'Annibyniaeth yn un ateb i broblemau llywodraethu Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na "broblemau mawr" gyda'r ffordd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu, ac ni all y drefn bresennol o ddatganoli barhau, yn ôl ymchwiliad.
Wedi blwyddyn o gasglu tystiolaeth, mae'r comisiwn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru wedi dweud bod annibyniaeth yn un o dair ffordd bosibl ymlaen.
Cryfhau datganoli a chreu Prydain ffederal yw'r ddau "opsiwn cyfansoddiadol hyfyw" arall fydd yn cael eu hystyried dros y flwyddyn nesaf.
Roedd y comisiwn yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ond penderfyniad i San Steffan fyddai newid y drefn o ddatganoli.
Does gan y Senedd ym Mae Caerdydd ddim grym dros y cyfansoddiad.
Beth fyddai'r opsiynau'n golygu?
Annibyniaeth: Byddai Cymru'n wlad ar wahân i'r DU, a Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am reoli popeth.
Cryfhau datganoli: Mi allai olygu rhoi cyfrifoldeb am fwy o bethau i Lywodraeth Cymru, fel yr heddlu. Mae hi eisoes yn gyfrifol am faterion fel iechyd ac addysg.
Y gobaith fyddai ei gwneud hi'n gliriach pwy sy'n gyfrifol am beth - naill ai San Steffan, neu Fae Caerdydd.
Prydain ffederal: System lywodraethu fyddai'n rhoi grym i wledydd reoli ei hunain yn fwy annibynnol, ond gan aros mewn undeb ar rai materion hefyd.
Mewn adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi hanner ffordd drwy ei waith, mae'r comisiwn yn dweud bod nifer o wendidau amlwg i'r ffordd y mae Cymru'n cael ei rhedeg.
Yn eu plith mae "ansefydlogrwydd" y setliad datganoli, sy'n caniatáu i Lywodraeth y DU yn San Steffan gymryd penderfyniadau heb ymgynghori gyda Senedd Cymru.
"Nid yw'r status quo yn sail ddibynadwy na chynaliadwy i lywodraethu Cymru yn y dyfodol," meddai'r adroddiad.
"Mae'n waith sy'n dal i fynd rhagddo, ond mae eisoes yn amlwg o'r dystiolaeth bod problemau mawr gyda'r ffordd y mae Cymru yn cael ei llywodraethu ar hyn o bryd."
Mae'r comisiwn dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister a chyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams. Mae hefyd yn cynnwys aelodau o'r prif bleidiau gwleidyddol.
"Rydym yn dod i'r casgliad nad yw'r status quo na dadwneud datganoli yn opsiynau ymarferol i'w hystyried ymhellach," maen nhw'n dweud.
Dyw'r adroddiad ddim yn ffafrio'r un o'r opsiynau amgen ar gyfer y dyfodol, ac yn dweud bod pob un yn cynnig "cyfleoedd a heriau".
Fe fyddai atgyfnerthu datganoli yn "gwarchod rhag newidiadau unochrog" gan San Steffan. Gallai hefyd gynnwys rhoi rhagor o rym i Fae Caerdydd, gan gynnwys dros yr heddlu.
Byddai rhaid gwahaniaethu rhwng cyfrifoldebau San Steffan dros Brydain a Lloegr er mwyn dewis yr opsiwn o greu Prydain ffederal.
Mi allai hynny hefyd olygu rhagor o gyfrifoldeb i Gymru dros faterion ariannol.
Annibyniaeth - sef polisi Plaid Cymru - yw'r trydydd opsiwn, sy'n golygu y byddai Cymru'n wlad sofran tu allan i'r Deyrnas Unedig ac sydd medru ymuno â chyrff rhyngwladol.
Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, fod yr adroddiad yn garreg filltir a'r un cyntaf i gydnabod fod annibyniaeth yn "hyfyw".
"Ni ellir gorbwysleisio arwyddocâd hyn," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Ar hyn o bryd, ni ddylai'r llywodraeth Lafur fod yn gwastraffu amser ac adnoddau ar gomisiwn fel hwn, yn enwedig pan mai dim ond yr wythnos diwethaf y gwnaethon nhw wrthod ymchwiliad annibynnol eto i'r modd y gwnaethon nhw ddelio â phandemig Covid-19."
'Sicrhau dyfodol cryf'
Mae Llywodraeth Cymru wedi diolch i'r comisiwn am yr adroddiad cychwynnol a'r "gwaith manwl y mae wedi ei wneud hyd yn hyn".
Dywedodd llefarydd: "Byddwn yn ystyried ei gasgliadau yn fanwl ac edrychwn ymlaen at ei waith pellach.
"Mae gan ein strwythurau cyfansoddiadol effaith uniongyrchol ar safon gwasanaethau yr ydym ni oll yn dibynnu arnynt a chryfder ein cymunedau.
"Rydym yn ymroddgar i sicrhau bod gan Gymru ddyfodol cryf, sy'n gweithio i bob un ohonom."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd30 Medi 2022