Ydy cleifion yn aros yn hirach am driniaeth yng Nghymru?
- Cyhoeddwyd
Mae iechyd yng Nghymru wedi ei ddatganoli, felly ni fydd pwy bynnag sy'n fuddugol yn yr etholiad cyffredinol yn rhedeg y gwasanaeth iechyd fan hyn.
Eto i gyd mae cyflwr a pherfformiad y gwasanaeth yng Nghymru eisoes yn bwnc llosg yn ystod yr ymgyrch.
Yn ystod y ddadl arweinyddol gyntaf rhwng Rishi Sunak a Syr Keir Starmer, honnodd y prif weinidog, yn ystod trafodaeth am restrau aros hir yn Lloegr, fod cleifion yng Nghymru yn aros yn hirach fyth.
"Mae pethau yn anodd yn Lloegr," medd Mr Sunak.
"Ond os ydych chi yng Nghymru fe fyddech chi'n aros 40% yn hirach am driniaeth."
Ond a yw hynny'n gywir?
O gymharu amseroedd aros cyfartalog y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a Lloegr, mae'r ystadegau swyddogol yn dangos gwahaniaeth o 46%.
Yng Nghymru, ym mis Mawrth, gallai claf yng Nghymru ar gyfartaledd ddisgwyl aros 21.8 wythnos o gymharu â 14.9 wythnos yn Lloegr.
Mae'r ffigyrau yn dangos fod y gwahaniaeth mewn amseroedd aros yn bodoli ers peth amser, gyda'r bwlch ar ei fwyaf yn ystod yr haf a'r hydref 2020 - yn ystod y pandemig.
Roedd hynny'n rhannol o ganlyniad i ohirio triniaethau oedd wedi cael eu trefnu o flaen llaw er mwyn blaenoriaethu gofal brys a rhyddhau gwelyau mewn ysbytai.
Erbyn mis Hydref 2020 - yr amser aros ar gyfartaledd oedd 11 wythnos yn Lloegr a dros 29 wythnos yng Nghymru.
Er bod y ffigyrau hyn wedi bod yn cynyddu yn raddol yn Lloegr, dyw'r gostyngiad yng Nghymru ddim wedi bod yn ddigon i gau'r bwlch.
Un broblem benodol yng Nghymru yw'r niferoedd sy'n aros y cyfnodau hiraf am driniaeth.
Mae tua 21% o'r rhestr aros yng Nghymru wedi bod yn aros dros flwyddyn, o gymharu â 4.1% yn Lloegr.
Yng Nghymru mae dros 20,600 o achosion lle mae rhywun wedi aros dros ddwy flynedd o gymharu ag ond 232 achos yn Lloegr.
Honnodd Mr Sunak yn ystod y ddadl hefyd fod un person ym mhob pedwar yng Nghymru ar restr aros.
Ond mae'r gwir ffigwr yn agosach at un ym mhob pump - gyda thua 591,000 person yn aros am driniaeth.
Gan fod rhai o'r unigolion yn aros am fwy nag un driniaeth - maint y rhestr aros yn ei chyfanrwydd yw 768,899.
Dywedodd Mr Sunak hefyd mai perfformiad unedau brys yng Nghymru "oedd y gwaethaf ym Mhrydain Fawr".
Mae modd cymharu perfformiad unedau brys mawr yng Nghymru a Lloegr.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae amseroedd unedau brys mawr yng Nghymru ychydig yn waeth nag ochr arall y ffin, ond wedi bod yn well am wyth mis yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r ystadegau yn dangos nad yw'r un wlad yn agos at y targed o sicrhau fod 95% o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn uned frys.
Honnodd Mr Sunak fod perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn waeth na gweddill Prydain.
Mae ystadegau mis Ebrill yn dangos fod yr amser ymateb cyfartalog i'r galwadau 999 mwyaf difrifol yn funud a 47 eiliad yn hirach yng Nghymru nag yn Lloegr.
Mae galwadau coch yng Nghymru yn cael ymateb ar gyfartaledd mewn naw munud a 57 eiliad.
Mae perfformiad yng Nghymru wedi bod yn waeth am dri chwarter y cyfnod ers dechrau 2019.
Dewisodd yr arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, beidio ymateb i'r honiadau am Gymru yn ystod y ddadl deledu neithiwr.
Er hynny mae Ysgrifennydd Iechyd Llafur Cymru wedi cyfaddef eisoes nad yw'r gwasanaeth iechyd yn perfformio'n ddigon da o ran gostwng y niferoedd sy'n aros y cyfnodau hiraf am driniaeth.
Awgrymodd Eluned Morgan ei bod yn ystyried cosbi byrddau iechyd os nad oedd perfformiad yn gwella.
Beth yw'r ymateb?
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mewn dadl pan ddywedodd Rishi Sunak gelwyddau noeth, dyw hi ddim yn syndod ei fod wedi camarwain pobl am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
"Yn ystod wyth o'r 12 mis diwethaf mae perfformiad unedau brys mawr yng Nghymru wedi bod yn well nag yn Lloegr yn erbyn y targed pedair awr."
Mae'r Blaid Lafur yn mynnu bod ‘na waith pwysig wedi’i gyflawni yng Nghymru i greu gwasanaethau sy'n ysgafnhau'r baich ar unedau brys.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae Keir Starmer wedi dweud mai Llafur yng Nghymru yw ei ganllaw ar gyfer gweddill y DU.
"Dylai hyn fod yn rhybudd amlwg i unrhyw un sy'n ystyried pleidleisio Llafur. Ar ôl 25 mlynedd o Lafur yn rhedeg Cymru, mae gennym dros 20,000 o bobl yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth... gyda llafur yng Nghymru am wario arian ar ragor o wleidyddion yn hytrach na meddygon a nyrsys."
Dywedodd Plaid Cymru: "Yr unig sôn am Gymru yn ystod awr boenus y ddadl oedd yr ymosodiad gan Rishi Sunak ar y gwasanaeth iechyd, tra bod Starmer yn gwadu cyfrifoldeb ei blaid.
"Mae Llafur yng Nghymru wedi gwrthod ystyried cynlluniau Plaid i achub y GIG."
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid bod hyn yn cynnwys cynnig cyflog teg i weithwyr a gwella'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru: "Mae'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur wedi dangos nad oes modd ymddiried ynddynt gyda'n GIG.
"Y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r unig blaid sydd wedi darparu cynllun clir o ran achub ein GIG, drwy gynyddu faint o gyllid sydd ar gael ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol drwy wrthdroi toriadau treth Torïaidd i fanciau mawr a chynyddu'r ardoll ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol."
Dadansoddiad
Mae'n wir dweud ar nifer o fesurau bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cael trafferth ac yn perfformio yn waeth nag yn Lloegr.
Ond dyw cymariaethau syml rhwng Cymru a Lloegr ddim yn ystyried fod y boblogaeth yng Nghymru ar y cyfan yn hŷn, yn salach ac yn dlotach na'r ochr arall i'r ffin - sy'n golygu mwy o alw am ofal a baich ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd.
Dyw'r cymariaethau chwaith ddim yn ystyried gwahaniaethau polisi rhwng y ddwy wlad - er enghraifft blaenoriaethu cleifion sydd â'r angen clinigol mwyaf yn hytrach na'r rhai sydd wedi aros hiraf, neu fuddsoddi mwy mewn gofal cymdeithasol.
Y gwirionedd yw bod rhestrau aros wedi bod yn hir yng Nghymru nid yn unig cyn y pandemig ond hyd yn oed cyn datganoli - felly mae hyn yn broblem hirdymor.
Dyw hi ddim yn syndod fod gwrthwynebwyr gwleidyddol Llafur am ddefnyddio'r ystadegau yma i gwestiynu record y blaid yn y wlad lle mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd ers chwarter canrif.
Ond beth yw'r gwirionedd? Yw'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru cymaint â hynny'n waeth na'r ochr draw i Glawdd Offa?
Efallai mai yn 2016 y cafwyd y dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr pan edrychodd y Sefydliad Dros Gydweithio a Datblygiad Economaidd (OECD) ar gyflwr y gwasanaeth iechyd ym mhedair gwlad y DU.
Casgliad yr adroddiad oedd nad oedd un o'r bedair system iechyd yn perfformio'n well na'r gweddill yn gyson, gan ategu fod yna le i bob un ohonyn nhw wella a dysgu o'i gilydd.