Galw am wahardd beiciau modur o hen lwybr mynaich
Glyndwr Jones
- Cyhoeddwyd
Yn ôl elusen sy'n ceisio gwarchod rhan anghysbell o'r canolbarth bydd cynllun Cyngor Powys i wella trac hynafol yn denu mwy o feiciau modur.
Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn galw am wahardd pob cerbyd modur o Lwybr y Mynaich - gafodd ei greu i gysylltu dau abaty – gan honni eu bod wedi difrodi'r llwybr a thir cyfagos.
Mae Llwybr y Mynaich yn "gilffordd sy'n agored i bob traffig" - mae hyn yn golygu bod hawl mynd arno ar droed, ceffyl neu gyda cherbyd. Ond mae cerbydau pedair olwyn wedi'u gwahardd yn barhaol, ac mae cyfyngiad dros dro ar feiciau modur.
Dywedodd Cyngor Powys y bydden nhw'n hoffi creu sarn o gerrig sych yno i'w gwneud yn haws i bawb ei ddefnyddio ac i atal difrod pellach.
'Ardal sensitif yn amgylcheddol'
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod ganddyn nhw bryderon ynghylch caniatáu cerbydau modur ar y llwybr hanesyddol hwn.
"Mae'r ardal dan sylw yn sensitif yn amgylcheddol ac wedi'i diogelu.
"Gallai beiciau modur a cherbydau modur eraill amharu ar fywyd gwyllt ac achosi niwed parhaol i gynefinoedd pwysig," medd llefarydd.
Ychwanegodd: "Hyd yn hyn, nid ydym wedi derbyn unrhyw gynigion ffurfiol gan Gyngor Powys.
"Os a phan fyddwn yn gwneud hynny, bydd CNC yn eu hadolygu'n ofalus ac yn eu hasesu yn erbyn y rheoliadau amgylcheddol a chynefin perthnasol sy'n berthnasol i'r safle hwn."

Fel mae'r enw'n awgrymu, cafodd Llwybr y Mynaich ei greu i gysylltu abatai a godwyd yn y 12fed ganrif yn Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid ac Abaty Cwm-hir ger Llandrindod.
Mae'r gilffordd yn rhedeg am bron i 6 milltir ym Mhowys, ac yna'n croesi'r ffin i Geredigion am filltir arall.
Mae'n rhedeg trwy'r ucheldir mewn ardal anghysbell iawn - mae'n cynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) ac mae'n rhan o warchodfa natur genedlaethol.
Ers 1990, mae gorchymyn cau parhaol wedi atal cerbydau tair a phedair olwyn rhag gyrru arni.
Mae gorchymyn cau dros dro mewn lle ar gyfer beiciau modur, sydd wedi'i adnewyddu a'i ymestyn ers 2002.

Pan gerddodd Alun Davies ar hyd Lwybr y Mynaich gwelodd bod rhigolau dwfn yn y mawndir gerllaw
Elusen yw Cymdeithas Mynyddoedd Cambria (CMC) sy'n hybu'r "ymdeimlad o lonyddwch" yn ucheldir y canolbarth.
Cerddodd Alun Davies, un o aelodau'r gymdeithas, ar hyd Lwybr y Mynaich ddwy flynedd yn ôl. Dwedodd ei fod wedi ei "syfrdanu gan ba mor anodd oedd y cerdded".
Yn ôl CMC mae'r llwybr wedi cael ei "dorri'n wael gan gerbydau oddi ar y ffordd" ac mae "rhigolau teiars dwfn ar ddwy ochr" y llwybr.
Mae Mr Davies yn honni, er gwaetha'r gorchymyn cau dros dro, fod beiciau modur yn dal i gael eu gyrru ar y llwybr.
"Gorchymyn dros dro yw e - mae'n para am chwe mis, yna mae'n dod i ben, ac yna maen nhw'n ei ddechrau eto. Yr hyn ry'n ni ei eisiau yw gwaharddiad parhaol, trwy droi hwn yn drac sydd ond yn addas ar gyfer cerddwyr a cheffylau," meddai.

Cerbydau gyriant pedair olwyn o'r Iseldiroedd ar gilffordd arall ger Llwybr y Mynaich
Ar y bore Llun, pan o'n i ar y ffordd i gwrdd ag aelodau CMC ar Lwybr y Mynaich, gwelais grŵp o yrwyr 4x4 o'r Iseldiroedd a grŵp gwahanol ar feiciau modur – roedd y ddau grŵp ar gilffordd agored ger Llwybr y Mynaich ac nid ar y llwybr hanesyddol ei hun.
Dywedodd Gerard, prif yrrwr y grŵp o'r Iseldiroedd – "Ry'n ni'n cadw at y rheolau – mae hon yn ffordd heriol eisoes felly does dim angen i mi adael y llwybr.
"Pan oeddwn i'n arfer byw yn y DU, rwy'n cofio gweld olion teiars cerbydau yn mynd i fyny ac i lawr bryniau yn y caeau lle mae'r defaid yn cerdded.
"Dw i ddim yn meddwl y dylech chi wneud hynny."
Mewn digwyddiad ar wahân, gwelais hefyd un 4x4 gyda phlât rhif o'r Deyrnas Unedig yn cael ei helpu oddi ar Lwybr y Mynaich – lle mae cerbydau 4x4 wedi'u gwahardd – gan gerbyd achub.

Mae Glyndwr Jones yn ffermio tir ar Lwybr y Mynaich a'r ardal gyfagos
Dywedodd Dwynwen Belsey, aelod arall o'r CMC: "Mae hwn yn hen lwybr, mae'n mynd yn ôl ers cyn y canol oesoedd, ac mae hen hanes i'r llwybr o ran y mynaich, a'r pererinion fu'n cerdded rhwng y ddau abaty.
"Rwy'n credu bod angen cadw'r gwaharddiad ar (gerbydau modur) yn barhaol ac yn y pen draw i ailddosbarthu'r llwybr yn llwybr ceffyl."
Yn ôl Glyndwr Jones sy'n ffermio ger Llwybr y Mynaich fe ddylai'r llwybr gael ei gofnodi fel heneb ac ni ddylai unrhyw gerbydau modur fynd arno.
"Y mynach oedd wedi gwneud hon. Ac mae'r enw yn dweud y cyfan – 'troed'. Doedd y mynach ddim á 'Kawasaki' 'da fe na dim byd.
"Roedd e yn mynd gan bwyll bach dros y mynydd o un abaty i'r llall.
"Dyw'r motobeics, y rhan fwyaf ohonyn nhw beth bynnag, ddim moyn mynd ar y lle caled. Y sbort iddyn nhw yw mynd lan a lawr yr ochrau yma a trwy'r llefydd anodd."

Mae Dwynwen Belsey am gadw'r gwaharddiad ar gerbydau
Ddechrau mis Mehefin, derbyniodd Cyngor Powys bron i £11 miliwn o Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU i'w wario ar brosiectau i hyrwyddo twristiaeth hamdden, gan gynnwys adnewyddu llwybrau hawliau tramwy eraill.
Bydd y cyllid hwn ddim yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith ar Lwybr y Mynaich - dywed y cyngor eu bod yn gobeithio derbyn mwy yn y dyfodol er mwyn adnewyddu'r llwybr hwnnw.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton – yr aelod cabinet gyda chyfrifoldeb dros hawliau tramwy – mai un rheswm am y gwaith yw atgyweirio'r difrod sydd wedi'i wneud i'r llwybr a'r dirwedd gerllaw.
"Ry'n ni am ei drwsio er mwyn y bioamrywiaeth a gwneud yr ardal y gorau ag y gallwn, a'i gwneud yn hygyrch i gerddwyr, i feicwyr cyffredin, ar gyfer marchogaeth ac eraill."
Pan ofynnwyd iddi a yw'r "eraill" yn golygu y byddai hefyd yn hygyrch i feiciau modur, dywedodd y Cynghorydd Charlton: "Ydy, oherwydd mae'n agored i bawb.
"Mae'n ffordd gyhoeddus, felly mae'n agored i feicwyr modur. Ni allwn eu hatal. Mae'r cyfyngiad sydd gennym ar hyn o bryd wedi bod yno ers peth amser, ond yn ôl y gyfraith allwn ni ddim cadw'r llwybr ar gau am byth."
Cefnogi gwelliannau 'cyfyngedig'
Dywedodd y Cynghorydd Charlton mai cynllun y cyngor fyddai gosod sarn o gerrig sych sy'n "cyd-fynd â'r dirwedd gyfagos".
Ychwanegodd: "Ry'n ni eisiau gweld y llwybr yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr cyfrifol, beicwyr cyfrifol, a phobl sy'n marchog yn gyfrifol.
"Pobl sy'n edrych ar gefn gwlad mewn ffordd gyfrifol."
Ond mae'r CMC yn bryderus ynghylch y cynlluniau ac yn dweud y bydd yn parhau i'w gwrthwynebu.
Dywedodd Alun Davies: "Dwi'n cefnogi gwneud gwelliannau i'r llwybr, mewn ffordd gyfyngedig.
"Ond y broblem gyda'r beiciau modur yw, fel y gallwn weld, mae'n well ganddyn nhw fynd oddi ar y ffordd.
"Felly os bydd Cyngor Sir Powys yn gwario miliynau i roi wyneb newydd arno, bydd y bois hyn yn mynd o'i gwmpas e."