ac uwchradd. Mae dros 400 o blant yn rhan o gast y sioe gynradd.
Dyma'r tro cyntaf mewn 36 o flynyddoedd i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn - y Drenewydd yn 1988 oedd y tro diwethaf ac mae Bedwyr Fychan yn cofio cymryd rhan.
"Y tro diwethaf i'r Eisteddfod fod ym Maldwyn cafodd ei chynnal yn y caeau wrth ochr canolfan hamdden y Drenewydd. Ro'n i ym mhasiant y plant, ac mae'n braf rwan bod y plant efo fi yn y sioeau cynradd a'r sioe ieuenctid."
Eleni mae'r Eisteddfod wedi torri record - am y tro cyntaf erioed mae dros 100,000 o blant a phobl ifanc wedi cofrestru i gystadlu yn y cystadlaethau llwyfan o rownd yr eisteddfodau cylch ac yn y cystadlaethau celf, crefft a dylunio.

Llio Maddocks yw cyfarwyddwr y celfyddydau gyda'r Urdd
Dywedodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr y celfyddydau, mai un rheswm yw bod yr Urdd wedi addasu cystadlaethau a chyflwyno rhai newydd.
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n ymateb yn gyson i beth mae ein cystadleuwyr isio, da ni'n ŵyl sy'n gwrando ar y bobl ifanc. Da ni'n mynd ati wedyn i deilwra y rhestr testunau yn ôl beth maen nhw isio a beth sydd ganddyn nhw ddiddordeb ynddo.
"Mae 'da ni gystadleuaeth newydd eleni sef PobUrdd, lle mae plant a phobl ifanc yn pobi cacennau ac mae hwnna wedi profi'n boblogaidd iawn, felly da ni wastad am wneud yn siwr ein bod ni'n cynnig y profiadau gorau i'n cystadleuwyr ni."
- Cyhoeddwyd20 Mai 2024
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2024
Roedd Eisteddfod Maldwyn i fod i gael ei chynnal yn 2022 - blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd - a Machynlleth oedd y lleoliad a ddewisiwyd yn wreiddiol.
Ond wedi saib o ddwy flynedd oherwydd pandemig Covid mae'n cael ei chynnal eleni, ac am nad oedd modd cael hyd i safle digon mawr yn ardal Machynlleth, penderfynwyd cynnal yr wyl ym Meifod - ar yr un safle lle cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 a 2015.

Mae Caelan a Libby yn ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg y Trallwng
Yn ôl Bedwyr Fychan, sy'n byw ger Machynlleth, roedd rhai yn y dref yn siomedig pan newidiwyd y safle: "Yn amlwg pan mae Eisteddfod yr Urdd yn dod i unrhyw ardal, buasai pawb yn dymuno ei bod hi ar stepen y drws.
"Dydy pobl Machynlleth ddim yn wahanol. Ond eisteddfod Maldwyn i gyd ydy hi, ac mae'r ymdrech ar draws y sir wedi bod yn arbennig wrth baratoi.
"Mae cyfraniad pobl Bro Ddyfi wedi bod yn arbennig tuag at yr ŵyl o bwyllgorau testun i godi arian i gystadlu a bod yn rhan o'r sioeau cynradd ac uwchradd a'r cynlluniau harddu'r fro."

Unwaith eto eleni fe fydd pobl sydd ar incwm is yn gallu cael mynediad am ddim i'r Eisteddfod, gyda Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ariannol ychwanegol o £150,000 i'r Urdd i gefnogi hyn.
Mae modd archebu tocyn ymlaen llaw, neu hawlio un ar y drws ar y dydd.
Mae plant ysgolion Sir Drefaldwyn wedi bod yn brysur yn ymarfer ar gyfer y cystadlaethau yn ogystal â'r sioeau cynradd ac uwchradd.
Mae plant Ysgol Gymraeg y Trallwng yn perfformio yn y sioe cynradd ac yn falch bod yr Eisteddfod yn ymweld a'u hardal nhw.
Dywedodd Libby sydd ym mlwyddyn 6: "Mae'n dda bod pobl o rannau eraill o Gymru yn dod i'r ardal yma, a falle yn cael cyfle i weld y Trallwng - i gael dysgu am ein hanes ni a gweld beth sydd o'n cwmpas ni."
Ac ychwanegodd Caelan, sydd hefyd ym mlwyddyn 6: "Mae'n arbennig i gael yr Eisteddfod ym Meifod oherwydd mae'n arbed arian i ni i gael yr ŵyl yn lleol, yn hytrach na gorfod talu i aros rhywle arall dros nos!"