Undeb Rygbi Cymru yn cymryd rheolaeth ar Rygbi Caerdydd

Mae Rygbi Caerdydd yn chwarae ym Mharc yr Arfau, sydd yng nghysgod Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rygbi Caerdydd yn chwarae ym Mharc yr Arfau, sydd yng nghysgod Stadiwm Principality

  • Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cymryd rheolaeth ar Rygbi Caerdydd ar ôl i endid cyfreithiol y clwb gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Roedd disgwyl y datblygiad yma ar ôl i'r tîm rhanbarthol ddweud ddydd Mawrth am eu bwriad i benodi gweinyddwr.

Dogfen ffurfiol ydy hon sy'n cael ei chyflwyno mewn llys gan gwmni neu gyfarwyddwyr i ddweud wrth bartïon bod y cwmni'n bwriadu mynd i ddwylo'r gweinyddwyr - proses sydd â'r nod o helpu busnes i osgoi mynd i'r wal yn llwyr.

Yn fuan wedi i gyfarwyddwyr y clwb benodi PwC, fe wnaeth y gweinyddwr werthu busnes y clwb a'i asedau i URC.

Dywedodd URC mai Caerdydd yw'r mwyaf o'r pedwar clwb proffesiynol yng Nghymru, a'u bod yn sicr y bydd rygbi proffesiynol yn parhau yn y brifddinas.

Ychwanegodd URC na fydd chwaraewyr a staff Caerdydd yn cael eu heffeithio gan y gwerthiant ac y bydd y gemau'n cael eu cyflawni, gyda thocynnau tymor a gemau yn parhau'n ddilys.

Mewn datganiad ddydd Mercher, cadarnhaodd Rygbi Caerdydd bod "hysbysiad o fwriad i benodi gweinyddwyr wedi'i ffeilio".

"Gallwn eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein gweithwyr a dyfodol y clwb.

"Mae gennym ni gynllun yn ei le a byddwn yn eich diweddaru cyn gynted â phosib."

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd PwC bod Helford Capital wedi methu â rhoi'r arian parod i'r clwb, a dyna wnaeth eu gwthio i ddwylo'r gweinyddwyr.

"Tra bod y cyfranddalwyr wedi cyfrannu rhywfaint, maen nhw wedi bod yn sylweddol is na'r symiau gafodd eu cytuno arnynt yn y cytundeb, ac o ganlyniad mae sefyllfa arian parod y Clwb wedi gwaethygu."

Ray Lee-Lo gyda'r bel i GaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rygbi Caerdydd yn un o bedwar tîm rygbi undeb proffesiynol yng Nghymru

Dywedodd prif weithredwr URC, Abi Tierney fod angen i rygbi proffesiynol gael ei gadw yng Nghaerdydd.

"Y chwaraewr, y staff a'r cefnogwyr yw'n blaenoriaeth," meddai Abi Tierney.

"Gallant fod yn sicr y bydd rygbi proffesiynol yn parhau ym Mharc yr Arfau.

"Rydym wedi bod mewn cyswllt agos â Bwrdd Rygbi Caerdydd am fisoedd unwaith y gwnaethon nhw ddod yn ymwybodol o'r risg nad oedd cyllid cyfranddalwyr ar gael.

"O ganlyniad, mae URC wedi gallu ymateb yn sydyn i roi cefnogaeth i Gaerdydd."

Mae Ms Tierney wedi nodi mai ateb dros dro fydd hwn gydag URC yn edrych i ddychwelyd Caerdydd i berchnogaeth breifat.

Dywedodd URC mai Caerdydd yw'r mwyaf o'r pedwar clwb proffesiynol yng Nghymru, gyda'r boblogaeth o fewn y rhanbarth yn cynnwys mwy o glybiau a mwy o ysgolion nag unrhyw un arall.

Fe wnaeth staff Caerdydd, gan gynnwys chwaraewyr a hyfforddwyr, gynnal cyfarfod brys brynhawn Mawrth gyda'r prif weithredwr, Richard Holland.

Dywedodd cadeirydd Rygbi Caerdydd, Alun Jones mai'r "flaenoriaeth yw sicrhau ein staff, dyfodol y clwb a llwybr rygbi yn y brifddinas a'r rhanbarth yn ehangach".

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Undeb Rygbi Cymru am sicrhau sefydlogrwydd ariannol a sicrhau bod rygbi proffesiynol yn parhau yng Nghaerdydd wrth i ni nesáu at dymor 150," meddai Mr Jones.