Alison Cairns: Nadolig gyda saith o blant

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfnod y Nadolig yn un prysur i nifer o deuluoedd.

Ond sut beth yw prysurdeb mis Rhagfyr i ofalydd, ffermwraig a mam i saith o blant?

Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, Alison Cairns, enillydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2023 sy'n rhannu sut y bydd hi'n treulio cyfnod yr adfent.

*Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl*

Ffynhonnell y llun, Alison Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Yr holl deulu; Alison, Teagan, Huw, Hari, Elwyn, Caradog, Siôn, Elin, Twm

Chwilio am bopty i'r twrci

O mam bach, ma' hi’n ganol Rhagfyr. Does 'na neb yn tŷ ni yn cael siarad am Nadolig tan ar ôl pen-blwydd Elin ddiwedd mis Tachwedd.

Roedd yr hen Rayburn wedi cancro ac yn gollwng dŵr – dim gwres yn y tŷ na phopty i goginio.

Diolch i Facebook 'dan ni wedi cael hyd i un dwt yn lleol.

Bach o strach ond mae Siôn a fi wedi rolio hi mewn i’r trelar cneifio a dod â hi adra’n saff.

Diolch byth am bach o gyhyrau, peirannau ac am Siôn y gŵr, mae hi mewn ac yn rhedeg. Y tŷ yn gynnes unwaith eto ac mae gen i bopty i’r twrci.

Dwi byth eisiau symud Rayburn eto.

Ffynhonnell y llun, Alison Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Y popty newydd yn cael ei gludo i'r tŷ

Sioeau Nadolig a llythyrau Siôn Corn

Mae’r plant yn edrych ymlaen at y Nadolig ac yn brysur iawn yn paratoi am y ffair Nadolig, canu mewn cyngerdd Nadolig, noson garolau yr Urdd ac mae sioe Nadolig yr ysgol ymlaen ddwywaith wythnos yma.

Hyn i gyd ar ben rasio rownd y gwersi nofio, gymnasteg a charati.

Mae’r goeden newydd fynd i fyny ac roedd y plant wrth eu boddau'n rhoi y tinsel, golau a bobls ar y goeden a thrimins o gwmpas y 'stafell fyw.

Pawb wedi sgwennu ei lythyr i Siôn Corn yn holi am bawb yng Ngwlad yr Iâ ac yn dweud be' maen nhw’n gobeithio ei gael.

Safodd pawb wrth y ffenest yn gwylio Siôn, tu allan, yn gosod yr amlen ar sil y ffenest i Wili Winci ei gasglu.

Ffynhonnell y llun, Alison Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Y plant; Teagan, Hari, Elin, Twm, Elwyn, Huw a Caradog gyda'u amlen i Siôn Corn

Pluo'r twrcwn

Prynu presentau yn job ddrud. Meddwl be i gael i bawb yn strach. Lapio anrhegion rhwng gwaith a phlant yn yr ysgol yn sialens go iawn.

Joban arall fydd pluo’r twrcwn hefo’r plant. Bydd y rhai bach ddim yn pluo llawer mond dawnsio yn y plu yn smalio ei bod hi’n bwrw eira.

Mae’r plant hyna' yn hoffi trin y twrcwn. Y twrcwn ydy’r anrhegion i’r teulu.

Un noson cyn y Nadolig byddan ni yn llusgo’r plant yn trelar y cwad i ganu carolau i'r cymdogion.

Dwi wrth fy modd yn gwneud pethau efo ein gilydd i baratoi am y diwrnod mawr.

Ffynhonnell y llun, Alison Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Pluo'r twrcwn gyda Mam

Dydd Nadolig yn tŷ ni

Diolch byth, flwyddyn yma dwi i ffwrdd o'r gwaith noswyl Nadolig felly ga i helpu’r plant i roi y mins pei a llefrith ar y bwrdd i Siôn Corn, a bwyd a dŵr allan i’r ceirw ond dwi'n gorfod gweithio drwy'r nos ar noson Nadolig a noson San Steffan.

Bydd diwrnod Nadolig yn full on i fi - o’r plant yn codi stupid o'r gloch y bore i ddangos be maen nhw wedi ei gael yn eu hosan.

Hel nhw yn ôl i'r gwely i godi amser call cyn mynd lawr y grisiau i agor presentau.

Wedyn trio gweld be' maen nhw wedi ei gael a choginio bwyd trwy'r dydd.

Ffynhonnell y llun, Alison Cairns
Disgrifiad o’r llun,

Alison yn paratoi at y Nadolig gyda'r plant

Dyw gwybod 'mod i angen mynd i'r gwaith drwy'r nos ddim yn hawdd ond wna i ddim newid dim byd.

Mae'r plant yn tyfu rhy sydyn. Dwi'n mwynhau yr amser efo nhw fel plant bach, gweld eu wynebau yn agor bob dim a chael hwyl.

Creu atgofion sy'n bwysig a chofio mai ond un diwrnod ydy'r Nadolig - er mod i'n rhoi straen arna i fy hun i wneud yn siŵr bod pawb yn tŷ ni yn hapus ac yn llawn dop o fwyd blasus.

O'n tŷ ni i'ch tŷ chi, 'dan ni eisiau dweud 'Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda'!

Alison, Siôn a'r plant.

x

Geirfa Nadolig

Nadolig Llawen/Merry Christmas

Blwyddyn Newydd Dda/Happy New Year

llythyr/letter

llythyrau/letters

amlen/envelope

twrci/turkey

twrcwn/turkeys

Siôn Corn/Santa Claus

coeden/tree

carw/reindeer

ceirw/reindeer (plural)

anrheg/present

anrhegion/presents

Pynciau cysylltiedig