Absenoldeb ysgol: 'Plant yn colli mwy nag addysg'
- Cyhoeddwyd
Mae gyrru i dai disgyblion a chynnig dyddiau byrrach ymysg y mesurau mae ysgol yn y gogledd yn eu cymryd i geisio gwella gostyngiad "aruthrol" mewn presenoldeb.
Mae ffigyrau'n dangos bod un o bob chwe disgybl uwchradd yng Nghymru bellach yn absennol yn gyson, gyda rhai yn disgrifio'r cyfraddau presennol fel "argyfwng cenedlaethol".
Mae Ysgol Uwchradd Y Rhyl, Sir Ddinbych, hefyd wedi sefydlu banc bwyd ar y safle mewn ymdrech i ddenu plant yn ôl i'r dosbarth.
"Mae ffigyrau presenoldeb wedi gostwng yn aruthrol dros y bedair blynedd diwethaf," meddai'r dirprwy bennaeth, Ceri Ellis, wrth raglen Wales Live.
"Mae ein presenoldeb tua 6% yn llai na'r adeg yma yn 2019, felly mae'n andros o job i ddweud y gwir i gynyddu'r presenoldeb."
Mewn ymateb i'r broblem genedlaethol mae tasglu wedi ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i edrych yn "fanwl" ar pam fod rhai plant yn colli gymaint o'r ysgol.
'Trio estyn allan at y teuluoedd'
Mae'r tarfu ar genhedlaeth o blant yn sgil y pandemig yn cael ei ystyried fel rhywbeth sydd wedi sbarduno'r problemau ar draws y DU.
Yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl eu hymateb i'r broblem phresenoldeb oedd ehangu'r gwasanaethau lles i fyfyrwyr.
Mae ystafelloedd llesiant, sy'n cynnig man tawel i fyfyrwyr dderbyn cymorth arbenigol, wedi'u hehangu sawl gwaith ers y pandemig, tra bod naw aelod o staff ychwanegol wedi'u recriwtio i helpu disgyblion sy'n cael trafferth.
"Yn ogystal ag edrych ar ddata yn ddyddiol, mae mwy o'r gwaith yn waith ymarferol yn trio estyn allan at y teuluoedd," ychwanegodd Ceri Ellis.
"Mae 'na lot o waith bugeiliol yn mynd ymlaen i drio dod i'r afael â rhai o'r rhesymau pam fod plant yn ffeindio hi'n anodd dod i'r ysgol ar hyn o bryd.
"Mae ganddon ni lot o interventions lles yn mynd ymlaen, mae nifer o staff ategol i helpu yn y maes yna wedi dyblu i ddweud y gwir dros y blynyddoedd diwetha'."
Ychwanegodd bod yr "angen am gefnogaeth gyda iechyd meddwl wedi tyfu'n aruthrol".
"Dwi'm yn meddwl fydd na byth ddigon o adnoddau, yn anffodus, fel mae'n adnoddau yn cynyddu mae'r angen yn cynyddu hefyd ac mae'n rhaid i ni fel ysgol feddwl am y sefyllfa ariannol 'da ni ynddi.
"Dwi'm yn gwybod fyddwn ni mewn lle lle da ni'n gallu dal ymlaen hefo'r ymyraethau sydd ganddon ni mewn lle ar hyn o bryd."
'Fe gollon ni flwyddyn gyfan'
Roedd data'r mis diwethaf yn dangos mai disgyblion ym Mlwyddyn 11 ddangosodd y cynnydd mwyaf mewn absenoldeb.
Roedd y disgyblion hynny yn eu blwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd pan gaewyd ysgolion fel rhan o'r cyfnod clo cyntaf ledled y DU.
Fe ddywedodd Kai, disgybl Blwyddyn 11 yn Y Rhyl, ei fod yn credu bod rhai wedi cael trafferth ail-addasu ar ôl treulio cyhyd adref.
"Fe gollon ni Flwyddyn 8 i gyd oherwydd ein bod ni gartref yn gwneud gwaith ar-lein. Roedd rhai pobl yn meddwl 'Dwi ddim isio gwneud gwaith, well gen i fynd ar fy Xbox neu PlayStation'.
"Cyn gynted aethon ni i Flwyddyn 10 a Blwyddyn 11 roedd y gwaith yn llawer anoddach. Doedden ni ddim wedi arfer, felly yn rhai o'n meddyliau roedden ni'n meddwl 'mae hyn yn ormod o straen'."
'Gweld neb'
Dywedodd Jessica, sydd hefyd ym Mlwyddyn 11, ei bod yn credu bod rhai disgyblion yn dioddef o golli sgiliau cymdeithasol, a fyddai fel arall wedi cael eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth.
"Does gen i ddim llawer o hyder na sgiliau cymdeithasol oherwydd fe wnes i fethu mynd trwy'r ysgol uwchradd [yn ystod Covid] a doeddwn i ddim yn cael mynd allan o'r tŷ rhyw lawer.
"Aeth fy mrawd bach i'r feithrinfa, aeth mam i'r gwaith, aeth fy nhad i'r siop - felly roedden nhw i gyd yn gweld pobl.
"Oeddwn i'n gweld neb."
Dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, Eithne Hughes, fod angen i ysgolion wybod y bydden nhw'n parhau i dderbyn digon o arian i fynd i'r afael â'r broblem.
"Mae'n argyfwng cenedlaethol i ddweud y gwir, mae'n du hwnt o arwyddocaol bod gennym ni deirgwaith y gyfradd absenoldeb a oedd gennym cyn y pandemig.
"Nid oes gan ysgolion ddigon o adnoddau, maen nhw'n nofio yn erbyn y llanw gyda'r mater penodol hwn. Maen nhw'n cael trafferth cael mwy staff, o ystyried bod gennym ni doriadau sy'n dod lawr y ffordd.
"Rydyn ni angen mwy o adnoddau, mwy o bobl allan yna yn ymgysylltu â'r bobl ifanc hyn."
'Maen nhw'n colli'r cysylltiadau hynny'
Dywedodd prifathrawes Ysgol Uwchradd Y Rhyl, Claire Armitstead, na allai "ganiatáu" i'w disgyblion gael eu "hanafu" gan ddiffyg gwasanaethau cymorth.
Yn ogystal ag ariannu mentrau lles niferus, mae'r ysgol hefyd yn ariannu ei banc bwyd ei hun, y mae athrawon yn dweud y gall helpu i feithrin cysylltiad â rhai teuluoedd.
Ond yn ôl Ms Armitstead, ei phryder mwyaf oedd nad oedd yr un o'r gwasanaethau ychwanegol sy'n cael eu cynnig gan ei hysgol yn rai statudol, gan olygu y gallai wynebu pwysau i'w dileu os bydd toriadau ariannol.
"Pan mae plant yn colli ysgol dydyn nhw ddim yn colli addysg yn unig," meddai.
"Maen nhw'n colli'r cysylltiadau hynny â gwasanaethau eraill hefyd, fel ymyrraeth iechyd meddwl.
"Rydyn ni mewn sefyllfa ariannol anodd iawn ar hyn o bryd, felly mynediad at bryd poeth, mynediad i fanc bwyd, heb unrhyw ragfarn."
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Matthew Evans, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd bod "ysgolion ar draws y brifddinas wedi llithro o ran presenoldeb".
"'Dan ni wedi bod trwy bandemig... yn y gorffennol efallai fyddai plentyn wedi'i annog i fynd i'r ysgol er gwaethaf mân salwch ond erbyn hyn 'falle bod rhieni yn teimlo y gall y plentyn aros adre'.
"Cofiwch bod nifer o rieni adre' hefyd - mae hynna'n gallu arwain at sefyllfa o ddibyniaeth un ar y llall.
"Effaith hyn i gyd yw bod plentyn, mewn ffordd, yn cael ei orfodi i fod ar ei hôl hi a bob un gwers wedyn mae'n ceisio dal lan.
"Mae hynna'n gaseg eira gyda'r anhawster yn cynyddu bob tro wrth i'r plentyn golli mwy o ysgol.
"Mae ymateb i'r her yma yn cymryd amser - y peth ola' 'dan ni am i ddigwydd yw fod y plentyn yn mynd yn fwy ynysig wrth ddewis aros adref."
'Ffactorau cymhleth a lluosog'
Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, y byddai'n sefydlu tasglu cenedlaethol i helpu i fynd i'r afael ag absenoldeb o'r ysgol.
"Wrth wneud hyn rydw i eisiau i ni dynnu ar ac adeiladu ar yr enghreifftiau sydd eisoes i'w gweld mewn ysgolion ledled Cymru, gan rannu arfer gorau, yn ogystal â thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol am yr hyn sy'n gweithio," meddai.
"Yn aml mae ffactorau cymhleth a lluosog y tu ôl i broblemau presenoldeb. Gallai'r rhain gynnwys iechyd meddwl a lles, argaeledd gwasanaethau cymorth dysgu penodol, a chostau byw cynyddol ac agweddau rhieni a dysgwyr tuag at bresenoldeb ysgol yn gyffredinol.
"Oherwydd hyn, un o flaenoriaethau'r grŵp fydd edrych yn fanwl ar y rhesymau dros ddiffyg presenoldeb a defnyddio eu harbenigedd i nodi camau gweithredu a all sicrhau gwelliannau parhaus."
Bydd Wales Live ar BBC One Wales am 22:30 nos Fercher ac ar BBC iPlayer
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022