Oes hawl gan Gymru gynnal refferendwm am annibyniaeth?
- Cyhoeddwyd
Er gwaethaf ymdrechion Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, mae barnwyr y Goruchaf Lys wedi dyfarnu'n ddiweddar nad oes gan Lywodraeth yr Alban y grym i gynnal refferendwm annibyniaeth arall.
Ydy hynny'n wir yng Nghymru hefyd?
Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn edrych ar oblygiadau'r penderfyniad ar Gymru.
Wedi dyfarniad diweddar Goruchaf Lys y Deyrnas Gyfunol, mae sawl gwleidydd Cymreig wedi mynegi siom na chaniatawyd i Senedd yr Alban ddeddfu er mwyn cynnal refferendwm ymgynghorol am annibyniaeth i'r wlad honno.
Ond nid yw dyfarniad y Goruchaf Lys yn golygu o anghenraid na allai Llywodraeth Cymru gynnal refferendwm yn ymwneud ag annibyniaeth Cymru, pe bai byth yn dymuno gweud hynny.
Cyn ystyried y cwestiwn hwnnw, mae angen deall y cefndir i benderfyniad y Goruchaf Lys, a'r penderfyniad ei hun.
Pŵer i gynnal Refferendwm
Er mwyn i Lywodraeth yr Alban allu cynnal refferendwm am annibyniaeth i'r Alban, rhaid iddi gael y pŵer i wneud hynny. Felly fe baratowyd bil i'w osod ger bron Senedd yr Alban fyddai, o'i basio'n Ddeddf, wedi rhoi'r pŵer i lywodraeth yr Alban i gynnal Refferendwm. Refferendwm ymgynghorol fyddai hwn, heb unrhyw ganlyniadau cyfreithiol iddo - dim ond ceisio barn pobl yr Alban a ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol.
Nid yw Senedd yr Alban (yn wahanol i Senedd y Deyrnas Gyfunol yn Llundain) yn rhydd i ddeddfu am unrhyw beth dan haul. Os yw Senedd yr Alban yn gallu deddfu ar fater, dywedir bod hynny oddi mewn i'w chymhwysedd deddfwriaethol (legislative competence) hi.
Mae Deddf yr Alban 1998 yn dweud na all Senedd yr Alban ddeddfu am bethau sy'n ymwneud â (relate to) nifer o faterion sy'n cael eu galw'n faterion a gedwir nôl (reserved Matters). Ymysg y materion hyn mae (1) Uniad rhwng Teyrnasoedd yr Alban a Lloegr a (2) Senedd y DG. Os yw Deddf Senedd yr Alban, neu ran ohoni, yn ymwneud ag un o'r meysydd hynny, yna mae tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd honno, ac felly'n ddi-rym yn gyfreithiol.
Roedd yr Arglwydd Eiriolydd Dorothy Bain CB, prif swyddog cyfreithiol Llywodraeth yr Alban, wedi gofyn i'r Goruchaf Lys i gadarnhau y byddai deddfu er mwyn rhoi'r pŵer i Lywodraeth yr Alban gynnal refferendwm ymgynghorol yn rhywbeth y gallai Senedd yr Alban ei wneud - bod hynny oddi mewn i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd honno.
Roedd ei dadl yn seiliedig ar sut mae dehongli'r ymadrodd 'relating to'. Yn fras, rhaid edrych ar fwriad ac effaith y darpar-ddeddf. Yn yr achos hwn, meddai, ni fyddai unrhyw effaith gan y refferendwm, gan mai un ymgynghorol yn unig fyddai hi. Beth bynnag fyddai canlyniad y refferendwm, ni fyddai unrhyw ganlyniad cyfreithiol pellach yn ei sgil fyddai'n cael effaith ar yr Uniad rhwng y ddwy deyrnas nac ar Senedd y DG. Felly nid oedd y ddarpar-Ddeddf yn 'relating to' y materion hynny.
Dadl dechnegol draddodiadol oedd gan Dorothy Bain, yn seiliedig ar ddehongli'r ddeddfwriaeth, ond roedd dadl arall, un fwy uchelgeisiol o dipyn, hefyd gerbron y Goruchaf Lys. Dadl yr SNP ei hun oedd hon, ar sail hawl pobloedd dan gyfraith ryngwladol i hunan-benderfyniad (self-determination).
Gwrthod y ddwy ddadl wnaeth y Goruchaf Lys. O ran dadl Dorothy Bain, er na fyddai effaith gyfreithiol gan y bil pe bai'n dod yn Ddeddf, byddai effaith wleidyddol bellgyrhaeddol ar yr Uniad ac ar Senedd Llundain. Mae'r rhan yma o'r dyfarniad yn adleisio nifer o benderfyniadau diweddar gan y Goruchaf Llys lle maent wedi bod yn arbennig o wyliadwrus rhag unrhyw weithred neu ddatblygiad a allai ymyrryd mewn unrhyw ffordd â Senedd y DG a'i goruchafiaeth gyfansoddiadol.
O ran dadl yr SNP, pwysleisiodd y Goruchaf Lys nad oedd hawl pobloedd i hunan-benderfyniad dan gyfraith ryngwladol o anghenraid yn golygu hawl i fod yn wladwriaeth annibynnol. Gall yr hawl gael ei gweithredu yn ddigonol oddi mewn i wladwriaeth. Rhywbeth i'w ystyried gan bobloedd a wladychwyd ac a fu dan orthrwm yw'r hawl i annibyniaeth diriogaethol.
Felly beth am Gymru?
O ran dadl Dorothy Bain does dim gwahaniaeth mawr rhwng sefyllfa Cymru a'r Alban. Dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae pwerau deddfu ein Senedd fel rhai Senedd yr Alban wedi ei eu cyfyngu fel na all basio deddfau sy'n ymwneud â chyfansoddiad y Deyrnas Gyfunol a Senedd Llundain.
O ran dadl yr SNP, efallai bod rhywfaint mwy o le i ddadlau bod gan Gymru nodweddion sy'n ei gwneud hi'n diriogaeth a wladychwyd mewn modd na ellir ei ddweud am yr Alban, yn arbennig felly o safbwynt hanes ei chyfuno yn un diriogaeth lywodraethol gyda Lloegr a dileu neu wahardd defnydd swyddogol a chyfreithiol o'r Gymraeg.
Serch hynny, go brin y byddai Goruchaf Lys y Deyrnas Gyfunol yn ystyried fod y pethau hynny'n ddigonol i sicrhau hawl i Senedd Cymru ddeddfu o blaid cynnal refferendwm am annibyniaeth. Wedi'r cyfan, gellid dadlau mai rhan o'i swyddogaeth fel un o gonglfeini trefn gyfansoddiadol y Deyrnas yw cynnal yr union drefn honno, a'r Deyrnas.
Felly ai dyna ni? Wel, ie, os trown ein sylw yn unig at bwerau deddfu Senedd Cymru. Ond mae ffordd arall o edrych arni.
Sefyllfa wahanol
Fe gofiwch mai'r rheswm fod angen deddf ar Lywodraeth yr Alban oedd nad oes ganddi'r pŵer i gynnal refferendwm heblaw hynny. Ond mae sefyllfa Cymru yn wahanol. Dan Adran 64 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i gynnal pôl (sef refferendwm dan enw arall) "for the purpose of ascertaining the views of those polled about whether or how any of the functions of the Welsh Ministers...should be exercised."
Felly mae gan Lywodraeth Cymru bŵer nad sydd gan Lywodraeth yr Alban o gwbl, sef y pŵer i gynnal refferendwm. Nid oes felly angen pasio Deddf yn Senedd Cymru er mwyn rhoi'r pŵer i Lywodraeth Cymru gan fod Deddf Senedd y Deyrnas Gyfunol eisoes wedi rhoi'r pŵer iddi. Ond a fyddai modd defnyddio'r pŵer yma er mwyn cynnal refferendwm am annibyniaeth i Gymru?
Noder mai cynnal pôl er mwyn canfod barn am p'un ai a sut y dylai Llywodraeth Cymru weithredu eu swyddogaethau a awdurdodir dan Adran 64. Gan fod cynnal pôl yn un o'r swyddogaethau hynny, un ddadl bosibl (gorglyfar mae'n siŵr) yw y gellid ceisio barn mewn refferendwm a ddylid cynnal refferendwm arall am annibyniaeth!
Yn fwy realistig efallai, dan Adran 60 Deddf 2006 gall Llywodraeth Cymru wneud unrhyw beth y maen ei ystyried yn briodol "er mwyn cyflawni...hyrwyddo neu wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru". Pe bai Llywodraeth Cymru yn ystyried y gallai fod yn briodol er mwyn lles economaidd Cymru ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DG am annibyniaeth i Gymru (er enghraifft), yna gallai holi barn pobl Cymru mewn refferendwm a ddylai wneud hynny.
Unwaith eto, nid oes Adran yn Neddf yr Alban 1998 sy'n cyfateb i Adran 60. Mae'r ddwy Adran (60 a 64) yn deillio o adeg pan oedd siâp gwahanol iawn gan setliad datganoli Cymru nag sydd ganddo ar hyn o bryd. Maent wedi parhau yno er gwaetha'r ffaith fod siâp y setliad presennol yn debyg iawn i siâp setliad yr Alban.
Cyfansoddiad gwahanol
Nawr, mae'n bosibl na fyddai llys barn yn fodlon dehongli adran 60 mewn ffordd mor eang ag yr ydw i'n ei chynnig yma, ond mae'n bwysig i ni gofio wrth ystyried y drefn gyfansoddiadol yn Nghymru ein bod yn wlad wahanol i'r Alban, efo'n hanes cyfansoddiadol gwahanol a'n trefniadau gwahanol a mwy cymhleth.
Fel arfer mae hynny wedi gweithio yn erbyn y rhai sy'n dymuno cynyddu ymreolaeth Gymreig, ond ar adegau mae'r union gymhlethdod hwnnw yn cynnig cyfleon nad ydynt yn bodoli yn yr Alban. 'For Wales see England' meddai'r Encyclopaedia Britannica ers talwm, medden nhw. Yn y cyd-destun hwn, mae 'for Wales see Scotland' yr un mor gyfeiliornus.
Hefyd o ddiddordeb: