Galw am ymchwiliad i efengylu honedig mewn ysgol uwchradd

Ysgol Uwchradd Llanidloes
  • Cyhoeddwyd

Mae galwadau am ymchwiliad i ysgol yn y canolbarth yn dilyn cwyn ei bod yn hyrwyddo creadaeth (creationism) a chwrs Cristnogol efengylaidd.

Mae’r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol (NSS) yn dweud eu bod wedi derbyn lluniau o bosteri mawr sydd ar waliau yn Ysgol Uwchradd Llanidloes ym Mhowys sy’n dangos bywyd morol a chysawd yr haul o dan linellau o’r Beibl megis 'Mawr yw gwaith yr Arglwydd' a hefyd 'Creodd Duw y morfilod mawr'.

Mae’r NSS yn galw am waharddiad ar ddysgu creadaeth mewn ysgolion yng Nghymru gan ddweud ei fod yn "tanseilio addysgu am ddamcaniaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth fel esblygiad".

Dywed Llywodraeth Cymru "nad oes hawl gan ysgolion cymunedol i fod â gogwydd crefyddol".

Ffynhonnell y llun, NSS
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r NSS wedi cael gwybod bod y posteri yn yr ysgol yn ddigon mawr i orchuddio waliau cyfan

Mae'r NSS yn honni mai’r prifathro, Daniel Owen, sy'n bennaf gyfrifol am hyrwyddo creadaeth yn yr ysgol.

Mae Mr Owen hefyd yn arweinydd ysbrydol mewn eglwys efengylaidd yn Y Drenewydd, tua 14 milltir o Lanidloes.

Mae gwefan yr eglwys yn dweud bod Mr Owen yn gyfrifol am "waith [yr eglwys] ymhlith plant a phobl ifanc", a bod gan yr eglwys "ddyletswydd arbennig iawn i bregethu’r Efengyl i bob person byw".

Dywed yr NSS eu bod wedi cael gwybod bod y posteri yn yr ysgol yn ddigon mawr i orchuddio waliau cyfan, a bod honiadau eu bod wedi cael eu hariannu o gyllideb yr ysgol.

Mae un o’r lluniau yn dangos map o’r byd o dan ddyfyniad o’r Apostol Paul sy’n dweud: "O un dyn y gwnaeth Duw yr holl genhedloedd, i breswylio’r holl Ddaear; a nododd eu hamseroedd penodedig mewn hanes a therfynau eu tiroedd."

Ffynhonnell y llun, NSS
Disgrifiad o’r llun,

Mae honiadau mai cyllid yr ysgol sy'n ariannu'r posteri

Mae’r gymdeithas seciwlar hefyd yn honni bod gan y llawlyfrau a roddir i ddisgyblion dudalen gyngor sydd ond yn cyfeirio at adnodau o’r Beibl.

Mae llun o dudalen sy’n dod o’r llawlyfr, yn ôl honiad yr NSS, yn dangos tudalen cyngor sy’n cynnwys adrannau ar ryw, camdriniaeth a hunanladdiad.

Mae’r dudalen yn cyfeirio disgyblion at adnodau o’r Beibl sy’n cynghori pobl i "ffoi rhag anfoesoldeb rhywiol", "ffoi rhag chwantau drwg ieuenctid" a bod pobl sy’n edrych ar fenywod "yn chwantus" ac eisoes wedi "godinebu" yn eu calon.

Mae'r adran sy'n rhoi cyngor ar gam-drin yn cyfeirio disgyblion at ddwy adnod.

Dywed un: "Pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi'i rwymo am ei wddf.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel Owen yn arweinydd ysbrydol mewn eglwys efengylaidd yn Y Drenewydd

Mewn perthynas â hunanladdiad, mae cyfeiriad at Salm sy’n cynghori disgyblion i "ymddiried" eu bywydau i Dduw.

Dyw'r dudalen ddim yn cyfeirio at linellau ffôn neu ffynonellau proffesiynol eraill o gymorth ar gyfer cam-drin neu hunanladdiad.

Mae’r NSS hefyd yn honni i Mr Owen ddweud wrth athrawon i ddangos fideo am y cwrs Alpha – cwrs efengylaidd Cristnogol – i'w grwpiau tiwtor, ac y gallai disgyblion ddilyn y cwrs mewn clwb amser cinio o’r enw Lighthouse.

Er bod dysgu creadaeth fel damcaniaeth wyddonol wedi'i wahardd yn Lloegr, dyw hyrwyddo creadaeth ddim wedi'i wahardd mewn ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae’r NSS wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ganllawiau newydd yn gwahardd hyrwyddo neu addysgu creadaeth fel damcaniaeth wyddonol amgen.

Mae’r gymdeithas hefyd wedi galw am ymchwiliad i'r efengylu honedig yn Ysgol Uwchradd Llanidloes.

'Di-gyfiawnhad'

Dywedodd Stephen Evans, prif weithredwr y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol: "Mae hybu creadaeth yn gwbl ddi-gyfiawnhad yn nhermau addysgiadol, ac mae’n tanseilio addysgu am ddamcaniaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth megis esblygiad, yn ogystal â thanseilio sgiliau plant i feddwl mewn modd beirniadol.

"Mae’r ymgyrch helaeth o efengylu yn Ysgol Uwchradd Llanidloes yn groes i’r ymddiriedaeth a ddylai fodoli rhwng disgyblion, rhieni, a staff.

"Mae amser ac adnoddau sylweddol wedi'u gwario ar ymdrechion i annog ideoleg grefyddol y pennaeth.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru ymchwilio ar fyrder i Ysgol Uwchradd Llanidloes, a chyflwyno mesurau penodol sy’n gwahardd hyrwyddo creadaeth."

Dadansoddiad ein gohebydd addysg a theulu, Bethan Lewis

Mae rôl ffydd mewn addysg wedi bod yn ddadleuol erioed.

Yng Nghymru mae yna dros 200 o ysgolion ffydd, a rheiny â natur grefyddol neu gysylltiadau ffurfiol gyda sefydliadau ffydd.

Ond dydy ysgolion cymunedol ddim i fod i gael gogwydd crefyddol.

Dan y Cwricwlwm i Gymru, mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn orfodol ac mae’r canllaw yn dweud y dylai fod yn “wrthrychol, yn feirniadol ac yn blwraliaethol”, heb geisio “gwneud dysgwyr yn ‘grefyddol’ neu'n ‘anghrefyddol’".

Mae ymgyrchwyr yn dweud y dylai creadaeth gael ei wahardd.

Mae yna bryderon wedi cael eu codi yn y gorffennol am gredoau rhai sefydliadau sydd wedi mynd mewn i ysgolion i siarad gyda disgyblion neu leoliadau ar gyfer ymweliadau.

Yn sicr, mae’n faes sensitif sydd fel arfer yn cael ei drin yn ofalus gan ysgolion, ond yn yr achos yma mae Llywodraeth Cymru a’r awdurdod lleol yn ystyried a oes rheolau wedi cael eu torri.

Ffynhonnell y llun, NSS
Disgrifiad o’r llun,

Poster yn hyrwyddo'r cwrs efengylaidd Alpha - a rhan o boster o gysawd yr haul sy'n cynnwys dyfyniadau o'r Beibl

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae’n ofynnol i ysgolion addysgu gwyddoniaeth gan gynnwys esblygiad i ddisgyblion o oed ifanc er mwyn helpu i osod y sylfeini ar gyfer gwell dealltwriaeth o gysyniadau gwyddonol ehangach a ffurfiant y bydysawd.

"Mae'r cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE) yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr ymgysylltu ag amrywiaeth o safbwyntiau a chredoau sy’n gyffredin mewn cymdeithas.

"Ni chaniateir i ysgolion cymunedol gael gogwydd crefyddol ac rydym mewn trafodaethau gyda’r awdurdod lleol perthnasol."

Canllawiau clir

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Mae’r cyngor yn croesawu’r ffaith bod Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (RVE) yn ofyniad statudol yn y Cwricwlwm i Gymru ac yn orfodol i’n holl ddysgwyr ym Mhowys rhwng 3 ac 16 oed.

"Er mwyn sicrhau bod y gofyniad statudol hwn yn cael ei fodloni, mae’n hanfodol bod penaethiaid, uwch arweinwyr a llywodraethwyr yn deall gofynion cyfreithiol RVE o fewn y cwricwlwm.

"Mae’r canllawiau ar RVE yn glir iawn ac wedi’u cyhoeddi o dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu 2021. Dyma’r canllawiau yr ydym yn disgwyl i’n holl ysgolion gadw atynt.

"Fel cyngor rydym ar hyn o bryd yn trafod y mater hwn gyda’r Pennaeth, Cadeirydd y Llywodraethwyr a Llywodraeth Cymru.

"Rydym hefyd yn ymgysylltu â’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) – gofyniad statudol ar bob awdurdod lleol – i geisio cyngor o dan ei ddyletswyddau statudol."

Pynciau cysylltiedig