Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Maldwyn

Cadair Eisteddfod yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  • Cyhoeddwyd

Cafodd cadair a choron Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 eu dadorchuddio yn y Trallwng nos Fercher, lai na phythefnos cyn i’r ŵyl ddechrau ym Meifod.

Mae’r gadair wedi cael ei dylunio a’i chreu gan Siôn Jones, saer coed o Lanidloes.

Roedd Sir Drefaldwyn yn ysbrydoliaeth i Siôn wrth iddo gynllunio’r gadair – mae’r dyluniad yn cynnwys ôl afon Hafren, Llyn Efyrnwy, cerddoriaeth y delyn, amaethyddiaeth, y tirlun a nodweddion unigryw cefn gwlad y canolbarth.

Ar y sedd mae map o Gymru wedi'i gerfio gan Chris Gethin, crefftwr lleol, gyda logo’r Urdd yn amlwg ar ardal Meifod ar y map.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd nodweddion Sir Drefaldwyn yn ysbrydoliaeth i Siôn Jones

Yn ei waith bob dydd mae Siôn yn creu ceginau a dodrefn â llaw yn ei weithdy ar fferm y teulu yng Nghaersws.

Dywedodd ei fod fel arfer yn “creu bocsys pren ar gyfer cynlluniau ceginau” felly roedd cael gweithio ar gadair yr Eisteddfod yn gyfle i danio’r awen greadigol ac arbrofi gyda siapiau gwahanol.

Fe ddefnyddiodd bren derw ac onnen lleol, sydd wedi bod yn sychu yn ei weithdy ers sawl blwyddyn.

'Braint' cael creu'r gadair

“Mae creu'r gadair ar gyfer ardal sy’n golygu gymaint i fi a’r teulu, yn fraint," meddai.

“Mae’r Urdd yn bwysig i Gymru ac yn dod â phobl â’r iaith at ei gilydd, mae’r ffaith bod fy nghadair i yn mynd i serennu ar lwyfan Eisteddfod Maldwyn yn rhywbeth dwi’n falch iawn ohono.

“Dwi wedi bod yn cadw’r pren lleol yma ar gyfer rhywbeth arbennig. Felly beth well na defnyddio'r rhain ar gyfer Cadair yr Eisteddfod leol?”

NFU Cymru Maldwyn yw noddwyr y gadair.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Mae amaethyddiaeth yn elfen yn nyluniad y goron hefyd, gan y gemweithydd a’r gof arian Mari Eluned o Fallwyd.

Cafodd Mari ei magu mewn cymuned amaethyddol ac mae’n cael ei hysbrydoli yn ei gwaith gan natur a thirwedd cefn gwlad.

Mae’r goron, sydd wedi’i gwneud o arian, wedi’i noddi gan Gangen Maldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru.

Dywedodd Mari: “Fy mwriad oedd creu coron ifanc ei naws sy’n cyfleu cyfraniad gwerthfawr yr Urdd a chymunedau amaethyddol, megis Maldwyn, a’u pwysigrwydd i ddyfodol ein diwylliant a’n hiaith.”

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mari eisiau creu coron "ifanc ei naws"

Mae’r goron yn cynnwys cyfres o ŷd, triban yr Urdd wedi’i grefftio o lechen Gymreig, cerrig arian o Afon Dyfi, y geiriau ‘Mwynder Maldwyn’ ac ‘Urdd Gobaith Cymru’.

Mae’r cap wedi’i wneud o ddefnydd melfed euraidd.

Dywedodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydol Urdd Gobaith Cymru: “Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd teilyngdod ymhen pythefnos er mwyn i bobl fwynhau campweithiau’r gadair a’r goron yma am flynyddoedd i ddod.

"Diolch i’r crefftwyr talentog, y pwyllgorau a’r noddwyr am eu gwaith caled a’u cefnogaeth, yn sicrhau fod gan Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 wobrau unigryw sy’n adlewyrchu diwylliant a hanes cyfoethog yr ardal hyfryd yma o Gymru.”

Bydd seremoni’r cadeirio yn cael ei gynnal ar ddydd Iau’r Eisteddfod ac yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.

Cynhelir seremoni’r coroni ar ddydd Gwener yr ŵyl diolch i nawdd gan Brifysgol Caerdydd.