Noson wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2023
- Cyhoeddwyd
Nos Iau, Gorffennaf 13, cynhaliwyd seremoni Llyfr y Flwyddyn gan Lenyddiaeth Cymru am y tro cyntaf ers pedair blyneddd.
Roedd prif awditoriwm Tramshed Caerdydd wedi'i goleuo'n hyfryd a channoedd o bobl wedi tyrru yno i weld pwy fyddai'n cipio'r gwobrau.
Caiff 12 o wobrau eu cyflwyno, chwech yn Gymraeg a chwech yn Saesneg. Ar gael mae'r wobr am y gyfrol farddoniaeth orau, y gyfrol ffeithiol greadigol orau, y gyfrol i blant a phobl ifanc orau a'r gyfrol ffuglen orau, yn ogystal â gwobr Barn y Bobl sy'n cael ei dewis gan ddarllenwyr Golwg 360, a'r brif wobr sef Llyfr y Flwyddyn.
Yn beirniadu'r categoriau Cymraeg eleni roedd y prifardd a Meuryn y Talwrn, Ceri Wyn Jones; enillydd Llyfr y Flwyddyn 2021, Megan Angharad Hunter; Savanna Jones sy'n gweithio yn y maes addysg uwch i ehangu mynediad a chynhwysiant ac yn gwirfoddoi ar fwrdd y Mudiad Meithrin; a Sioned Wiliam sef cyn-gomisiynydd comedi ITV a BBC Radio 4.
Enillydd Llyfr y Flwyddyn 2022 oedd yn arwain y noson sef yr awdur, actor a chyflwynydd Ffion Dafis. Daeth ei nofel 'Mori' i'r brig yn y categori ffuglen a'r brif wobr. Ond eleni, rhoi gwobrau yn hytrach na'u derbyn oedd ei gwaith a'r wobr gyntaf i gael ei chyflwyno oedd y wobr am lyfr i blant a phobl ifanc.
Un o'r beirniaid, Savanna Jones , draddododd y feirniadaeth a chyflwyno'r tlws i Luned Aaron a Huw Aaron am 'Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor'. Dywedodd ei fod yn "... glasur i'w darllen am flynyddoedd i ddod."
Yr awdur ifanc o Ddyfryn Nantlle, Megan Angharad Hunter ddaeth i draddodi'r feirniadaeth nesaf ar gyfer y wobr ffuglen. Fe enillodd Megan y brif wobr am ei nofel 'tu ôl i'r awyr' yn 2021.
Yn ôl Megan, roedd y nofel fuddugol wedi swyno'r pedwar beirniad gyda'i symylrwydd a chynildeb cynnes, a phob brawddeg yn disgleirio o dlysni.
Yr enillydd oedd y llenor ifanc o Lŷn, Llŷr Titus.
"Ydach chi'n siŵr?" Dyna oedd ymateb enillydd y categori ffeithiol-greadigol wrth iddo dderbyn ei wobr gan Sioned Wiliam. Roedd Gareth Evans-Jones yn syfrdan fod ei gyfrol 'Cylchu Cymru' wedi cipio'r wobr.
Yn siarad gyda BBC Radio Cymru gefn llwyfan am y syniad tu ôl i'r gyfrol dywedodd: "Rhyw fath o her i mi fy hun oedd [mynd ati i greu'r gyfrol]. Crwydro Cymru a trio ymateb i'w chyfoeth a'i mawredd hi drwy gyfrwng llên meicro sy'n dal i fod yn gyfrwng eithaf newydd yn y Gymraeg. Felly trio cyfleu'r mawredd 'ma mewn rhyw bytiau bach felly."
Y wobr am farddoniaeth oedd nesaf.
Oherwydd ei ymrwymiadau i'r Talwrn, doedd Ceri Wyn Jones methu bod yno yn y seremoni ond roedd wedi paratoi fideo i draddodi'r feirniadaeth. Cyhoeddodd mai'r enillydd eleni oedd 'Anwyddoldeb' gan Elinor Wyn Reynolds.
Wrth dderbyn ei gwobr dywedodd nad oedd hi wedi meddwl cyhoeddi cyfrol o gerddi nes i Barddas ofyn iddi wneud. Yn siarad gydag Alun Thomas gefn llwyfan, dywedodd: "Wy'n dueddol i greu cerddi ar gyfer digwyddiadau penodol, perfformiadau, neu falle bod rhywun yn gofyn i fi ysgrifennu rhywbeth ac felly wy jest yn casglu'r cerddi. Wyddoch chi pan chi'n mynd am dro a chi'n codi cerrig sydd yn edrych yn bert ar y traeth a chi'n rhoi nhw yn eich poced? Wy'n credu mai dyna beth oedd y cerddi yma. Pethau pert, ddim pert weithiau, ond o'n i'n eu rhoi yn fy mhoced ac yn sylweddoli o'u tynnu nhw mas a'u rhoi nhw ar y ford bod 'na gyfrol yna."
Cyn cyhoeddi'r prif enillydd roedd hi'n amser i gyhoeddi'r wobr Barn y Bobl. Darllenwyr Golwg 360 sy'n cael bwrw eu pleidlais dros unrhyw un o'r llyfrau ar y rhestr fer.
'Sgen i'm Syniad' gan Gwenllian Ellis oedd wedi mynd â bryd y cyhoedd. Wrth holi'r awdur beth oedd ennill pleidlais y cyhoedd yn ei olygu, dywedodd: "Mae'n golygu bob dim. Mae'r ymateb gan y bobl i gyd wedi bod mor grêt am y llyfr. O'n i rili ofn cyhoeddi y gyfrol ac yn poeni be' oedd pobl yn mynd i feddwl ohonaf i ond mae'r ymateb wedi profi bod 'na awch gan bobl i glywed straeon am ferched ifanc, straeon go iawn am fywyd a hanesion genod ifanc yn tyfu fyny."
Wrth i'r noson dynnu tua'i therfyn dim ond un wobr oedd ar ôl i'w chyhoeddi, y brif wobr – Llyfr y Flwyddyn.
Dychwelodd Savanna Jones i'r llwyfan i ddatgan fod y pedwar beirniad yn gwbl gytûn mai'r gyfrol sy'n derbyn Llyfr y Flwyddyn yw 'Pridd' gan Llŷr Titus.