Cymru v Fiji: Y pwysau yn cynyddu wedi blwyddyn heriol
- Cyhoeddwyd
Dwy flynedd yn ôl roedd Cymru wedi llithro i’r dyfnderoedd ar ôl colli yng Nghaerdydd yn erbyn Georgia.
Does dim dwywaith mai dyma oedd un, os nad y diwrnod gwaethaf yn hanes y tîm cenedlaethol, ac yn y pendraw dyma oedd y foment wnaeth selio ffawd Wayne Pivac fel prif hyfforddwr.
Mi oedd nifer yn gytûn ar y pryd fod y penderfyniad yn anorfod a Pivac wedi cyrraedd pen y daith.
Yn gwylio ar yr ymylon ar y pryd oedd Warren Gatland oedd yn gweithio fel un o’r gwybodusion i gwmni teledu, ac ymhen dim fyddai wedi’i benodi eto i geisio codi Cymru o’r sefyllfa yr oedd ynddi.
Doedd dim oedi gan Undeb Rygbi Cymru ar y pryd - Warren Gatland oedd yr unig un i drawsnewid y sefyllfa ac roedd Steve Phillips, prif weithredwr yr undeb yn bendant mai dyma oedd y penderfyniad cywir.
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd
- Cyhoeddwyd21 Hydref
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd
Dwy flynedd yn ddiweddarach ac mae’n deg gofyn a yw’r sefyllfa wedi gwella llawer?
Do fe lwyddodd y gŵr o Seland Newydd I gael rhywfaint o drefn ar y tîm mewn cyfnod byr a sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd y llynedd ar ôl gorffen ar frig grŵp oedd yn ymddangos yn heriol.
Ond ers hynny, dyw’r tîm yn syml heb gamu ymlaen o gwbl, wrth golli pob un o gemau Pencampwriaeth y Chwe gwlad eleni a hynny am y tro cyntaf er 2003.
Mae Cymru bellach wedi colli naw o’r bron - fyddai colli eto yn dod a nhw yn gyfartal a’r rhediad gwaethaf erioed o dan Steve Hansen ar ddechrau’r ganrif.
Yn gwbl amlwg felly, mae’r gyfres yma’n hynod bwysig i’r garfan ac i’r hyfforddwr a’r cyfan yn y fantol yn erbyn yr ynyswyr peryglus, Fiji yn y cyntaf o dair gêm.
Pwy all anghofio’r tro diwethaf i’r ddau dîm yma gwrdd yng ngwres tanbaid Bordeaux yng Nghwpan y Byd.
Mewn gem hynod gyffrous fe ddaeth Cymru i'r brig, ond pa mor wahanol fyddai wedi bod pe bai Semi Radradra wedi dal ymlaen yn yr eiliad olaf gyda’r llinell gais o fewn cyrraedd?
Mae doniau chwaraewyr Fiji yn amlwg i bawb - a ffrwyno hynny a rheoli’r gêm fydd y nod i’r tîm cartref.
Mae’n ddiwrnod mawr wrth gwrs i Blair Murray, gwr gafodd ei eni yn Seland Newydd ac sydd bellach yn chwarae dros y Scarlets.
Mae’n dda gweld Max Llewellyn yn cael cyfle arall ar ôl disgleirio dros Gaerloyw yn y gynghrair yn Lloegr, a diddorol fydd gweld y bartneriaeth rhyngddo a Ben Thomas - sydd nol yn safle'r canolwr wedi’r arbrawf o chwarae fel maswr yn Awstralia yn yr haf.
At ei gilydd mae 'na fwy o gydbwysedd yn y tîm yma, ac mae'n edrych yn gryfach ac yn fwy profiadol o rif un i bymtheg.
Mae’n gwbl amlwg, ond fydd ennill y gêm gyntaf yn ysgafnhau’r pwysau yn syth ac yn hwb wrth baratoi wedyn i gwrdd ag Awstralia a De Affrica.
Os llwyddo i ennill yn erbyn yr ynyswyr yn y gêm gyntaf, does dim rheswm pan na all Cymru fynd ymlaen i guro’r Wallabies yn yr ail gêm ar ôl dod yn agos yn hemisffer y de yn yr haf.
Fyddai ennill dwy o’r dair gêm ar sail y record ddiweddar yn cael ei ystyried yn fwy na derbyniol.
Y neges gyson gan Warren Gatland ers cydio yn yr awenau am yr eildro yw bod angen meddwl am y darlun ehangach, adeiladu at y tymor hir a chydnabod nad yw pethau yn mynd i drawsnewid dros nos.
Mae’r naratif yn sicr wedi prynu amser iddo, ond am ba hyd y gall barhau i ddefnyddio'r un rhethreg?
Heb os mae’r garfan ar hyn o bryd ar ryw groesffordd a'r trywydd yn aneglur.
Mae 'na dimau eraill ar draws y byd yn sylweddoli bod angen llawer mwy yn rygbi rhyngwladol bellach na dibynnu ar ennill y frwydr gorfforol - conglfaen athroniaeth Gatland.
Mae De Affrica yn enghraifft berffaith o dîm sydd bellach yn mentro ac yn defnyddio doniau creadigol a dyfeisgarwch.
Amser a ddengys os y bydd Cymru yn barod i newid er gwell neu aros yn yr unfan.