Alison Cairns: Mam brysur i saith a dysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Alison Cairns yn fam i saith o blant, yn ofalwraig ac yn ffermio.
Mae'r Albanes sydd bellach yn byw yn Sir Fôn, hefyd wedi dysgu Cymraeg.
I ddathlu diwrnod Shwmae Su'mae ar 15 Hydref, yma mae Alison yn dweud ei stori ac yn rhoi tips dysgu Cymraeg.
* Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl *
Albanes yn symud i Gymru
S'mai! Enw fi ydy Alison Cairns, a dwi'n byw yn Sir Fôn efo saith o blant ac efo Siôn sy'n mynd i fod yn ŵr i mi fis yma.
Dwi'n gweithio fel gofalwraig a hefyd ffarmwraig pan dwi adra, yn helpu efo wyna, cneifio a chario bêls.
Dwi'n dod o'r Alban yn wreiddiol. Fe wnes i symud i Sir Fôn ym mis Awst 2007 efo fy merch Teagan (chwe mis oedd hi) ac fe ges i waith yn paratoi ceffylau gwedd i'w reidio ac er mwyn helpu i'w gwerthu nhw ymlaen.
Ond cyn symud i Sir Fôn do'n i ddim yn gwybod bod yr iaith Gymraeg yn bod! Dim ond Saesneg mae'r ysgolion yn yr Alban yn ei ddysgu i'r plant. Does dim sôn am Gaelic chwaith. Mae hynny yn fy ngwneud i'n drist iawn.
Wnes i gyfarfod Siôn yn 2008 mewn sied yn Nhrefor, Sir Fôn, lle oeddwn i'n dysgu grŵp i reidio ceffylau.
Dechreuodd Siôn a fi fod yn ffrindiau efo'n gilydd, a mynd am dro weithiau i lan y môr a marchogaeth y ceffylau.
Roedd o'n llawer o hwyl ond doedd o ddim yn hawdd i Siôn siarad Saesneg. Felly wnes i benderfynu dysgu Cymraeg achos pam ddim? Dwi'n byw yng Nghymru! Ond sut?
Dysgu'r wyddor
Y peth cyntaf wnes i oedd dysgu sut i ddweud yr wyddor. Gwnaeth hynny fy helpu i ddweud geiriau.
Dwi'n cofio Siôn yn prynu mwg i fi efo Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch arno fo a bob bore pan dwi'n cael panad dwi'n trio dysgu yr enw.
Pan dwi yn y car dwi'n gwrando ar Radio Cymru neu adra dwi'n rhoi S4C ar y teledu. Dwi'n cofio dod adra un diwrnod ac roedd yna nodiadau stici efo enwau Cymraeg dros y tŷ fel 'drws', 'tegell', 'oergell', 'teledu'. Roedd hyn yn help mawr i fi ddysgu enwau pethau dwi'n eu defnyddio bob dydd.
Wedyn dechreuais ddysgu geiriau ac ymadroddion fel 'bore da', 'nos da', 'croeso', 'diolch', 's'mai' a 'hwyl'. Ar ôl magu hyder fe wnes i ddechrau cael sgyrsiau bach fel 'Bore da, sut dach chi heddiw?' neu 'Dach chi eisiau paned?'
A wir, paid â phoeni os wyt ti'n gwneud camgymeriad, mae pawb yn gwneud!
Darllena gyda'r plant
Yn y dechrau pan oeddwn i ond efo Teagan, ro'n i'n darllen ei llyfrau hi yn y nos cyn mynd i'r gwely. Mae yna rai llyfrau sydd yn y ddwy iaith i dy helpu di i ddeall y stori.
Roedd llyfr Wcw yn help mawr i fi yn bersonol. Gwnes i ei brynu trwy'r ysgol. Mae'n cynnwys straeon bach, gemau a gweithgareddau lliwio i'r plant. Hefyd yn y cefn, mae yna dudalen Saesneg i helpu plant a rhieni i ddeall a dysgu Cymraeg.
Mae fy mhlant i gyd, Teagan, Hari, Elwyn, Elin, Twm, Huw a Caradog wedi bod yn help mawr i fi ddysgu Cymraeg trwy ddarllen llyfrau efo nhw, helpu nhw efo gwaith cartref ac maen nhw'n mynd i ysgol Gymraeg. Dwi wrth fy modd yn eistedd ar y soffa efo nhw a gwylio Cyw ar S4C.
Bydda'n rhan o'r gymuned
Mae cneifio efo Siôn dros y blynyddoedd wedi bod yn rhan mawr o fy nhaith dysgu Cymraeg.
Yn y dechrau do'n i ddim efo syniad beth oedd y ffermwyr a Siôn yn siarad amdano ac roedden nhw'n dweud wrtha i fod yn rhaid i fi ddysgu! Ar ôl dechrau dysgu ro'n i'n medru deall a chael sgwrs bach efo nhw.
Weithiau maen nhw'n dal i siarad Saesneg efo fi ond dwi'n dweud wrthyn nhw; 'Sut dwi mynd i ddysgu os wyt ti dal yn siarad Saesneg efo fi?' Ond rŵan, dwi'n Gymraes iddyn nhw.
Dim jest y ffermwyr sy'n bwysig, mae'r holl gymuned yn fy helpu i. Dwi'n medru mynd i siopa a chael sgwrs yn Gymraeg, mynd i ysgolion y plant a siarad efo'r athrawon, helpu'r plant i ymarfer ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a bod yn rhan o bethau yn y gymuned fel teulu. Rydan ni yn mynd i ddosbarthiadau cic-bocsio gyda'n gilydd, siarad Cymraeg a chael hwyl!
Fel gofalwraig, mae'n bwysig i fi i fedru siarad iaith gyntaf y cleifion mewn cartref neu yn yr ysbyty. Mae gorfod meddwl am eiriau Saesneg yn gwneud rhai cleifion yn bryderus. Tydyn nhw ddim eisiau dweud os oes ganddyn nhw broblemau oherwydd dydyn nhw ddim eisiau siarad Saesneg, weithiau dydyn nhw ddim yn medru siarad Saesneg.
Dos amdani
Dros y blynyddoedd dwi wedi cyfarfod llawer o bobl sy'n byw yn Sir Fôn a sydd ddim yn siarad yr iaith.
Dwi'n gofyn iddyn nhw 'Pam ti ddim yn trio siarad yr iaith sy'n bwysig i Gymru?' Eu hateb nhw ydy 'Mae Cymraeg yn rhy anodd' neu 'Dwi ddim eisiau'.
Dwi'n cofio gwerthu ceffyl i bobl o Gymru a dechrau siarad Cymraeg efo nhw, dyma nhw'n troi rownd a dweud wrtha i; 'Sorry I don't speak Welsh, I come from the Valleys'. Ateb fi oedd 'Well I come from the valleys of Scotland and I can speak it'.
Dwi'n hogan o'r Alban, dwi heb golli fy Scottishness. Dwi dal yn medru siarad Saesneg ond dwi wedi dysgu iaith arall ac wedi agor ffenest arall yn fy mywyd i. Dwi efo cartref yn yr Alban ac yng Nghymru rŵan.
Dwi heb ddysgu sut i siarad Saesneg na Chymraeg mewn diwrnod. Dydi fy Nghymraeg ddim yn berffaith ond dwi dal yn medru siarad yr iaith.
Dwi'n defnyddio Cymraeg bob dydd yn fy mywyd, dwi wedi magu'r plant yn Gymraeg, dwi'n byw trwy'r Gymraeg. Mae dysgu a siarad Cymraeg yn bosib yn dy fywyd di, os wyt ti eisiau.
Dos amdani, mwynha'r dysgu a bydda yn rhan o le ti'n byw.
Geirfa
Albanes/Scotswoman
ceffylau gwedd/shire horses
gofalwraig/carer (female)
ffarmwraig/farmer (female)
cymuned/community
cneifio/to shear
wyna/lambing
marchogaeth/riding
gweithgareddau/activities
magu teulu/raise a family
magu hyder/gain confidence
ymadroddion/phrases
cleifion/patients
pryderus/anxious
llwyddo/succeed