Cymru'n targedu Steve Tandy i fod yn brif hyfforddwr

Roedd Steve Tandy yn rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 2021
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi targedu Steve Tandy i fod yn brif hyfforddwr newydd ar dîm y dynion.
Mae'r undeb yn chwilio am olynydd parhaol i Warren Gatland, ar ôl i Matt Sherratt gymryd y llyw dros dro yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Ar hyn o bryd mae Tandy yn gweithio fel hyfforddwr amddiffyn gyda'r Alban, ac mae ganddo gytundeb tan 2026.
Pe bai Tandy, 45, yn derbyn y swydd, mae amheuon a fyddai'n gallu dechrau yn y rôl mewn pryd i arwain taith Cymru i Japan ym mis Gorffennaf.
Sherratt, prif hyfforddwr Rygbi Caerdydd, fyddai'r ffefryn i arwain y daith honno.

Fe chwaraeodd Tandy dros 100 o gemau i'r Gweilch yn ystod ei yrfa fel chwaraewr
Dyw Tandy heb weithio yng Nghymru ers cyfnod yn hyfforddi'r Gweilch rhwng 2012 a 2018 - pan enillodd y Gynghrair Geltaidd.
Fe dreuliodd gyfnod yn hyfforddi gyda'r Waratahs yn Awstralia cyn ymuno â thîm hyfforddi'r Alban yn 2019.
Roedd hefyd yn rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 2021.
Mae disgwyl hefyd y bydd Undeb Rygbi Cymru yn penodi cyfarwyddwr rygbi yr wythnos hon, gyda Dave Reddin yn ffefryn clir i gael y swydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Chwefror